Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Beth oedd gan randdeiliaid i’w ddweud

Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda’n gilydd i ddatblygu’r ffordd orau o ddarparu ein darpariaeth frys yn y dyfodol, gan sicrhau y gallwn fod yn y lle iawn, ar yr amser iawn, gyda’r sgiliau cywir.

Yn seiliedig ar ein gwaith modelu ac ar ein profiad proffesiynol ein hunain, rydyn ni wedi archwilio amrywiaeth o wahanol senarios. Trwy gyfres o weithdai cyn-ymgynghori, seminarau a grwpiau ffocws rydyn ni wedi casglu mewnwelediadau ac adborth gan ystod eang o bobl, gan gynnwys staff a chyrff cynrychioliadol, y cyhoedd, cynrychiolwyr y cyngor, grwpiau agored i niwed lleol ac aelodau o’n Hawdurdod Tân.

Defnyddiwyd y sesiynau hyn i edrych ar beth yn union oedd yn bwysig i’w ystyried wrth wella ein gwasanaethau darpariaeth frys ar draws Gogledd Cymru.

Yna fe wnaethon ni gynnal sesiynau rhanddeiliaid pellach yn cynnwys trawstoriad eang o bobl i’n helpu i ddatblygu rhestr wedi’i mireinio o opsiynau posib ar gyfer y dyfodol, pob un ohonyn nhw’n ddichonadwy a phob un yn adlewyrchu’r hyn sydd bwysicaf i bawb.

Staff


“Efallai y bydd tywydd eithafol yn golygu y bydd
angen mwy o ymateb i danau yn yr awyr agored.”

“Effaith negyddol ar staff yn sgil newid systemau
dyletswydd neu leoliad gorsaf – colledion o ran staff.”

“Byddwch yn fwy beiddgar a chyfleu ein gwerth am
arian a pheidiwch â derbyn cyfyngiadau cyllidebol.”

 

Uwch arweinwyr allanol lleol a chenedlaethol

 

“A oes ffrydiau ariannu eraill ar gael
gan Lywodraeth Cymru?”

“Deall a yw’r adolygiad o’r Ddarpariaeth
Frys yn cael ei yrru gan bwysau ariannol?”

“Dileu aneffeithlonrwydd.”

“Gofynnir am gynllun cyllideb tymor canolig 5 mlynedd.”

“Dynodi’n ffurfiol y byddai’r ddarpariaeth
ddyddiol yn cael ei lleoli yn ôl risg.”

“Mae gostyngiad yn nifer y peiriannau tân yn Wrecsam wedi
bod yn ddadleuol o’r blaen ac mae ganddo’r potensial i fod yn
ddadleuol eto.”

 

Cyrff cynrychioli staff

“Mae barn gweithwyr yn bwysig.”

“A all staff gael eu trosglwyddo neu eu
hadleoli i Wasanaethau Tân ac Achub eraill?”

Risgiau yn y Dyfodol


“Byddai toriadau i’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn cael eu gweld fel bai’r
Cyngor lleol.”

“Cynnydd mewn poblogaeth yn arwain at gynnydd mewn tanau .”

 

Grwpiau ffocws a gynhaliwyd ar-lein

“Ydych chi’n ymgynghori gyda chynllunio strategol o ran
mwy o boblogaeth a thai o fewn y gymuned?”

“Pwy fydd yr ymgynghoriad yn cael ei anelu ato, sut bydd yn
digwydd a sut beth fydd o?”

“Bydd bod yn agored ac yn dryloyw trwy gydol y broses
ac nid y dyluniad terfynol yn allweddol yn ystod yr
ymgynghoriad.”

“Beth yw’r risgiau posib a’r effaith ar waith ataliol?”

“Mae angen i’r gwasanaeth fod yn edrych ar waith atal
gyda landlordiaid presennol a phobl o fewn y cymunedau.”

“O ran nifer y bobl Affricanaidd sy’n dod i mewn i’r ardal, yn
enwedig yn Wrecsam – a oes modd ystyried gwaith atal i’r
bobl hyn o fewn yr adolygiad o’r ddarpariaeth brys?”

 

Sesiwn bellach gyda thrawstoriad o randdeiliaid

Beth sy’n bwysig i chi pan fyddwn yn gwneud
penderfyniadau am y gwasanaethau a gynigiwn?

A oes unrhyw feysydd eraill o adborth neu ystyriaethau mewn perthynas â’n gwaith
cyn-ymgynghori ar yr Adolygiad o’r Ddarpariaeth Frys yr hoffech i ni eu hystyried?

 

Diystyru un o’r opsiynau yn dilyn ein gwaith cyn-ymgynghori


Roedd un o’r opsiynau’n ymwneud â dim newid, aros fel rydyn ni a derbyn y risg o ran argaeledd.


Fodd bynnag, ar y sail nad yw’r opsiwn hwn yn bodloni meini prawf yr Adolygiad o’r Ddarpariaeth Frys ar gyfer ymateb brys teg, cynaliadwy a chyfiawn ar draws cymunedau Gogledd Cymru, nid yw’r opsiwn hwn yn cael ei ddatblygu ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Mae copi PDF o'r ddogfen ymgynghori llawn ar gael yma.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen