Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Pam rydyn ni’n ymgynghori?

 

Ar hyn o bryd, dim ond mewn 8 o’n gorsafoedd tân wedi’u lleoli’n bennaf ar hyd coridor ffordd ddeuol yr A55 yn ein rhanbarth y mae gennym ddarpariaeth frys wedi’i gwarantu.

Mewn mannau eraill yng Ngogledd Cymru, rydyn ni’n dibynnu ar ddiffoddwyr tân rhan amser neu ar-alwad (sy’n gweithredu’r system dyletswydd rhan amser) – ac mae’n anodd sicrhau bod y rhain ar gael
yn ystod y dydd.

Rydyn ni’n gweithio’n galed i recriwtio a chadw’r diffoddwyr tân hyn ond mae angen i ni gael darpariaeth frys wedi’i gwarantu mewn ardaloedd mewndirol, er mwyn sicrhau y gallwn ddarparu criw ymateb o fewn yr amser ymateb gorau posib ym mhob rhan o Ogledd Cymru. 

Rydyn ni felly wedi bod yn archwilio senarios ar gyfer darparu darpariaeth frys yn y dyfodol – gyda’r bwriad o wella’r ddarpariaeth bresennol tra hefyd yn cydnabod yr heriau ariannol presennol. Gan
weithio gydag arbenigwyr annibynnol, rydyn ni wedi bod yn modelu’n union sut y gallem wneud y gorau o’n hadnoddau ac ymateb yn y ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon.

Gwyddom fod nifer y digwyddiadau yr ydyn ni’n mynd iddynt yn cynyddu trwy gydol y dydd, gan gyrraedd uchafbwynt yn gynnar gyda’r nos ac yna gostwng yn y nos.

Gallem felly edrych ar gyfateb y galw hwn trwy newid y ffordd y mae rhai o’n criwiau’n gweithio mewn rhai ardaloedd.

 

Er y gallwn weithio i wella sut y gallai ein darpariaeth a pherfformiad ar gyfartaledd edrych, bydd ardaloedd o hyd, yn enwedig mewn lleoliadau gwledig, lle byddem yn parhau i weithio’n galetach i wella ein gwasanaethau amddiffyn ac atal a pharhau i ganolbwyntio ar recriwtio staff ar alw a’u hargaeledd.


Byddai hyn yn ein galluogi i ymateb yn fwy effeithiol i’r holl argyfyngau y cawn ein galw i fynd atynt, gan gynnwys gwrthdrawiadau ar y ffordd a digwyddiadau o ganlyniad i dywydd eithafol, ac yn hollbwysig, ar yr amser iawn.

Ynghyd â’r risgiau newydd, mae’r dechnoleg y mae diffoddwyr tân yn ei defnyddio wedi dod yn fwy soffistigedig. Felly, mae hyfforddiant yn hollbwysig, ac oherwydd bod nifer y tanau wedi gostwng yn sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf diolch i’n gwaith atal, mae hyd yn oed yn fwy hanfodol bod hyfforddiant realistig a ymdrochol yn cael ei roi ym mhob un o’r argyfyngau rydyn ni’n debygol o fynd atynt.

Mae angen i ni hefyd fod yn ymwybodol o’n hangen i hyfforddi diffoddwyr tân i gadw eu hunain a’r cyhoedd yn ddiogel a darparu ymateb o’r ansawdd uchaf.

Felly, rydyn ni wrthi’n datblygu achos busnes i adeiladu Canolfan Hyfforddi fodern o’r radd flaenaf. Byddai wedi’i lleoli’n fwy canolog, fel bod llai o amser yn cael ei dreulio’n teithio a mwy o amser yn hyfforddi. Gall hefyd baratoi ein diffoddwyr tân at ddelio â risgiau newydd a phresennol a gallem ei rannu gyda’n partneriaid yn y gwasanaethau brys ac eraill y gallwn ni fod mewn argyfyngau gyda nhw. Mae hyfforddi gwasanaethau brys ar y cyd a gweithgareddau ar y cyd yn sicrhau bod gan ein pobl y sgiliau iawn.

Mae copi PDF o'r ddogfen ymgynghori llawn ar gael yma.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen