Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Beth yw Cynllun Rheoli Risg Cymunedol (CRRC)?

Beth yw Cynllun Rheoli Risg Cymunedol (CRRC)?

Rhagymadrodd

Mae Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân wedi datblygu Fframwaith Strategol gyda’r bwriad o ddarparu dull mwy cyson a safonol o gynllunio rheoli risg cymunedol (CRRC) ledled y DU. Y bwriad yw cynorthwyo i wneud penderfyniadau tryloyw a chyfiawnadwy a helpu’r Gwasanaethau Tân ac Achub i adnabod cyfleoedd i gydweithredu gyda sefydliadau partner yn haws.

Mae’r CRRC drafft hwn yn disodli ein Cynllun Corfforaethol 2021-2024 ac yn mynegi’r risgiau sy’n wynebu ein cymunedau. Mae’n disgrifio sut y byddwn yn mynd i’r afael â’r risgiau hynny, ac yn parhau i atal tanau ac ymateb i danau ac argyfyngau eraill. Bydd y CRRC hwn yn cael ei gynhyrchu mewn ymgynghoriad â’r cyhoedd, staff tân ac achub, partneriaid lleol a chyrff cynrychioliadol.

Unwaith y caiff ei gymeradwyo, bydd y cynllun hwn yn cwmpasu’r pum mlynedd rhwng 2024 a 2029 a bydd yn cael ein cefnogi gan gynlluniau gweithredu blynyddol a fydd yn nodi’r hyn rydym yn anelu i’w gyflawni bob blwyddyn, yn ogystal ag asesiadau blynyddol o’n cynnydd yn erbyn y cynlluniau hynny.

Mae cynnal ein gallu, drwy ein diffoddwyr tân ymroddedig, i ddarparu ymateb brys effeithiol, yn gofyn am amrywiaeth o wahanol fodelau staffio neu ‘systemau dyletswydd’, sy’n cael eu hesbonio’n fanylach ar dudalen 10.

Ar hyn o bryd, dim ond mewn 8 o’n gorsafoedd tân wedi’u lleoli’n bennaf ar hyd corridor ffordd ddeuol yr A55 yn ein rhanbarth y mae gennym wasanaeth brys wedi’i warantu.

Mewn mannau eraill yng Ngogledd Cymru, rydym yn dibynnu ar ddiffoddwyr tân rhanamser neu ar-alwad, ond mae’n anodd sicrhau bod y rhain ar gael yn ystod y dydd.

Rydym yn gweithio’n galed i recriwtio a chadw’r diffoddwyr tân hyn ond mae angen i ni gael darpariaeth frys wedi’i gwarantu mewn ardaloedd mewndirol, er mwyn sicrhau y gallwn ddarparu criw ymateb o fewn yr amser ymateb gorau posibl ym mhob rhan o Ogledd Cymru. Mewn argyfwng, mae amser yn hanfodol.

Drwy ein Hadolygiad o’r Ddarpariaeth Frys, rydym wedi bod yn archwilio senarios ar gyfer darparu gwasanaeth brys yn y dyfodol, gyda’r bwriad o wella’r ddarpariaeth bresennol. Mae mwy o fanylion am yr Adolygiad o’r Ddarpariaeth Frys i’w gweld ar dudalen 44.

Rydym yn ymdrechu’n barhaus i sicrhau’r diwylliant gorau yn ein sefydliad yn unol â’n gwerthoedd craidd ond rydym yn cydnabod na all unrhyw wasanaeth cyhoeddus fforddio bod yn hunanfodlon o ran sicrhau’r safonau uchaf posibl a ddisgwylir gan ein staff ac aelodau’r cyhoedd. Nid yw ond yn iawn ein bod yn cael ein dwyn i gyfrif yn hyn o beth, ac mae’n bwysig ein bod yn ystyried unrhyw argymhellion gan eraill sydd wedi cael adolygiadau o’u diwylliant. Mae’r ymrwymiad i ddiwylliant agored, cynhwysol a chroesawgar yn berthnasol i bob un ohonom.

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yw eich gwasanaeth tân ac achub. Felly, hoffem glywed eich barn am ein cynigion. Mae rhagor o fanylion am y ffyrdd y gallwch gymryd rhan yn ein  hymgynghoriad ar ddiwedd y cynllun drafft hwn.

Beth yw Cynllun Rheoli Risg Cymunedol (CRRC)?

O dan Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub Llywodraeth Cymru, un o’r prif amcanion ar gyfer Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru yw mynd ati’n barhaus ac mewn modd cynaliadwy i leihau risg a gwella diogelwch dinasyddion a chymunedau.

Nod Cynllun Rheoli Risg Cymunedol (CRRC) yw nodi risgiau sy’n wynebu’r gymuned a disgrifio sut y bydd yr Awdurdod Tân ac Achub yn rheoli’r risgiau hynny, ac yn parhau i atal ac ymateb i danau ac argyfyngau eraill.

Yn flaenorol, amlinellodd yr Awdurdod ei amcanion gwella a llesiant, fel sy’n ofynnol gan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn ei Gynllun Corfforaethol 2021-2024.

Yn unol â datblygiad Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân o Fframwaith Strategol Cynllunio Rheoli Risg Cymunedol ac i adlewyrchu risg gymunedol, mae’r hyn yr ydym wedi cyfeirio atynt yn flaenorol fel amcanion corfforaethol wedi cael eu disodli gan set o bum Egwyddor. Trwy’r egwyddorion hyn, bydd yr Awdurdod yn parhau i gyflawni ei rwymedigaethau statudol o dan y Deddfau uchod a Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub Llywodraeth Cymru 2016.

Gallwch ddarllen mwy am ein hegwyddorion yn y darn ‘Ein Pum Egwyddor’.

Gellir dod o hyd i fanylion ein hymgynghoriad yma. Unwaith y bydd adborth y cyhoedd wedi’i ystyried a bod y drafft terfynol wedi’i gymeradwyo, bydd y CRRC yn cwmpasu’r blynyddoedd ariannol rhwng 2024 a 2029.

Lluniwyd y ddogfen ddrafft hon mewn ymgynghoriad â’r Awdurdod Tân ac Achub, staff y Gwasanaeth Tân ac Achub, cyrff cynrychioliadol a phartneriaid lleol.

Monitro’r Cynllun Rheoli Risg Cymunedol

Cynllun Rheoli Risg Cymunedol (CRRC) 2024-2029 yw ein cynllun hirdymor i’n helpu i ddarparu Gwasanaeth effeithiol ac effeithlon. Bydd yn cael ei fonitro a’i adolygu’n flynyddol yn erbyn Asesiad Peryglon wedi’i ddiweddaru i sicrhau bod pob egwyddor a’r camau cysylltiedig yn parhau i fod yn addas i’r diben, yn unol â’r amserlen ar gyfer cyflawni ac yn cyd-fynd â blaenoriaethau’r Gwasanaeth ar y pryd.

Byddwn yn cynhyrchu ac yn cyhoeddi cynlluniau blynyddol i ddangos ein cynnydd.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen