Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ein Llywodraethiant a Deddfwriaeth

Ein Llywodraethiant a Deddfwriaeth

Ein Llywodraethiant a Deddfwriaeth

Fel pob corff yn y sector cyhoeddus, rhaid i Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru weithredu yn unol â nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth, sy’n cynnwys:

  • Deddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004;
  • Gorchymyn Gwasanaethau Tân ac Achub (Argyfyngau) (Cymru) 2007
  • Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974;
  • Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004;
  • Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005;
  • Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009;
  • Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) Rheoliadau 2011;
  • Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011;
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015;
  • Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub Llywodraeth Cymru 2016;
  • Gorchymyn Gwasanaethau Tân ac Achub (Argyfyngau) (Cymru) (Diwygio) 2017;
  • Deddf Diogelu Data y Deyrnas Unedig 2018;
  • Y Ddyletswydd Trais Difrifol 2022;
  • Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.

Datganiad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Mae egwyddor datblygu cynaliadwy Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn nodi “Dylai pob Gwasanaeth Cyhoeddus weithredu mewn modd sy’n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.”

Rydym wedi ymrwymo i gyflawni ein dyletswyddau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Trwy gydol datblygiad ein Cynllun Rheoli Risg Cymunedol, ystyriwyd nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i sicrhau ein bod yn cyfrannu at eu cyflawniad.

Bydd ein Hamcanion Gwella a Llesiant (a ddiffinnir o dan Adran Beth ydym yn bwriadu ei wneud yn ystod oes y cynllun hwn? Ein Hegwyddorion, tudalennau 24 i 36) yn ein helpu i gyflawni’r saith nod llesiant mewn sawl ffordd. Rydym wedi sicrhau bod y camau gweithredu ar gyfer ein Hamcanion Gwella a Llesiant wedi’u datblygu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.

Y canlynol yn esbonio sut mae Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi gosod amcanion llesiant yn unol â’r egwyddor hon.

Trwy ein Hegwyddorion Atal a Diogelu, byddwn yn cyfrannu tuag at Gymru Lewyrchus drwy weithio'n arloesol i gadw pobl yn fwy diogel yn eu cartrefi a'u busnesau. Trwy leihau'r costau sy'n gysylltiedig â marwolaethau, anaf, difrod a tharfu yn sgil tân, byddwn yn gwella ein cefnogaeth i economïau lleol Gogledd Cymru. Trwy ein Hegwyddor Pobl, byddwn yn recriwtio, datblygu a chadw gweithlu dwyieithog, medrus a brwdfrydig iawn sy’n cynrychioli ac yn hyrwyddo amrywiaeth y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a byddwn yn mabwysiadu arferion ecogyfeillgar yn ein gweithrediadau dyddiol i leihau allyriadau carbon fel rhan o'n Hegwyddor Amgylcheddol.

Mae ein Hegwyddor Amgylcheddol a'n hamcanion sylfaenol yn cyfrannu tuag at Gymru Gydnerth trwy fabwysiadu arferion ecogyfeillgar yn ein gweithrediadau beunyddiol i leihau allyriadau carbon ac effeithiau amgylcheddol eraill a thrwy godi ymwybyddiaeth amgylcheddol ymhlith ein staff a'n cymunedau.

Byddwn yn cyfrannu at Gymru Iachach drwy ein Hegwyddor Atal drwy ddarparu archwiliadau diogel ac iach i'n dinasyddion mwyaf agored I niwed a gwneud i bob cyswllt gyfrif drwy rannu unrhyw bryderon iechyd a llesiant a nodwyd gyda phartneriaid perthnasol. Trwy ein Hegwyddor Pobl byddwn yn cefnogi ein gweithlu i fod yn ffit yn gorfforol ac yn wydn yn feddyliol a thrwy ein Hegwyddor Ymateb byddwn yn gwella darpariaeth frys yn ein hardaloedd mwy gwledig, llai poblog.

Trwy ein Hegwyddor Pobl byddwn yn nodi ac yn gwneud y mwyaf o botensial staff drwy reoli a datblygu pobl yn effeithiol, gan arwain at ddiwylliant o berfformiad uchel, lle mae pobl yn gwerthfawrogi ac yn parchu ei gilydd, a thrwy hynny gyfrannu at Gymru sy'n fwy cyfartal.

Trwy ein Hegwyddorion Atal, Diogelu, Ymateb ac Amgylcheddol, byddwn yn cyfrannu at Gymru o Gymunedau Cydlynus gan sicrhau bod tanau mewn cartrefi, busnesau neu ar dir agored naill ai'n cael eu hatal neu fod eu heffaith yn cael ei lleihau cyn belled ag y bo modd.

Byddwn yn cyfrannu at Gymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu, drwy ein Hegwyddor Pobl drwy gynnig mynediad i'n gwasanaethau a'r gallu i gyfathrebu â ni yn Gymraeg a byddwn yn cefnogi ein staff I siarad eu dewis iaith yn y gweithle a chynnig cyfleoedd i staff sy'n dymuno dysgu Cymraeg. Trwy ein Hegwyddor Diogelu, byddwn yn gweithio gyda phartneriaid lleol i gadw safleoedd ac adeiladau treftadaeth yn ddiogel rhag tân.

Byddwn yn chwarae ein rhan mewn Cymru sy'n Gyfrifol ar Lefel Fydeang drwy ein hegwyddorion amgylchedd a diogelu. Byddwn yn lleihau ein hallyriadau carbon ein hunain trwy newid ein fflyd o Injanau Tân Diesel i redeg ar Olew Llysiau Hydrogenedig, prynu dim ond ceir a faniau allyriadau sero neu isel iawn a dileu gwres nwy ac LPG o'n hystad yn raddol. Trwy ein gwaith Diogelu, byddwn yn ceisio osgoi neu gyfyngu ar allyriadau nwyon niweidiol i'r atmosffer o ganlyniad i danau gwastraff diwydiannol neu amgylcheddol.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 hefyd yn nodi’r pum ffordd ganlynol o weithio y mae’n rhaid i ni eu hystyried a gweithredu yn unol â nhw wrth gynllunio a gwneud penderfyniadau:

Cydbwyso anghenion tymor byr gydag anghenion hirdymor

Mae edrych i’r hirdymor yn ein Cynllun 2024-29 yn ein galluogi i ystyried sut y bydd tueddiadau a newidiadau yn y dyfodol yn effeithio ar y cyhoedd a’n gwasanaethau, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd, newidiadau demograffeg a ragwelir sef poblogaeth sy’n heneiddio a chyfyngiadau ariannol sy’n effeithio ar wasanaethau cyhoeddus;

Neilltuo adnoddau i atal problemau

Mae ein gwaith ataliol yn amrywio o weithio gyda busnesau a pherchnogion adeiladau i wneud safle’n ddiogel, i weithio gydag unigolion a grwpiau i newid ymddygiad, a’r cyfan gyda’r nod o atal yr angen am ymateb brys;

Defnyddio dull integredig, gan gydbwyso anghenion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol

Mae ein proses gynllunio yn cael ei chynnal ar y cyd drwy gynnwys rhanddeiliaid amrywiol gan gynnwys ein staff, ein partneriaid ac aelodau’r cyhoedd i sicrhau bod effaith cynigion yn cael ei harchwilio’n llawn;

Cydweithio ag eraill i helpu i gyflawni amcanion llesiant

Rydym yn gweithio gydag ystod eang o bartneriaid ar lefel strategol a lleol, gan gynnwys y Fforwm Lleol Cymru Gydnerth a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, i ddatblygu a darparu dulliau lliniaru risg;

Cynnwys eraill i adlewyrchu amrywiaeth ardal

Mae ein gweithgareddau ymgynghori ac ymgysylltu yn sicrhau bod cyfleoedd i’r cyhoedd, gwleidyddion etholedig lleol, asiantaethau partner a’n staff gyfrannu barn a syniadau.

Ein Datganiad Dyletswydd Economaidd-Gymdeithasol

Ers mis Mawrth 2021, bu’n rhaid i gyrff cyhoeddus yng Nghymru ystyried sut mae penderfyniadau strategol yn effeithio ar y rhai hynny sy’n byw mewn amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd llai ffafriol, er enghraifft, yn profi tlodi neu fynediad anghyfartal i wasanaethau fel trafnidiaeth. Gall anfantais o’r fath arwain at anghydraddoldebau mewn canlyniadau gan gynnwys iechyd gwaeth, cyrhaeddiad addysgol is, a chyfleoedd gwaith llai ffafriol.

Felly, rydym yn rhoi sylw dyledus i anfantais economaidd-gymdeithasol wrth wneud penderfyniadau strategol, sy’n cyfrannu at nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae’r cynllun hwn wedi bod yn destun Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb i sicrhau ei fod yn deg ac nad yw’n cyflwyno rhwystrau i gyfranogiad neu anfantais i unrhyw grwpiau gwarchodedig rhag cymryd rhan yn ystod ymgynghori a gweithredu.

Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol Cymru 2021

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i baratoi Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol bob pum mlynedd. Mae’r Adroddiad yn rhoi trosolwg o bedwar ysgogwr newid mawr:

  • Pobl a Phoblogaeth,
  • Anghydraddoldebau,
  • Iechyd a Therfynau’r Blaned,
  • Technoleg

Mae’r ysgogwyr newid hyn yn debygol o effeithio ar allu Cymru i gyflawni’r saith nod llesiant, a chyfeiriwyd atynt wrth ddatblygu’r cynllun hwn.

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009

Rhaid i Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru wneud trefniadau ar gyfer gwelliant parhaus wrth arfer eu swyddogaethau, drwy osod amcanion i’w hunain ym mhob blwyddyn ariannol yn erbyn o leiaf un o saith swyddogaeth.

Isod, rydym wedi nodi pa un o’n hamcanion gwella a llesiant, a amlinellir o dan adran Beth ydym yn bwriadu ei wneud yn ystod oes y cynllun hwn? Ein Hegwyddorion, a fydd yn ein cefnogi i gyflawni yn erbyn y swyddogaethau hyn;

Effeithiolrwydd Strategol      Pob Un o’n Hegwyddorion

Ansawdd Gwasanaethau       Ein Hegwyddorion Atal, Diogelu ac Ymateb

Argaeledd Gwasanaethau     Ein Hegwyddor Ymateb

Tegwch                                   Ein Hegwyddorion Atal, Diogelu ac Ymateb

Cynaliadwyedd                      Ein Hegwyddor Amgylchedd

Effeithlonrwydd                    Pob Un o’n Hegwyddorion

Arloesi                                     Pob Un o’n Hegwyddorion

Fframwaith Cenedlaethol Gwasanaethau Tân ac Achub Llywodraeth Cymru 2016

Mae’r Fframwaith hwn yn amlinellu mai prif nod Awdurdodau Tân ac Achub ddylai fod i gadw pobl, cymunedau, busnesau a’r amgylchedd yng Nghymru yn ddiogel rhag tanau a pheryglon eraill mor effeithiol ac effeithlon â phosibl.

gefnogi’r nod hwnnw, mae’r Fframwaith yn nodi’r amcanion allweddol canlynol ar gyfer Awdurdodau Tân ac Achub

  • Mynd ati’n barhaus ac mewn modd cynaliadwy i leihau risg a gwella diogelwch dinasyddion a chymunedau – Mae ein Hegwyddorion Atal a Diogelu yn cefnogi cyflawni’r amcan hwn.
  • Ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i ddigwyddiadau - Mae ein Hegwyddor Ymateb yn cefnogi cyflawni’r nod hwn.
  • Bod yn atebol mewn modd eglur ac yn gyhoeddus am gyflenwi a chyllido, gan ddangos y safonau llywodraethu uchaf - Mae ein Datganiad Llywodraethu Blynyddol, Asesiad o Berfformiad Blynyddol a Chyhoeddi Datganiad Cyfrifon yr Awdurdod yn cefnogi cyflawni’r amcan hwn.
  • Cynnal pwysau tuag i lawr ar gostau ac achub ar bob cyfle i gyflawni arbedion effeithlonrwydd - Mae ein Datganiad Llywodraethu Blynyddol, Asesiad o Berfformiad Blynyddol a Chyhoeddi Datganiad Cyfrifon yr Awdurdod yn cefnogi cyflawni’r amcan hwn.
  • Cydweithio’n effeithiol gyda phartneriaid i wella effeithlonrwydd a llesiant dinasyddion a chymunedau - Mae ein Hegwyddorion Atal a Diogelu yn cefnogi cyflawni’r amcan hwn.
  • Gwerthfawrogi a datblygu’r gweithlu i’r safonau uchaf – Mae ein Hegwyddor Pobl yn cefnogi cyflawni’r amcan hwn.

Mesur Y Gymraeg (Cymru) 2011

Mae Mesur Y Gymraeg (Cymru) 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i’r ieithoedd Gymraeg a’r Saesneg gael eu trin yn gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth gyfoethog ein cymunedau ac arwyddocâd ein treftadaeth ddiwylliannol. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu trin yn gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru.

Cyflwynodd Comisiynydd y Gymraeg eu Hysbysiadau Cydymffurfio i’r Awdurdod Tân ac Achub ar 30 Medi 2016. Mae’r ddogfen hon yn rhestru pa rai o Safonau’r  Gymraeg sy’n berthnasol i’r Awdurdod ac yn rhoi manylion am y gwasanaethau y gall dinasyddion ddisgwyl eu derbyn yn Gymraeg.

Mae Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cyhoeddi adroddiad blynyddol sy’n dangos sut rydym yn cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg.

Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) Rheoliadau 2011;

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) Rheoliadau 2011yn cynnwys dyletswydd cydraddoldeb sector cyhoeddus sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff y sector cyhoeddus, wrth arfer eu swyddogaethau, roi sylw dyledus i’r angen i:

Ddileu gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall a waherddir gan neu o dan y Ddeddf hon.

  • Hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng personau sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phersonau nad ydynt yn ei rhannu.
  • Meithrin perthynas dda rhwng personau sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phersonau nad ydynt yn ei rhannu.

Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus gyhoeddi amcanion cydraddoldeb, er mwyn galluogi’r awdurdod i gyflawni’r ddyletswydd gyffredinol yn well a rhaid iddo adolygu ei amcanion cydraddoldeb bob pedair blynedd. Mae Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn bodloni’r gofyniad hwn drwy gyhoeddi cynnydd yn erbyn ei amcanion cydraddoldeb bob blwyddyn.

Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGCau)

Yn ogystal â’r dyletswyddau a osodir ar gyrff cyhoeddus unigol, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i bob ardal awdurdod lleol ffurfio Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC).

O ran yr ardal a gwmpesir gan Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, sefydlwyd tri Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus:

  • Gwynedd a Môn.
  • Conwy a Sir Ddinbych.
  • Sir y Fflint a Wrecsam.

Mae pob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cyhoeddi ‘Cynllun Llesiant’ i nodi eu blaenoriaethau a sut maent yn gweithio i gyflawni’r blaenoriaethau hynny yn eu hardaloedd.

Amcanion Gwynedd a Môn

  • Rydym am weithio gyda’n gilydd i liniaru effaith tlodi ar lesiant ein cymunedau.
  • Rydym am weithio gyda’n gilydd i wella lles a llwyddiant ein plant a phobl ifanc er mwyn gwireddu eu llawn botensial.
  • Rydym am weithio gyda’n gilydd i gefnogi ein gwasanaethau a’n cymunedau I symud tuag at Sero Net Carbon.

Amcanion Conwy a Sir Ddinbych

  • Gwneud Conwy a Sir Ddinbych yn lle mwy cyfartal gyda llai o amddifadedd. Rydym hefyd wedi nodi pedair thema allweddol i gefnogi ein prif amcan, gan gynnwys:
  • Llesiant - Mae cymunedau’n hapusach, yn fwy iach ac yn fwy gwydn i wynebu heriau, megis yr Argyfwng Newid Hinsawdd a Natur, neu’r cynnydd mewn costau byw.
  • Economi – Mae yna economi ffyniannus, a gefnogir gan weithlu medrus sy’n barod at y dyfodol:
  • Cydraddoldeb – Mae’r rhai â nodweddion gwarchodedig yn wynebu llai o rwystrau.
  • Tai – Mae gwell mynediad at dai o ansawdd da.

Amcanion Sir y Fflint a Wrecsam

  • Datblygu cymunedau sy’n ffynnu drwy leihau anghydraddoldebau ar draws yr amgylchedd, addysg, cyflogaeth, incwm a thai.
  • Gwella lles cymunedol drwy alluogi pobl o bob oed i fyw bywydau diogel, iach ac annibynnol.

Rydym yn parhau i weithio gyda’r BGCau a’u cefnogi yn ein hardal. Bydd hyn yn cynnwys meincnodi ein gweithgareddau yn erbyn pob un o’r uchod er mwyn cael gwell dealltwriaeth o sut y gallwn fod yn aelodau effeithiol o’n Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, cydweithio a defnyddio dull integredig o ddarparu gwasanaethau, i helpu pobl deimlo’n ddiogel ac yn iach yn eu bywydau bob dydd.

Mae ein gwaith gyda’r BGCau yn dangos ein hymrwymiad i egwyddor datblygu cynaliadwy DLlCD, saith nod DLlCD a chymhwyso’r pum ffordd o weithio. Mae mwy o wybodaeth am y BGCau i’w gweld drwy ddilyn y dolenni isod;

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint a Wrecsam

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen