Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Lawnsiad Siarter Tanau Gwyllt Cymru

Postiwyd

Lansiwyd Siarter Tanau Gwyllt cyntaf Cymru yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Ddydd Llun 24 Gorffennaf 2023.

Mae Siarter Tanau Gwyllt Cymru yn ddogfen strategol allweddol sy’n amlinellu ymrwymiadau Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru, sy'n cynnwys asiantaethau allweddol o bob rhan o Gymru, ac mae’n nodi sut byddent yn rheoli'r risg o danau gwyllt, gan leihau ei effaith ar yr amgylchedd ac ar gymunedau Cymru.

Dywedodd Iwan Cray, Cadeirydd Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru a Dirprwy Brif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru:

"Mae ein Siarter Tanau Gwyllt newydd wedi'i seilio ar wybodaeth a phrofiad y mae’r partneriaid ar y Bwrdd wedi'u hennill dros y degawd diwethaf wrth iddynt fynd i’r afael ag effaith tanau gwyllt ledled Cymru.

"O dan ymagwedd gydweithredol Bwrdd Lleihau Tanau Bwriadol Strategol, rydym wedi gweld llwyddiannau sylweddol, a gyflawnwyd trwy lawer iawn o benderfyniad a gwaith caled gan yr holl asiantaethau dan sylw. Fodd bynnag, mae tanau gwyllt ledled Cymru yn parhau i beri perygl clir a phresennol i'n hamgylchedd, ein heconomi a'n cymunedau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld yr arwyddion cynnar o lwyfannu yn nifer y digwyddiadau, gan nodi bod angen dull newydd i sicrhau y gallwn ddelio â'r heriau sy'n dod i'r amlwg yr ydym yn eu hwynebu."

Dywedodd Andrew Wright, Cadeirydd Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru ac Uwchgynghorydd Arbenigol –  Iechyd Planghigion a Throslglwyddo Gwybodaeth gyda Chyfoeth Naturiol Cymru: 

“Mae ein siarter tanau gwyllt wedi'i llunio o amgylch tair thema allweddol, pob un wedi'i chynllunio i sicrhau ein bod yn gallu canolbwyntio ar y meysydd hynny sydd nid yn unig angen y sylw mwyaf, ond a fydd hefyd yn cael y dylanwad mwyaf o ran gwella ein dealltwriaeth o danau gwyllt a sut y gall y Bwrdd reoli eu heffaith mewn ffordd gadarnhaol.”

Mae themâu'r Siarter Tanau Gwyllt yn cynnwys:

Partneriaethau – Trwy weithio mewn partneriaeth sy'n esblygu, byddwn yn dod â Llywodraeth Cymru, y Gwasanaethau Brys, Sefydliadau Cyhoeddus a Phreifat, Tirfeddianwyr a Defnyddwyr Tir at ei gilydd i reoli ac i ddatblygu ein tirwedd.

Cydnerthedd Amgylcheddol a Chymunedol – Byddwn yn cyfrannu at reoli ein tirwedd er mwyn diogelu bywyd gwyllt; coedwigaeth a bywoliaethau; i wella lles, iechyd ac amwynder, i hwyluso cynhyrchu bwyd cynaliadwy, ac i greu ymdeimlad o le a pherchnogaeth gymunedol.

Atal ac Amddiffyn – Byddwn yn gweithredu ystod amrywiol o dechnegau rheoli er mwyn lleihau effaith tanau gwyllt ar ein cymunedau a'r dirwedd yng Nghymru.

Mae tanau gwyllt yn gyfrifol am ddinistrio miloedd o hectarau o gefn gwlad, mannau agored a chynefinoedd bywyd gwyllt bob blwyddyn. Bydd Partneriaid y Bwrdd Tanau Gwyllt yn ymrwymo i weithio gyda'n cymunedau er mwyn creu tirwedd sy’n iachach ac yn fwy cydnerth, a hynny trwy wella bioamrywiaeth cefn gwlad ar gyfer ein dyfodol.

Nod Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru, gyda’u dull amlasiantaethol o ymdrin ag ymwybyddiaeth tanau gwyllt, yw ymgysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol, cydweithio er mwyn cefnogi’r gwaith o reoli tanau gwyllt, a gwrando a rhannu datrysiadau ymarferol ar gyfer Cymru. Drwy ddefnyddio’r dull cydweithredol hwn, mae’r asiantaethau sy’n rhan o Fwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn gobeithio cynnig gwell dealltwriaeth o'r hyn y gellir ei wneud i gyfyngu ar nifer y tanau gwyllt, a thrwy hynny leihau'r difrod y gallant ei achosi i'n hamgylchedd.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen