Bwrdd Pensiwn Lleol

Cyflwynwyd gofynion llywodraethu newydd o ganlyniad i Ddeddf Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus 2013 mewn perthynas â Chynlluniau Pensiwn y Diffoddwyr Tân.

Mae Deddf Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus 2013 yn darparu ar gyfer:

'awdurdod cyfrifol' a fydd yn creu rheoliadau ar gyfer cynlluniau pensiwn y diffoddwyr tân, - Llywodraeth Cymru fydd yn gyfrifol am hyn yng Nghymru
sefydlu 'bwrdd cynghori' cenedlaethol newydd ar gyfer y cynllun er mwyn cynghori Llywodraeth Cymru mewn perthynas â newidiadau i'r cynllun ac er mwyn cynghori rheolwyr y cynllun a'r byrddau pensiwn
'rheolwr y cynllun' a fydd yn gyfrifol am reoli a gweinyddu'r cynllun yn lleol - sef yr Awdurdod Tân ac Achub a phrif ymgynghorydd sef y Dirprwy Brif Swyddog Tân
sefydlu 'bwrdd pensiwn' lleol newydd i gynorthwyo rheolwr y cynllun.

Bydd y Bwrdd Pensiwn Lleol yn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar lywodraethu a gweinyddu a gyhoeddir gan y Rheoleiddiwr Pensiynau. Bydd y Bwrdd hefyd yn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r gofynion o ran gwybodaeth a dealltwriaeth yng Nghod Ymarfer y Rheoleiddiwr Pensiynau.

Mae'r Bwrdd Pensiwn Lleol yn atebol i'r Rheoleiddiwr Pensiynau, Bwrdd Cynghori Cenedlaethol y Cynllun a'r Awdurdod Gweinyddu yn eu rôl fel Rheolwr y Cynllun.  Bydd Bwrdd Cynghori Cenedlaethol y Cynllun yn cynghori Llywodraeth Cymru a Chronfa Bensiwn Dyfed (Gweinyddwyr y cynlluniau pensiynau). Bydd y Rheoleiddiwr Pensiynau yn atebol i Lywodraeth Cymru ond bydd hefyd yn bwynt uwchgyfeirio ar gyfer y Bwrdd Pensiwn Lleol o ran materion megis chwythu'r chwiban neu faterion tebyg (yn atodol i'r polisi chwythu'r chwiban a'r polisïau gwrth-dwyll a llygredd a weithredir gan yr awdurdod gweinyddu).

Cylch Gwaith

Polisi a gweithdrefn Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar gyfer hysbysu’r Rheoleiddiwr Pensiynau am Achosion o Dorri’r Gyfraith

Polisi Rheoli Gwrthdaro Buddiannau

Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Pensiwn Lleol 2016-17

Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Pensiwn Lleol 2015-16

Aelodaeth y Bwrdd Pensiwn Lleol 2017-2019
 
Cyflogwr:
Tri aelod o ATAGC, sef y Cynghorwyr Rodney Skelland, John Brynmor Hughes and Bryan Apsley
Clerc yr Awdurdod.
Trysorydd yr Awdurdod.

Rheolwr y Cynllun:
Dau gynrychiolydd o bob corff cynrychioliadol sy'n gysylltiedig yn swyddogol ag ATAGC:
Undeb yr FBU - Parry Davies a Blythe Roberts
Cymdeithas y Swyddogion Tân (FOA) - Geraint Hughes a Paul Scott
Cymdeithas y Prif Swyddogion Tân (CFOA) - Richard Fairhead a Ruth Simmons.

Cadeirydd y Bwrdd
Bydd Cadeiryddiaeth y Bwrdd yn cylchdroi bob dwy flynedd rhwng aelod sy'n cynrychioli'r cyflogwr ac aelod sy'n cynrychioli aelodau'r cynlluniau.
Richard Fairhead yw Cadeirydd y Bwrdd ar gyfer 2017-2019.  Mae'r Cadeirydd yn cael ei enwebu i sefyll ar Fwrdd Cynghori Cenedlaethol Pensiynau Diffoddwyr Tân.

Cyfarfodydd

Agenda 11/01/18

Agenda 07/04/17
Cofnodion 07/04/17 

Agenda 08/11/16
Cofnodion 08/11/16

Agenda 20/04/16
Cofnodion 20/04/16

Agenda 30/11/15
Cofnodion 30/11/15

Agenda 20/04/15
Cofnodion 20/04/15

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen