Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Datganiad am ein diwylliant a'n gwerthoedd

Postiwyd

Mewn ymateb i’r datganiad a ryddhawyd heddiw  gan Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog dros Bartneriaeth Gymdeithasol, ynghylch y diwylliant a’r gwerthoedd o fewn Gwasanaethau Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gogledd Cymru, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (GTAGC) yn cydnabod pwysigrwydd maethu amgylchedd gweithle cadarnhaol a chefnogol a'r angen am sicrwydd cyhoeddus yn hyn o beth.

Dywedodd y Prif Swyddog Tân Dawn Docx:

“Rydym yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i dderbyn ein cynnig i adolygu sut rydym yn symud ymlaen ar ein taith ddiwylliannol.

“Dyma daith y gwnaethom ddechrau arni ddwy flynedd yn ôl ac rydym yn cydnabod pwysigrwydd sicrwydd allanol, craffu a her yn ein cynnydd parhaus. Credwn ei bod yn hollbwysig ceisio ddilysiad allanol a mewnbwn i sicrhau ein bod yn parhau ar y llwybr cywir.

“Dyma gyfle felly i hunanfyfyrio a gwella’n barhaus – proses a ddechreuwyd gennym drwy gynnal ein harolwg staff cyfrinachol ein hunain a thrwy hefyd groesawu’r hyn a ddysgwyd gan wasanaethau tân ac achub eraill.

“Rydym yn deall nad yw trawsnewid diwylliannol yn rhywbeth y gallwn ei gyflawni ar ein pen ein hunain. Mae’n gofyn am gydweithio â’n staff, ein rhanddeiliaid a gwasanaethau tân ac achub eraill. Rydym wedi ymrwymo i weithio’n agos gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i benodi person allanol i gynnal yr adolygiad – dull cydweithredol a fydd yn sicrhau asesiad cynhwysfawr a diduedd o’n cynnydd.

“Rydym yn parhau’n ymroddedig i ragoriaeth a gwelliant parhaus ac yn croesawu’r cyfle ar gyfer craffu allanol gan ei fod yn cyd-fynd â’n hymrwymiad i dryloywder ac atebolrwydd. Bydd hyn yn ein helpu i nodi cryfderau a meysydd ar gyfer twf, gan wella ein darpariaeth gwasanaeth ac ymgysylltiad cymunedol yn y pen draw.

“Mae lles a phrofiadau ein staff yn hollbwysig. Ni ddylai neb deimlo’n anghyfforddus wrth godi unrhyw bryderon, a gallant ddewis gwneud hynny’n gyfrinachol drwy linell gymorth annibynnol – rwy’n addo y byddant bob amser yn cael eu cymryd o ddifrif ac mae cyfoeth o gymorth ar gael hefyd.

“Dechreuodd ein taith ddiwylliannol gyda’n staff, trwy ein harolwg staff annibynnol cyntaf a osododd y sylfaen ar gyfer newid cadarnhaol ac yn awr wrth i ni weithio trwy ganlyniadau ein harolwg staff diweddaraf, bydd lleisiau staff yn parhau i’n harwain.

“Rwyf am fynegi fy niolch am waith caled parhaus ac ymroddiad ein staff a rhoi sicrwydd i’r cyhoedd y byddwn yn llywio’r broses hon gydag uniondeb a phroffesiynoldeb.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen