Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybudd ynghylch bagiau gwenith ar gyfer y microdon ac apêl i ‘Edrych ar ôl ein gilydd y Nadolig hwn’ yn dilyn marwolaeth drasig yn Llandrillo-yn-Rhos

Postiwyd

Mae Pennaeth Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi apelio i drigolion ‘Edrych ar ôl ei gilydd y Nadolig hwn’ ar ôl i fag gwenith ar gyfer y microdon gael ei gadarnhau fel achos y tân yn Llandrillo-yn-Rhos yr wythnos diwethaf.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i’r eiddo ar Marston Drive am 8.34 o’r gloch ddydd Mercher diwethaf, 6 Rhagfyr gan Heddlu Gogledd Cymru ar ôl iddynt dderbyn adroddiad yn ymwneud â phryder am ddiogelwch y preswylydd. Cadarnhaodd swyddogion yr heddlu fod arwyddion o dân yn yr eiddo, a daethant o hyd i'r ymadawedig, y credir ei fod yn ei 80au, mewn ystafell wely. Aeth un injan dân o Fae Colwyn i’r lleoliad ynghyd â swyddogion tân a gynhaliodd ymchwiliad i’r digwyddiad ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru.

Dywedodd Paul Kay, Pennaeth Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru : “Mae fy nghydymdeimlad dwysaf gyda theulu a ffrindiau’r gŵr bonheddig a fu farw yn y digwyddiad trasig hwn yr wythnos diwethaf.

“Mae’n ymddangos mai achos y tân oedd bag gwenith ar gyfer y microdon a oedd wedi’i roi o dan y dillad gwely ar wely’r gŵr.

“Mae Bagiau Gwenith Microdon yn aml yn cael eu defnyddio i ddarparu gwres i fannau poenus ar y corff ac yn aml mae ganddyn nhw arogl aromatig.

“Yr hyn y mae'n rhaid ei gofio yw bod cynnyrch sy'n amsugno ac yn storio gwres yn y modd hwn yn risg tân posibl os na chaiff ei ddefnyddio'n iawn.

“Os yw bag gwenith yn cael ei insiwleiddio ar ôl ei gynhesu – er enghraifft o dan ddillad gwely, fe all danio.”

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru hefyd yn cyhoeddi’r cyngor canlynol ynghylch defnyddio bagiau gwenith ar gyfer y microdon:

 

  • Prynwch fagiau gwenith sy'n cynnwys Safon Diogelwch Prydeinig/CE/UKCA (Aseswyd ar gyfer Cydymffurfiaeth y DU) a chyfarwyddiadau clir gan y gwneuthurwr
  • Dilynwch gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr bob amser
  • Peidiwch byth â gorboethi'r bag gwenith
  • Peidiwch ag ailgynhesu’r bag tan ei fod wedi oeri’n llwyr – a all gymryd hyd at ddwy awr
  • Peidiwch byth â gadael y microdon heb neb yn gofalu amdano wrth gynhesu'r bag gwenith
  • Peidiwch byth â storio'r bag gwenith tan ei fod wedi oeri'n llwyr
  • Gadewch y bag gwenith i oeri mewn man diogel ac ar arwyneb sydd ddim yn un llosgadwy - fel sinc cegin
  • Peidiwch â defnyddio'r bag os yw wedi ei ddifrodi mewn unrhyw ffordd
  • Chwiliwch am arwyddion o orddefnydd, fel arogleuon golosgi neu losgi, a’i daflu os oes arwyddion
  • Peidiwch byth â defnyddio bag gwenith i gynhesu'r gwely

 

Ychwanegodd Paul: “Dylid annog y bobl hynny sydd â dementia, problemau cof tymor byr neu’r rhai sydd dan ddylanwad cyffuriau ac alcohol i ymatal rhag defnyddio’r eitemau hyn o gwbl.

“Hefyd, ystyriwch a ddylai teulu, gofalwyr neu weithwyr proffesiynol eraill gael eu hysbysu am y cyngor hwn.

“Damwain drasig oedd hon wrth gwrs, ac i mi, yn ogystal ag amlygu’r peryglon posibl na fydd llawer wedi’u hystyried, mae hefyd yn amlygu pwysigrwydd dod ynghyd i ofalu am ein gilydd, sy’n cysylltu â’n hymgyrch diogelwch dros y Nadolig, 'Gofalwch am eich gilydd y Nadolig hwn'.

“Nid oedd gan y gŵr hwn larymau mwg – a’r peth gorau y gall unrhyw un ohonom ei wneud i deulu, ffrindiau a chymdogion a allai fod yn fregus yw sicrhau bod ganddyn nhw larymau mwg sy’n gweithio. Gall y larymau hyn roi rhybudd cynnar a allai ganiatáu iddyn nhw ddianc yn ddiogel. Trwy ddechrau sgwrs am gadw’n ddiogel rhag tân, gallech hefyd helpu i amlygu unrhyw arferion peryglus sydd ganddyn nhw.”

 

Mae staff o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi bod yn ardal Llandrillo-yn-Rhos yr wythnos hon, yn cynnig gwiriadau diogel a iach yn rhad ac am ddim i drigolion yr ardal.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen