Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Marwolaeth dynes yn dilyn tân mewn eiddo yn Llandudno

Postiwyd

Mae dynes wedi marw yn dilyn tân mewn eiddo yn Llandudno.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ei alw i'r eiddo ar Ffordd y Brenin am 10.59 o'r gloch heddiw, fore Gwener, 9 Chwefror wedi iddyn nhw dderbyn adroddiad o dân.

Mynychodd dau beiriant o Landudno, dau beiriant o Fae Colwyn a Phlatfform Ysgol Uchel o'r Rhyl y digwyddiad, ynghyd â swyddogion tân sy'n cynnal ymchwiliad ar y cyd gyda Heddlu Gogledd Cymru.

Dywedodd Paul Jenkinson o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae ein cydymdeimladau dwysaf yn cael ei estyn i'r teulu a'r ffrindiau ar yr adeg anodd hon.

"Nid yw achos y tân wedi'i gadarnhau eto ac mae bellach yn destun ymchwiliad ar y cyd."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen