Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ein Pum Egwyddor

Ein Pum Egwyddor

Wrth ddiffinio cwmpas y Cynllun Rheoli Risg Cymunedol, rydym wedi ymgynghori â’r Awdurdod Tân ac Achub a’n staff ar bob lefel o’n sefydliad gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau ymgynghori, gan gynnwys ein Harolwg Teulu Tân, yr ymgynghoriad Adolygiad o’r Ddarpariaeth Frys, Tîm Arweinyddol y Gwasanaeth a gweithdai Rheolwr Canol. Yn seiliedig ar yr ymgynghoriad hwn, rydym wedi datblygu pum egwyddor, a fydd yn ein cynorthwyo i liniaru’r risgiau i’n cymunedau ac yn ein helpu i ganolbwyntio ar wella o fewn ein Gwasanaeth dros y pum mlynedd nesaf.

Ein Hegwyddor Pobl

Bod yn y lle cywir, ar yr adeg gywir, gyda’r sgiliau cywir.

Sicrhau gweithlu medrus iawn drwy recriwtio, datblygu a chadw gweithlu llawn cymhelliant a dwyieithog sy’n cynrychioli ac yn hyrwyddo amrywiaeth y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Ein Hegwyddor Atal

Gweithio gyda phartneriaid i helpu i wneud cymunedau’n fwy diogel.

Lleihau’r risgiau i’n cymunedau, yn enwedig i’r bobl hynny a allai fod yn fwy agored i niwed, drwy ein rhaglenni ymyrraeth sefydledig fel Archwiliadau Diogel ac Iach a Phrosiect Ffenics.

Ein Hegwyddor Diogelu

Gwneud busnesau’n fwy diogel gyda’n gilydd.

Darparu canllawiau arbenigol i fusnesau ar ddiogelu rhag tân I helpu i sicrhau diogelwch adeiladau, gweithwyr a chwsmeriaid, a thrwy hynny gefnogi busnesau i dyfu. Mae adeiladau risg uchel yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer arolygiadau, gan gyfrannu at ddiogelwch y cyhoedd yn gyffredinol.

Ein Hegwyddor Ymateb

Darparu ymateb brys effeithiol.

Bod yn barod i ymateb pan fyddwch ein hangen: i ddiogelu’r hyn sy’n bwysig i chi, i achub bywydau, lleihau niwed, ac amddiffyn cartrefi a busnesau.

Ein Hegwyddor Amgylchedd

Diogelu a gwarchod ein hamgylchedd naturiol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mabwysiadu arferion ecogyfeillgar yn ein gweithrediadau beunyddiol i leihau allyriadau carbon ac effeithiau amgylcheddol eraill a chodi ymwybyddiaeth amgylcheddol ymhlith ein staff a’n cymunedau.

Ein Hegwyddor Pobl

Bod yn y lle cywir, ar yr adeg gywir, gyda’r sgiliau cywir.

Sicrhau gweithlu medrus iawn drwy recriwtio, datblygu a chadw gweithlu llawn cymhelliant a dwyieithog sy’n cynrychioli ac yn hyrwyddo amrywiaeth y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Pam mae hyn yn bwysig?

  • Mae ein gweithlu yn hanfodol i bopeth y mae ein gwasanaeth tân ac achub yn ei wneud. Mae darparu ymateb brys a gwasanaethau ataliol yn dibynnu’n llwyr ar sgiliau, ymrwymiad ac ymroddiad diffoddwyr tân, staff yr ystafell reoli a staff gwasanaethau corfforaethol.
  • Mae nifer yr achosion o dân wedi bod yn gostwng ers tro, felly er mwyn cynnal effeithiolrwydd gweithredol, mae’n rhaid i ddiffoddwyr tân hyfforddi’n fwy yn hytrach na dibynnu ar brofiad a gafwyd mewn digwyddiadau go iawn.
  • Yn ddiweddar, bu cryn graffu ar wasanaethau tân ledled y DU a llawer wedi’u beirniadu am eu methiannau diwylliannol. Mae’n briodol bod y cyhoedd yn disgwyl, ac yn haeddu, y safonau a’r ymddygiad gorau oll gan gyrff cyhoeddus.

Beth ydym wedi’i wneud hyd yn hyn?

  • Cynnal rhaglenni hyfforddi cynhwysfawr i wella sgiliau a pharodrwydd ein gweithwyr.
  • Recriwtio’n weithredol o gefndiroedd amrywiol i adlewyrchu’n well y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
  • Gweithredu asesiadau parhaus i sicrhau bod ein gweithlu’n cyd-fynd â safonau proffesiynol sy’n esblygu.
  • Gweithredu Strategaeth Datblygu Pobl a Sefydliadol Holl Wasanaethau Tân ac Achub Cymru 2021-2024 i sicrhau cysondeb yn y dull o ddatblygu a chefnogi pobl ar draws y tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru.
  • Cynnal dau Arolwg Staff Teulu Tân i roi llwyfan i staff leisio eu barn a’u pryderon a defnyddio’r canlyniadau i nodi meysydd ar gyfer gwella diwylliant ac i hyrwyddo gweithle mwy cynhwysol a chefnogol.

Beth ydym yn bwriadu ei wneud yn ystod oes y cynllun hwn?

  • Gweithredu’r argymhellion a nodwyd o arolwg staff Teulu Tân 2023.
  • Cynnal dau arolwg staff Teulu Tân pellach yn 2025-26 a 2027-28.
  • Adolygu a gwella strategaethau recriwtio yn barhaus i gynnal gweithlu amrywiol a medrus.
  • Ceisio nodi a gwneud y mwyaf o botensial staff drwy reoli a datblygu pobl yn effeithiol, gan arwain at ddiwylliant o berfformiad uchel, lle mae pobl yn gwerthfawrogi ac yn parchu ei gilydd.
  • Mabwysiadu Strategaeth Datblygu Pobl a Sefydliadol newydd Holl Wasanaethau Tân ac Achub Cymru ar gyfer 2024-2028 a fydd yn darparu fframwaith ar gyfer meddwl yn arloesol a gweithio i gefnogi cydweithio a phartneriaeth barhaus.
  • Datblygu achos busnes ar gyfer adeiladu canolfan hyfforddiant gwasanaeth tân ac achub newydd, gan sicrhau ei bod yn bodloni safonau uchel ar gyfer effeithlonrwydd, diogelwch a thechnoleg.
  • Bydd staff ataliol yn derbyn hyfforddiant ac ymwybyddiaeth mewn Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, Caethwasiaeth Fodern, Camfanteisio ar Blant a Thrais Domestig er mwyn darparu gwasanaeth mwy effeithiol i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
  • Bydd staff Diogelwch Tân Busnes a Diffoddwyr Tân Gweithredol yn cael eu hyfforddi yn unol â Fframwaith Cymwyseddau Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân ar gyfer Rheoleiddwyr Diogelwch Tân gan weithio tuag at gofrestru o fewn Cofrestr Gyd-destunol yr Archwilydd.
  • Bydd staff gweithredol yn derbyn hyfforddiant a chymhwyster perthnasol i’w galluogi i gynnal archwiliadau diogelwch busnes yn unol â chanllawiau y cytunwyd arnynt yn genedlaethol.

Bydd y camau hyn yn cyfrannu at y nodau llesiant canlynol:

  • Cymru gydnerth
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru iachach
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru tecach
  • Cymru llewyrchus

Byddwn yn monitro ein cynnydd drwy’r Pwyllgorau Llywodraethu canlynol:

  • Pwyllgor Llywio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
  • Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Llesiant
  • Pwyllgor Presenoldeb, Cwynion Cyflogaeth a Disgyblaeth
  • Pwyllgor Dysgu Sefydliadol

Diwylliant y Gwasanaeth

Mae arweinyddiaeth y sector cyhoeddus ar draws y Deyrnas Unedig yn amlwg iawn ar hyn o bryd, gyda rhai enghreifftiau uchel eu proffil o graffu yn canfod methiannau diwylliannol sylweddol.

Rydym yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i dderbyn ein cynnig i adolygu’n annibynnol sut yr ydym yn symud ymlaen ar ein taith ddiwylliannol, gan ein bod wedi ymrwymo’n llwyr i ragoriaeth a gwelliant parhaus a byddwn yn cyhoeddi adroddiad yn ystod 2024.

Mae gennym set o werthoedd sefydliadol sy’n cael eu cyhoeddi a’u harddangos ar draws ein holl adeiladau a gellir dod o hyd i’r rhain ar dudalen 51.

Fodd bynnag, nid pethau ar gyfer posteri yn unig yw ein Gwerthoedd Craidd, i’w harddangos ac, o bosibl, eu hanghofio; maent yn sylfaen i’n hunaniaeth a’n hymddygiad, yn arwain penderfyniadau, yn llunio ein diwylliant, yn cyfarwyddo strategaeth, ac yn darparu ymdeimlad clir o bwrpas i’n pobl. Maent yn set o egwyddorion arweiniol ar gyfer staff, ar bob lefel o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Mae ein Gwerthoedd Craidd wedi ein tywys tuag at fabwysiadu pum egwyddor. Trwy’r egwyddorion hyn, byddwn yn darparu gwasanaethau arloesol o ansawdd uchel i’n cymunedau a’r bobl sy’n ymweld â ac yn gweithio yng Ngogledd Cymru.Roedd penderfynu mai Ein Hegwyddor Pobl fyddai’r egwyddor gyntaf yn benderfyniad bwriadol.

Mae’r camau a amlinellir o dan Ein Hegwyddor Pobl wedi’u cynllunio mewn ymdrech i wella ein Gwasanaeth yn barhaus. Nod yr amcanion hyn yw gwneud Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn lle deniadol i weithio, drwy wella ymgysylltiad staff, cydnabod staff a llesiant staff, gwella sgiliau arwain, cryfhau adnoddau dynol a phrosesau cynllunio’r gweithlu fel ein bod yn recriwtio, cadw, datblygu a hyrwyddo’r bobl orau a darparu hyfforddiant parhaus, cymorth datblygu a chyfleoedd dilyniant gyrfa i’r holl staff.

Yn ddiweddar rydym wedi cynnal ein hail Arolwg Staff Teulu Tân, a oedd yn rhoi llwyfan i staff leisio eu barn a’u pryderon. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio drwy’r canfyddiadau a byddwn yn defnyddio’r canlyniadau i nodi meysydd ar gyfer gwella diwylliant ac i hyrwyddo gweithle mwy cynhwysol a chefnogol.

Byddwn yn ailadrodd yr ymarfer hwn yn 2025-26 a 2027-28 i sicrhau bod y llwyfan hwnnw ar gyfer rhannu barn a phryderon yn dod yn rhan o fusnes fel arfer.

Mae gennym hefyd drefniadau llywodraethu cryf drwy’r Pwyllgor Llywio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, gyda chefnogaeth y Grwpiau Rhwydwaith Staff, Grŵp Gweithredu Cadarnhaol a Grŵp Llywodratehu yr Iaith Gymraeg. Rydym wrthi’n penodi Aelod o’r Awdurdod Tân ac Achub yn Aelod Eiriolwr i’r Pwyllgor Llywio. Mae’r Cyd-bwyllgor Ymgynghori a Negodi yn fforwm lle gall uwch arweinwyr gwrdd ag undebau llafur a chyrff cynrychioliadol eraill.

Byddwn yn parhau i weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru i roi sicrwydd parhaus bod gennym drefniadau llywodraethu cadarn ar waith i sicrhau bod y gweithle yn ddiogel ac yn galluogi ein pobl i ddod â’r fersiwn orau ohonynt hwy eu hunain i’r gwaith.

Ein Hegwyddor Atal

Gweithio gyda phartneriaid i helpu i wneud cymunedau’n fwy diogel.

Lleihau’r risgiau i’n cymunedau, yn enwedig i’r bobl hynny a allai fod yn fwy agored i niwed, drwy ein rhaglenni ymyrraeth sefydledig fel Archwiliadau Diogel ac Iach a Phrosiect Ffenics.

Pam mae hyn yn bwysig?

Mae sicrhau bod ein cymunedau’n ddiogel wrth wraidd popeth a wnawn. Mae cydweithio â phartneriaid a gweithredu rhaglenni ymyrraeth wedi’u targedu yn  hanfodol i liniaru risgiau, yn enwedig i unigolion agored i niwed. Trwy ymgysylltu’n weithredol â’n cymunedau, rydym yn meithrin gwytnwch, yn hyrwyddo llesiant, ac yn creu amgylchedd mwy diogel i bawb.

Beth ydym wedi’i wneud hyd yn hyn?

  • Sefydlu partneriaethau cryf gyda sefydliadau, asiantaethau ac arweinwyr cymunedol lleol i wella ein heffaith ar y cyd.
  • Gweithredu rhaglenni ymyrraeth effeithiol fel Archwiliadau Diogel ac Iach a Phrosiect Ffenics, gan gyrraedd poblogaethau sy’n agored i niwed a mynd i’r afael â risgiau posibl.
  • Cynnal mentrau allgymorth i godi ymwybyddiaeth am fesurau atal tân a diogelwch o fewn cymunedau.
  • Gweithredu a gwerthuso ymgyrchoedd ymwybyddiaeth effeithiol i gynorthwyo preswylwyr ac ymwelwyr i sicrhau eu diogelwch.
  • Defnyddio amrywiaeth o sianeli cyfathrebu i wella ymgysylltiad a sicrhau allgymorth effeithiol i unigolion a grwpiau o bobl sydd âg angehnion a dewisiadau cyfathrebu wahanol.
  • Sicrhau ein bod yn darparu dewis o ran iaith i siaradwyr Cymraeg a Saesneg yn ein cymunedau ac i gydnabod unrhyw ofynion iaith eraill.

Beth ydym yn bwriadu ei wneud yn ystod oes y cynllun hwn?

  • Defnyddio data partneriaeth i fireinio ein dull seiliedig ar risg o gynnal Archwiliadau Diogel ac Iach i dargedu’r rhai dros 65 oed sydd fwyaf agored i niwed yn sgil tân yn y cartref.
  • Darparu 17,500 o Archwiliadau Diogel ac Iach bob blwyddyn, drwy gydol cyfnod y cynllun hwn, i’r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn sgil tân yn y cartref.
  • Hyrwyddo addysg diogelwch ar y ffyrdd, ymgysylltu â phartneriaid a chynnal ymgyrchoedd o fewn y gymuned leol, er mwyn lleihau nifer y bobl sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar ein ffyrdd.
  • Gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid allanol i atal boddi damweiniol yng Ngogledd Cymru, gan ddarparu canllawiau cyson ar gyfer mwynhau a rheoli gweithgareddau yn ddiogel mewn dŵr, ar ddŵr ac o gwmpas dŵr.
  • Bydd ein rhaglenni addysg ieuenctid yn parhau i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc.

Mae Cadetiaid Tân, Ffenics a’n menter ieuenctid newydd i gyd wedi’u cynllunio i symud bywyd person iau yn ei flaen, datgloi eu potensial a’u hysbrydoli i wneud dewisiadau cadarnhaol mewn bywyd. Bydd hyn yn cyflawni yn erbyn cyfrifoldebau o dan y Ddyletswydd Trais Difrifol.

  • Hyrwyddo’r gwaith o ddiogelu ein cymunedau. Byddwn yn aelodau gweithredol o’r Byrddau Diogelu Oedolion Lleol a’r Bwrdd Diogelu Plant Lleol ac yn gweithio’n rhagweithiol i leihau’r risg o gamdriniaeth, niwed ac esgeulustod.

Bydd y camau hyn yn cyfrannu at y nodau llesiant canlynol: 

  • Cymru gydnerth
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru iachach
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

 

Byddwn yn monitro ein cynnydd drwy’r Pwyllgor Llywodraethu canlynol:

  • Pwyllgor Perfformiad Atal a Diogelu

Ein Hegwyddor Diogelu

Gwneud busnesau’n fwy diogel gyda’n gilydd.

Darparu canllawiau arbenigol i fusnesau ar ddiogelu rhag tân i helpu i sicrhau diogelwch adeiladau, gweithwyr a chwsmeriaid, a thrwy hynny gefnogi busnesau I dyfu. Mae adeiladau risg uchel yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer arolygiadau, gan gyfrannu at ddiogelwch y cyhoedd yn gyffredinol.

Pam mae hyn yn bwysig?

Mae sicrhau diogelwch busnesau yn rhan annatod o lesiant y gymuned. Trwy gynnig arweiniad arbenigol ar ddiogelu rhag tân, rydym nid yn unig yn diogelu asedau a phersonél busnesau ond hefyd yn cyfrannu at fywiogrwydd economaidd y rhanbarth. Mae archwilio adeiladau risg uchel yn rhagweithiol yn gwella diogelwch y cyhoedd drwy atal peryglon posibl.

Beth ydym wedi’i wneud hyd yn hyn?

  • Cynnal gweithdai diogelu tân a sesiynau hyfforddi cynhwysfawr i fusnesau wella eu parodrwydd.
  • Cydweithio’n agos â busnesau lleol i ddeall eu hanghenion a’u heriau unigryw o ran diogelwch.
  • Cynnal arolygiadau wedi’u targedu o adeiladau risg uchel, gan nodi a lliniaru peryglon tân posibl.

Beth ydym yn bwriadu ei wneud yn ystod oes y cynllun hwn?

  • Adolygu ein Rhaglen Arolygu Seiliedig ar Risg bresennol a sicrhau bod gennym drefn wybodus a rhesymegol sy’n seiliedig ar wybodaeth i nodi’r dosbarthiad risg perthnasol ar gyfer ein holl safleoedd ledled Gogledd Cymru.
  • Parhau i ddarparu Rhaglen Arolygu Seiliedig ar Risg sy’n seiliedig ar wybodaeth er mwyn lleihau anafiadau a marwolaeth o danau mewn eiddo annomestig.
  • Archwilio effaith larymau tân awtomatig ar y defnydd o’n hadnoddau a’u heffaith mewn amgylchedd annomestig.
  • Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allanol, perchnogion tir a defnyddwyr tir i leihau nifer y tanau gwyllt.
  • Gan weithio’n agos gyda phartneriaid amlasiantaeth a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, byddwn yn mynd i’r afael â thanau bwriadol gan ddefnyddio’r dull Paratoi, Ymroi, Atal a Diogelu.

Bydd y camau hyn yn cyfrannu at y nodau llesiant canlynol:

  • Cymru gydnerth
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru iachach
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
  • Cymru llewyrchus

Byddwn yn monitro ein cynnydd drwy’r Pwyllgor Llywodraethu canlynol:

  • Pwyllgor Perfformiad Atal a Diogelu

Ein Hegwyddor Ymateb

Darparu ymateb brys effeithiol.

Bod yn barod i ymateb pan fyddwch ein hangen: i ddiogelu’r hyn sy’n bwysig i chi, i achub bywydau, lleihau niwed, ac amddiffyn cartrefi a busnesau.

Pam mae hyn yn bwysig?

Rydym eisiau darparu’r gwasanaeth tecaf posibl i’r cyhoedd yng Ngogledd Cymru. Waeth ble rydych chi’n byw neu pwy ydych chi, ein nod ydy bod yno i chi pan fydd angen. Mae hyn yn golygu gallu darparu’r un gwasanaeth ar draws ein cymunedau amrywiol – amrywiol o ran lleoliad a daearyddiaeth, o ran y mathau o ddigwyddiadau rydyn ni’n ymateb iddynt, a hefyd o ran y bobl rydyn ni’n eu gwasanaethu. Rydym yn anelu at gyflawni hyn drwy reoli ein hadnoddau, ein cyllideb a’n pobl mor effeithiol â phosibl.

Beth ydym wedi’i wneud hyd yn hyn?

  • Cynnal Adolygiad o’r Ddarpariaeth Frys, gyda’r nod o wella’r ddarpariaeth frys mewn mannau gwledig.
  • Cwblhau Adolygiad o Brofiad Staff y System Dyletswydd Ar Alwad dan arweiniad staff, gan ddatblygu cynllun gweithredu cadarn, gydag 85 o argymhellion, i gefnogi gwella profiad ein staff sy’n gweithio’r System Dyletswydd Ar Alwad.
  • Ailstrwythuro’r gwasanaeth i flaenoriaethu timau lleol yn gweithio yn yr ardal leol.
  • Trwy gweithgareddau recriwtio a chadw wedi eu targedu, ar gyfer yr ail flwyddyn yn olynol rydym wedi gweld cynnydd net yn nifer ein staff ar alwad ledled Gogledd Cymru.
  • Sicrhau bod gennym sefydliad llawn o ddiffoddwyr tân amser cyflawn hyfforddedig a chymwys a recriwtio wedi’i dargedu i wella argaeledd diffoddwyr tân ar alwad sydd wedi’u hyfforddi’n briodol.
  • Buddsoddi mewn tri Cerbyd Llesiant newydd i gefnogi ein staff mewn digwyddiadau.
  • Blaenoriaethu diogelwch ein diffoddwyr tân drwy ehangu ein buddsoddiad mewn Cyfarpar Diogelu Personol o’r radd flaenaf i gefnogi’r gwaith o reoli halogyddion o danau a Chyfarpar Diogelu Personol pwrpasol ar gyfer tanau gwyllt.
  • Sefydlu gweithgor halogi cynrychioliadol i flaenoriaethu diogelwch diffoddwyr tân ar y cyd mewn perthynas â halogyddion tân.

Beth ydym yn bwriadu ei wneud yn ystod oes y cynllun hwn?

  • Sicrhau bod lefelau recriwtio a dilyniant gyrfa amser cyflawn yn cyd-fynd yn agos â’r angen i gynnal carfan staffio amser cyflawn lawn.
  • Gweithio i sicrhau bod cynifer â phosibl o ddiffoddwyr tân ar alwad yn cael eu recriwtio a’u cadw er mwyn cynyddu nifer yr eiddo ar draws y rhanbarth a fydd yn derbyn ymateb effeithiol cyn gynted â phosibl.
  • Sicrhau bod galwadau brys yn parhau i gael eu trin mewn modd effeithiol drwy uwchraddio’r system gyfrifiadurol berthnasol yn yr Ystafell Reoli.
  • Datblygu a chyflwyno’r Rhwydwaith Gwasanaethau Brys i Ogledd Cymru i sicrhau bod gennym system gyfathrebu gadarn a modern ar draws y rhanbarth.
  • Gweithredu canlyniadau’r Adolygiad o’r Ddarpariaeth Frys, a ddatblygwyd gan weithgor cynrychioliadol, i wella ein hymateb gweithredol yn ein hardaloedd gwledig.
  • Cynnal adolygiad o’n cerbydau arbenigol, ac eithrio injanau tân, sy’n ymateb i argyfyngau.
  • Parhau i flaenoriaethu diogelwch diffoddwyr tân drwy hyfforddiant, datblygu, cyflenwi Cyfarpar Diogelu Personol ac offer o’r radd flaenaf a rheoli halogyddion.
  • Datblygu gyda’n staff fframwaith rheoli newydd i gefnogi’r gwaith o redeg ein gorsafoedd tân yn effeithlon ac effeithiol i sicrhau ein bod yn barod ar gyfer argyfyngau.
  • Gweithio gyda staff a chyrff cynrychioliadol i archwilio cyfleoedd i ehangu rôl diffoddwyr tân i gefnogi gwaith ein partneriaid a llesiant ein cymunedau.
  • Byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ein fflyd o beiriannau tân drwy gyflwyno peiriannau tân newydd o’r radd flaenaf bob blwyddyn fel rhan o’n rhaglen amnewid cerbydau.

Bydd y camau hyn yn cyfrannu at y nodau llesiant canlynol:

  • Cymru gydnerth
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru iachach
  • Cymru sy’n fwy cyfartal

Byddwn yn monitro ein cynnydd drwy’r Pwyllgorau Llywodraethu canlynol:

  • Pwyllgor Adnoddau Sefydliadol
  • Pwyllgor Dysgu Sefydliadol
  • Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Llesiant

Adolygiad o’r Ddarpariaeth Frys

Argymhellodd adolygiad o Gydnerthedd Corfforaethol yn Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru a gynhaliwyd gan Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2021 y dylai’r Awdurdod adolygu lleoliadau gorsafoedd tân er mwyn canfod cyfleoedd i sicrhau’r trefniadau ymateb brys gorau posibl.

Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, cyflwynodd y Prif Swyddog Tân asesiad sefyllfaol i Aelodau’r Awdurdod Tân ac Achub, gan dynnu sylw at nifer o risgiau mewn perthynas â sicrhau bod diffoddwyr tân ar alwad yn gweithio ar y 36 o orsafoedd y system dyletswydd ar alwad (RDS) ar gael hyd at lefel ddigonol yn ystod y dydd.

Mewn ymateb, comisiynodd yr Awdurdod Adolygiad o’r Ddarpariaeth Frys i nodi opsiynau ar gyfer darparu ymateb teg, cynaliadwy a theg ar draws Gogledd Cymru gyfan.

Comisiynwyd cwmni annibynnol, ORH, i weithio gyda’r Tîm Cynllunio Corfforaethol, Perfformiad a Thrawsnewid, gan ddarparu cymorth technegol mewn perthynas â dadansoddi a modelu data, i edrych yn feirniadol ar drefniadau’r ddarpariaeth frys gyfredol ac i nodi’r atebion gorau posibl ar gyfer gwella. Defnyddiodd y Gwasanaeth broffilio risg Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân hefyd, a amlygodd fod lleoliadau o risg uwch mewn ardaloedd mwy gwledig a oedd yn atgyfnerthu’r angen am fwy o degwch o ran y ddarpariaeth.

Buom yn gweithio’n agos gyda’r Sefydliad Ymgynghori gan sicrhau Ardystiad Sicrhau Ansawdd Ymgynghori ym mis Tachwedd 2023. Yn ystod y cam cyn-ymgynghori, cynhaliwyd cyfarfodydd gyda rhanddeiliaid gan gynnwys staff, gwleidyddion lleol a chenedlaethol, grwpiau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, y cyhoedd ac asiantaethau eraill. Bu hyn yn fodd i ddatblygu tri opsiwn a aeth i ymgynghoriad cyhoeddus llawn rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2023. Dyma’r ymarferiad ymgynghori cyhoeddus mwyaf yn ein hanes a chawsom 1,726 o ymatebion, sef nifer digynsail.

Cafodd yr adborth o’r ymgynghoriad ei gasglu a’I ddadansoddi’n annibynnol, a chyflwynwyd adroddiad i’r Awdurdod Tân ac Achub ym mis Hydref 2023. Yn eu cyfarfod ym mis Rhagfyr 2023, penderfynodd yr Awdurdod Tân beidio â symud ymlaen ag unrhyw un o’r opsiynau a gyflwynwyd yn ystod yr ymgynghoriad. Yn hytrach, cyfeiriwyd swyddogion i barhau â’r lefel bresennol o ddarpariaeth frys a gweithio gyda’r holl randdeiliaid i ddatblygu opsiwn parhaol newydd gan ystyried terfynau’r gyllideb y cytunwyd arni.

Rydym eisoes wedi sefydlu gweithgor gorchwyl a gorffen, sy’n cynnwys ystod eang o staff o bob rhan o’r Gwasanaeth a chyrff cynrychioliadol i weithio gyda swyddogion i adolygu’r dystiolaeth a’r modelu a ddarparwyd gan ORH i ddatblygu cynigion eraill. Pe bai’r rhain yn wahanol iawn i’r rhai yn yr ymgynghoriad diwethaf, efallai y bydd angen ymgynghori’n bellach â’r cyhoedd yn ystod 2024-25.

Unwaith y ceir cytundeb, bydd yr opsiwn a ffefrir yn cael ei weithredu yn ystod oes y CRRC hwn.

Os ydych chi eisiau darllen mwy am yr Adolygiad o’r Ddarpariaeth Frys, gallwch gael mynediad at y ddogfen ymgynghori yma.

Ein Hegwyddor Amgylchedd

Diogelu a gwarchod ein hamgylchedd naturiol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mabwysiadu arferion ecogyfeillgar yn ein gweithrediadau beunyddiol i leihau allyriadau carbon ac effeithiau amgylcheddol eraill a chodi ymwybyddiaeth amgylcheddol ymhlith ein staff a’n cymunedau.

Pam mae hyn yn bwysig?

Ym mis Ebrill 2019, Llywodraeth Cymru oedd y senedd gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd ar lefel genedlaethol.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar y rheng flaen o safbwynt llawer o’r heriau sy’n digwydd yn llawer amlach oherwydd hinsawdd sy’n newid. Mae llawer o’r heriau hynny eisoes yn cael effeithiau dwys ar y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Felly, mae gennym gyfrifoldeb i arwain trwy esiampl a hyrwyddo stiwardiaeth gyfrifol o’n rhanbarth a’n byd ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn mynnu ein bod ni a phob corff cyhoeddus arall yng Nghymru yn ystyried buddiannau cenedlaethau’r dyfodol yn ein holl benderfyniadau strategol.

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn nodi cyfres o gyllidebau carbon, sy’n manylu ar sut y gall Cymru fod yn sero net o ran allyriadau carbon erbyn 2050. O dan Gyllideb Garbon 2, mae’n rhaid i’r sector cyhoeddus yng Nghymru gyrraedd allyriadausero net erbyn 2030.

Beth ydym wedi’i wneud hyd yn hyn?

  • Penodi Rheolwr yr Amgylchedd a Newid Hinsawdd, gyda chyfrifoldeb am arwain a rheoli ein symudiad tuag at gynaliadwyedd a stiwardiaeth amgylcheddol gyfrifol.
  • Mae’r Awdurdod Tân ac Achub wedi datblygu a mabwysiadu Strategaeth Amgylcheddol sy’n nodi targedau perfformiad manwl a chadarn wrth leihau ein hallyriadau carbon ac effeithiau amgylcheddol sylweddol eraill, heb gyfaddawdu’r gwasanaethau hanfodol a ddarparwn i gymunedau Gogledd Cymru.
  • Sefydlu llinell sylfaen allyriadau carbon, y gallwn fesur ein perfformiad a llwyddiant ein cynlluniau lliniaru carbon yn ei herbyn.
  • Sefydlu Gweithgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, gyda chynrychiolaeth o bob rhan o’r Gwasanaeth, sy’n cwrdd bob chwe wythnos i fonitro ein perfformiad amgylcheddol a goruchwylio prosiectau gwella.

Beth ydym yn bwriadu ei wneud yn ystod oes y cynllun hwn?

  • Newid ein fflyd o gerbydau diesel i redeg ar Olew Llysiau Hydrogenedig, dewis amgen cynaliadwy heb ddim allyriadau carbon Cwmpas 1.
  • Lle bo’n ymarferol, prynu dim ond ceir a faniau allyriadau sero neu isel iawn o 2025.
  • Ehangu’r rhwydwaith Mannau Gwefru Cerbydau Trydan presennol ar safleoedd Tân ac Achub Gogledd Cymru.
  • Ôl-osod ein hystad i wella effeithlonrwydd ynni.
  • Yn raddol, dechrau cael gwared ar nwy a Nwy Petroliwm Hylifedig o systemau gwresogi ein gorsafoedd o 2025.

Bydd y camau hyn yn cyfrannu at y nodau llesiant canlynol:

  • Cymru gydnerth
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru iachach
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Byddwn yn monitro ein cynnydd drwy’r Pwyllgor Llywodraethu canlynol:

  • Pwyllgor Tir ac Eiddo, gyda chefnogaeth y Grŵp Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Ein Hamcanion – Crynodeb

Pobl

  • Gweithredu’r argymhellion a nodwyd o arolwg staff Teulu Tân 2023.
  • Cynnal dau arolwg staff Teulu Tân pellach yn 2025-26 a 2027-28.
  • Adolygu a gwella strategaethau recriwtio yn barhaus i gynnal gweithlu amrywiol a medrus.
  • Ceisio nodi a gwneud y mwyaf o botensial staff drwy reoli a datblygu pobl yn effeithiol, gan arwain at ddiwylliant o berfformiad uchel, lle mae pobl yn gwerthfawrogi ac yn parchu ei gilydd.
  • Mabwysiadu Strategaeth Datblygu Pobl a Sefydliadol newydd Holl Wasanaethau Tân ac Achub Cymru ar gyfer 2024-2028 a fydd yn darparu fframwaith ar gyfer meddwl yn arloesol a gweithio i gefnogi cydweithio a phartneriaeth barhaus.
  • Datblygu achos busnes ar gyfer adeiladu canolfan hyfforddiant gwasanaeth tân ac achub newydd, gan sicrhau ei bod yn bodloni safonau uchel ar gyfer effeithlonrwydd, diogelwch a thechnoleg.
  • Bydd staff ataliol yn derbyn hyfforddiant ac ymwybyddiaeth mewn Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, Caethwasiaeth Fodern, Camfanteisio ar Blant a Thrais Domestig er mwyn darparu gwasanaeth mwy effeithiol i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
  • Bydd staff Diogelwch Tân Busnes a Diffoddwyr Tân Gweithredol yn cael eu hyfforddi yn unol â Fframwaith Cymwyseddau Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân ar gyfer Rheoleiddwyr Diogelwch Tân gan weithio tuag at gofrestru o fewn Cofrestr Gyd-destunol yr Archwilydd.
  • Bydd staff gweithredol yn derbyn hyfforddiant a chymhwyster perthnasol i’w galluogi i gynnal archwiliadau diogelwch busnes yn unol â chanllawiau y cytunwyd arnynt yn genedlaethol.

Atal

  • Defnyddio data partneriaeth i fireinio ein dull seiliedig ar risg o gynnal Archwiliadau Diogel ac Iach i dargedu’r rhai dros 65 oed sydd fwyaf agored i niwed yn sgil tân yn y cartref.
  • Darparu 17,500 o Archwiliadau Diogel ac Iach bob blwyddyn, drwy gydol cyfnod y cynllun hwn, i’r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn sgil tân yn y cartref.
  • Hyrwyddo addysg diogelwch ar y ffyrdd, ymgysylltu â phartneriaid a chynnal ymgyrchoedd o fewn y gymuned leol, er mwyn lleihau nifer y bobl sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar ein ffyrdd.
  • Gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid allanol i atal boddi damweiniol yng Ngogledd Cymru, gan ddarparu canllawiau cyson ar gyfer mwynhau a rheoli gweithgareddau yn ddiogel mewn dŵr, ar ddŵr ac o gwmpas dŵr.
  • Bydd ein rhaglenni addysg ieuenctid yn parhau i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc. Mae Cadetiaid Tân, Ffenics a’n menter ieuenctid newydd i gyd wedi’u cynllunio i symud bywyd person iau yn ei flaen, datgloi eu potensial a’u hysbrydoli i wneud dewisiadau cadarnhaol mewn bywyd. Bydd hyn yn cyflawni yn erbyn cyfrifoldebau o dan y Ddyletswydd Trais Difrifol.
  • Hyrwyddo’r gwaith o ddiogelu ein cymunedau. Byddwn yn aelodau gweithredol o’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, Byrddau Diogelu Oedolion Lleol a’r Bwrdd Diogelu Plant Lleol ac yn gweithio’n rhagweithiol i leihau’r risg o gamdriniaeth, niwed ac esgeulustod.

Diogelu

  • Adolygu ein Rhaglen Arolygu Seiliedig ar Risg bresennol a sicrhau bod gennym drefn wybodus a rhesymegol sy’n seiliedig ar wybodaeth i nodi’r dosbarthiad risg perthnasol ar gyfer ein holl safleoedd ledled Gogledd Cymru.
  • Parhau i ddarparu Rhaglen Arolygu Seiliedig ar Risg sy’n seiliedig ar wybodaeth er mwyn lleihau anafiadau a marwolaeth o danau mewn amgylchedd annomestig.
  • Archwilio effaith larymau tân awtomatig ar y defnydd o’n hadnoddau a’u heffaith mewn amgylchedd annomestig.
  • Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allanol, perchnogion tir a defnyddwyr tir i leihau nifer y digwyddiadau tanau gwyllt.
  • Gan weithio’n agos gyda phartneriaid amlasiantaeth a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, byddwn yn mynd i’r afael â thanau bwriadol gan ddefnyddio’r dull Paratoi, Ymroi, Atal a Diogelu.

Ymateb

  • Sicrhau bod lefelau recriwtio a dilyniant gyrfa amser cyflawn yn cyd-fynd yn agos â’r angen i gynnal carfan staffio amser cyflawn lawn.
  • Gweithio i sicrhau bod cynifer â phosibl o ddiffoddwyr tân ar alwad yn cael eu recriwtio a’u cadw er mwyn cynyddu nifer yr eiddo ar draws y rhanbarth a fydd yn derbyn ymateb effeithiol cyn gynted â phosibl.
  • Sicrhau bod galwadau brys yn parhau i gael eu trin mewn modd effeithiol drwy uwchraddio’r system gyfrifiadurol berthnasol yn yr Ystafell Reoli.
  • Datblygu a chyflwyno’r Rhwydwaith Gwasanaethau Brys i Ogledd Cymru i sicrhau bod gennym system gyfathrebu gadarn a modern ar draws y rhanbarth.
  • Gweithredu canlyniadau’r Adolygiad o’r Ddarpariaeth Frys, a ddatblygwyd gan weithgor cynrychioliadol, i wella ein hymateb gweithredol yn ein hardaloedd gwledig.
  • Cynnal adolygiad o’n cerbydau arbenigol, ac eithrio injanau tân, sy’n ymateb i argyfyngau.
  • Parhau i flaenoriaethu diogelwch diffoddwyr tân drwy hyfforddiant, datblygu, cyflenwi Cyfarpar Diogelu Personol ac offer o’r radd flaenaf a rheoli halogyddion.
  • Datblygu gyda’n staff fframwaith rheoli newydd i gefnogi’r gwaith o redeg ein gorsafoedd tân yn effeithlon ac effeithiol i sicrhau ein bod yn barod ar gyfer argyfyngau.
  • Gweithio gyda staff a chyrff cynrychioliadol i archwilio cyfleoedd i ehangu rôl diffoddwyr tân i gefnogi gwaith ein partneriaid a llesiant ein cymunedau.
  • Byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ein fflyd o beiriannau tân drwy gyflwyno peiriannau tân newydd o’r radd flaenaf bob blwyddyn fel rhan o’n rhaglen amnewid cerbydau.

Amgylchedd

  • Newid ein fflyd o gerbydau diesel i redeg ar Olew Llysiau Hydrogenedig , dewis amgen cynaliadwy heb ddim allyriadau carbon Cwmpas 1.
  • Prynu dim ond ceir a faniau allyriadau sero neu isel iawn o 2025.
  • Ehangu’r rhwydwaith Mannau Gwefru Cerbydau Trydan presennol ar safleoedd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
  • Ôl-osod ein hystad i wella effeithlonrwydd ynni.
  • Yn raddol, dechrau cael gwared ar nwy a Nwy Petroliwm Hylifedig o systemau gwresogi ein gorsafoedd o 2025.
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen