Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwyliwch ein fideos - Cyfarwyddyd Nwyddau Gwyn

Gwyliwch ein fideos yma.

switch off (nightime)

Gair i gall ar ddefnyddio peiriannau sychu dillad

Mae'r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru wedi ymuno â'i gilydd i'n hatgoffa am y camau syml y dylai pob un ohonom fod yn eu cymryd wrth ddefnyddio ein peiriannau sychu dillad y gaeaf hwn.

Mae’r ymgyrch yn cael ei lansio i gyd-fynd gydag Wythnos Diogelwch Tân Trydanol sydd yn digwydd yn y Deyrnas Unedig rhwng y 19-25ain o Dachwedd i amlygu sut mae hanner y tanau damweiniol sydd yn digwydd yn y cartref yn cael eu hachosi gan drydan.

Wrth i'r tywydd droi'n oerach ac yn wlypach, nid oes amheuaeth y byddwn yn gwneud mwy o ddefnydd o'n peiriannau sychu dillad dros fisoedd y gaeaf.  

Fodd bynnag, wrth i'n defnydd gynyddu, felly hefyd y mae ein tueddiad i ddechrau bod yn esgeulus, gan anghofio'n aml am y cynghorion syml a allai leihau'r perygl o dân yn sylweddol.  

Yn wir, peiriannau sychu dillad oedd yn gyfrifol am 57% o'r holl danau yn ymwneud â nwyddau gwynion a welwyd yng Nghymru dros y tair blynedd diwethaf (ar gyfartaledd, mae yna 158 o danau sy'n ymwneud â nwyddau gwynion bob blwyddyn).

Mewn gwirionedd, gall canlyniadau tân a achosir gan beiriant sychu dillad fod yn ddinistriol, fel y gwelodd teulu ifanc yn Llandudno ym mis Medi eleni.

Eglura Rheolwr Gwylfa Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Ian McIntosh, a fu'n bresennol yn y digwyddiad: 

"Ar ôl cyrraedd, gwelsom fod llawr gwaelod yr adeilad yn llawn mwg. Daethom o hyd i'r tân yn y gegin, a defnyddiodd diffoddwyr tân yn gwisgo cyfarpar anadlu a jet olwyn piben i ddiffodd y fflamau a oedd wedi lledaenu o'r peiriant sychu dillad. 

"Yn ffodus, roedd y trigolion, sef mam a'i phump o blant rhwng 9 a 16 mlwydd oed, wedi sylwi ar y mwg ac wedi llwyddo i ddianc rhag y digwyddiad heb niwed.  

"Cafodd y teulu ei ailgartrefu dros dro gan fod y tân wedi achosi llawer o ddifrod i'r gegin, a'r mwg wedi achosi difrod i'r rhan fwyaf o'r adeilad. Ond gallai'r golled fod wedi bod yn enfawr, a hynny am fod y tân wedi dechrau am oddeutu 10.30pm – gallai'r teulu yn hawdd fod wedi bod yn y gwely ar y pryd, a gallai'r tân fod wedi bod yn angheuol". 

Mewn ymgais i leihau'r perygl y bydd rhywbeth tebyg yn digwydd eto, bydd y tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru yn hyrwyddo'r hyn y dylech ac na ddylech ei wneud wrth ddefnyddio peiriannau sychu dillad, a hynny trwy gyfrwng fideos byr ar y cyfryngau cymdeithasol dros fisoedd y gaeaf. Bydd y fideos hefyd yn cael eu dangos yn ystod pob ymweliad diogelwch yn y cartref a gynhelir gan y tri Gwasanaeth Tân ac Achub.  

Dyma rai o'r camau syml y dylai pob un ohonom eu dilyn: 

  • Peidiwch â gorlwytho socedi â phlygiau – mae watedd uchel peiriant sychu dillad yn golygu bod arno angen ei soced 13 amp ei hun. Cadwch lygad am unrhyw farciau llosgi, ac archwiliwch unrhyw wifrau trydanol sy'n weladwy. 
  • Peidiwch â gadael peiriannau heb neb yn cadw golwg arnynt – peidiwch â rhoi dillad i sychu yn y peiriant cyn gadael y tŷ neu fynd i'r gwely. Mae peiriannau sychu dillad yn cynnwys motorau pwerus â rhannau sy'n symud yn gyflym, ac mae'r rhain yn mynd yn boeth iawn. 
  • Dylech bob amser lanhau yr hidlwr ar ol defnyddio eich periant sychu dillad.
  • Gofalwch fod eich peiriant sychu dillad wedi'i awyru'n dda, a sicrhewch nad oes yna unrhyw grychau yn y bibell aer, ac nad yw hi wedi blocio nac wedi cael ei gwasgu mewn unrhyw ffordd.  
  • Dylech bob amser adael i bob rhaglen sychu, gan gynnwys y 'gylchred oeri', orffen yn llwyr cyn gwagio'r peiriant. Os byddwch yn stopio'r peiriant yng nghanol rhaglen, bydd y dillad yn dal i fod yn boeth. 
  • Peidiwch ag anwybyddu'r arwyddion rhybuddio – os byddwch yn gallu arogleuo llosgi neu os bydd y dillad yn teimlo'n boethach ar ddiwedd y gylchred, peidiwch â defnyddio'ch peiriant a threfnwch iddo gael ei archwilio gan weithiwr proffesiynol. 
  •  Er bod y ffocws trwy gydol misoedd y gaeaf ar beiriannau sychu dillad, mae'r tri Gwasanaeth hefyd yn achub ar y cyfle i'n hatgoffa am bwysigrwydd rheoli ein nwyddau gwynion, gan gynnwys peiriannau sychu dillad, peiriannau golchi, peiriannau golchi llestri neu oergelloedd/ rhewgelloedd. Ym mhob achos, maent yn ein hatgoffa i ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr ar ddefnyddio a chynnal a chadw ein dyfeisiau ein hunain – ac, yn wir, i gofrestru ein dyfeisiau yn www.registermyappliance.org.uk, a fydd yn galluogi'r gwneuthurwyr i gysylltu â ni os bydd unrhyw ddiffygion yn dod i'r amlwg, neu os cyhoeddir unrhyw hysbysiadau adalw. Gallwch gael rhagor o wybodaeth gan wneuthurwyr am ddiffygion, neu am ddyfeisiau sydd wedi cael eu hadalw, ar wefan Electrical Safety First: www.electricalsafetyfirst.org.uk  
  • Yn bwysicaf oll – gwnewch yn siŵr bod gennych larwm mwg sy'n gweithio, a'ch bod yn ei brofi'n rheolaidd – rydym yn argymell eich bod yn gwneud hyn unwaith yr wythnos! Dylech hefyd sicrhau bod gennych gynllun dianc ar eich cyfer chi a'ch teulu pe byddai tân yn eich cartref – ac ar ôl i chi ddianc o'r tŷ, dylech aros allan ar bob cyfrif, a pheidio byth â mynd yn ôl i mewn. 

if in doubt - get it checked out

Lawr lwythwch eich cyfarwyddyd nwyddau gwyn rhad ac am ddim

Cliciwch yma i lawr lwytho fersiwn pdf o'r Cyfarwyddyd Nwyddau Gwyn

Download your FREE white goods guide here

Sut i gofrestru'ch cyfarpar

Ewch i www.registermyappliance.org.uk, er mwyn i wneuthurwyr allu cysylltu gyda chi os daw unrhyw namau i'r amlwg neu os caiff rhybuddion galw'n ôl eu cyhoeddi.

Helpwch ni i rannu'n negeseuon

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen