Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Doeth i Danau Gwyllt

Doeth i Danau Gwyllt

Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn eich annog i fod yn ymwybodol o beryglon tanau gwyllt dros dymhorau’r gwanwyn a'r haf #doethidanaugwyllt.

Gyda’r tymhorau ar dro, a’r addewid o dywydd braf ar y gorwel, dyma adeg dda i fwynhau gweithgareddau yn yr awyr iach, i drefnu gwyliau, i wersylla gyda’r teulu, ac i fwynhau eich ardal leol.

Er hyn, daw’r Haf â’i beryglon hefyd, oni fyddwch chi’n dilyn canllawiau diogelwch ymarferol a chywir sy’n addas i’r adeg hon o’r flwyddyn. Trwy wneud rhai paratoadau syml a chymryd ychydig mwy o ofal gallwch gadw’ch hun, eich teulu, eich cymunedau a’r amgylchedd yn ddiogel.

Yn yr haf, gall glaswelltir a mynyddoedd fod yn sych iawn, sy’n golygu y gall tân sydd wedi’i gynnau y tu allan ledaenu yn gyflym iawn, gan ddinistrio popeth sydd ar ei lwybr. 

Mae tanau gwyllt yn gyfrifol am ddinistrio miloedd o hectarau o gefn gwlad, mannau agored a chynefinoedd bywyd gwyllt bob blwyddyn. Bydd partneriaid y Bwrdd Tanau Gwyllt yn ymrwymo i weithio gyda'n cymunedau er mwyn creu tirwedd sy’n iachach ac yn fwy gwydn, a hynny trwy wella bioamrywiaeth ar gyfer ein dyfodol.

Trwy weithio gyda'n cymunedau i rannu gwybodaeth, ein gobaith yw gwella dealltwriaeth o'r hyn y gallwn ei wneud i atal tanau gwyllt rhag digwydd ac i gyfyngu ar y difrod y gallant ei wneud i'r amgylchedd.

 

Ynghylch Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru

Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn ddull aml-asiantaethol o wella ein dealltwriaeth a’n rheolaeth o’r perygl y mae tanau gwyllt yn ei beri i amgylchedd a chymunedau Cymru.

Caiff ei gyflwyno trwy Siarter Tanau Gwyllt, a’i nod yw adeiladu ar y sylfaen o wybodaeth a phrofiad a enillwyd dros y degawd diwethaf, a hynny gan ystyried perygl hollbresennol newid hinsawdd yn ogystal â chydnabod gwerth annog cymunedau ac unigolion i weithio gyda’i gilydd i ddiogelu'r ardaloedd lle maent yn byw ac yn gweithio ac ardaloedd maent yn ymweld â nhw.

Amcan y bwrdd yw ymgysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol, cydweithio er mwyn cefnogi’r gwaith o reoli tanau gwyllt, ac i wrando a rhannu datrysiadau ymarferol ar gyfer Cymru. Trwy ddefnyddio’r dull cydweithredol hwn, mae’r asiantaethau sy’n rhan o Fwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn gobeithio cynnig gwell dealltwriaeth o'r hyn y gellir ei wneud i gyfyngu ar nifer y tanau gwyllt, a thrwy hynny leihau'r difrod y gallant ei achosi i'n hamgylchedd.

Gweithio gyda'n gilydd i amddiffyn Cymru a’n cefn gwlad.

Rhwng Ionawr 2022 ac Ionawr 2024, ymatebodd Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru i 5111 o danau glaswellt, gyda 1232 ohonynt o fewn ardal Gwasanaeth Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Bydd dull Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru o reoli’r risg o danau gwyllt yn cynnwys tair thema allweddol, gyda phob un wedi’i dylunio er mwyn sicrhau ein bod ni’n gallu canolbwyntio ar yr ardaloedd hynny sydd angen y mwyaf o sylw a’r meysydd a fydd yn gwella’n dealltwriaeth ni o danau gwyllt a’n gallu i gyfyngu ar eu heffaith.

  • Partneriaethau - Trwy weithio mewn partneriaeth sy'n esblygu, byddwn yn dod â Llywodraeth Cymru, y Gwasanaethau Brys, Sefydliadau Cyhoeddus a Phreifat, Tirfeddianwyr a Defnyddwyr Tir at ei gilydd i reoli ac i ddatblygu ein tirwedd.
  • Gwydnwch Amgylcheddol a Chymunedol - Byddwn yn cyfrannu at reoli ein tirwedd er mwyn diogelu bywyd gwyllt; coedwigaeth a bywoliaethau; i wella lles, iechyd ac amwynder, i hwyluso cynhyrchu bwyd cynaliadwy, ac i greu ymdeimlad o le a pherchnogaeth gymunedol.
  • Atal ac Amddiffyn - Byddwn yn gweithredu ystod amrywiol o dechnegau rheoli er mwyn lleihau effaith tanau gwyllt ar ein cymunedau a'r dirwedd yng Nghymru.

Adnoddau Ymgyrch Doeth i Danau Gwyllt.

Er gwaethaf ein llwyddiannau ni yn y gorffennol, mae tanau gwyllt ledled Cymru yn parhau i fod yn berygl parhaol i'n hamgylchedd, i’n heconomi ac i’n cymunedau, a thros y pedair blynedd diwethaf rydym wedi gweld arwyddion cynnar bod y gostyngiad yn nifer yr achosion yn arafu, gan awgrymu y gallem fod angen dull newydd o weithredu i ddiogelu ein cymunedau.

Nod Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru, gyda’r dull aml-asiantaethol o ymdrin ag ymwybyddiaeth tanau gwyllt, yw ymgysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol, cydweithio er mwyn cefnogi’r gwaith o reoli tanau gwyllt, ac i wrando a rhannu datrysiadau ymarferol ar gyfer Cymru.

Dyma pam rydym wedi datblygu deunyddiau ymgyrch gall holl bartneriaid, cyfranwyr a rhanddeiliaid yr ymgyrch #DoethiDanauGwyllt gael gafael yn rhwydd:  

  • Pob Datganiad i'r Wasg (yn y Gymraeg a’r Saesneg) a gyhoeddwyd i gefnogi'r ymgyrch. 
  • Negeseuon cyfryngau cymdeithasol dwyieithog wedi'u hysgrifennu ymlaen llaw. 
  • Delweddau i chi lawrlwytho a’u defnyddio ar Facebook, Twitter, Instagram i gyd-fynd â'r negeseuon cyfryngau cymdeithasol a ysgrifennwyd ymlaen llaw – neu i gyd-fynd ag unrhyw negeseuon eraill sy’n benodol i’r asiantaeth yr ydych eisiau eu postio i gefnogi'r ymgyrch. 
  • Pob ffotograff a fideo o ddigwyddiadau y gellid eu defnyddio i gefnogi'r ymgyrch. 
  • Unrhyw ddeunydd briffio a ddatblygir i’n cynorthwyo wrth gyfleu ein negeseuon i'n staff rheng flaen.  

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch dull cyfathrebu’r ymgyrch Doeth i Danau Gwyllt, neu os hoffech drafod unrhyw ddeunyddiau ychwanegol a allai fod yn fuddiol i'r ymgyrch, cysylltwch â ni ar bob cyfrif. 

Diolch yn fawr, 

Tîm Cyfryngau GTAGC

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen