Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Annog cymunedau ledled y gogledd i aros yn ddiogel ac yn ddigon pell o'r dŵr y gaeaf hwn

Postiwyd

Mae staff o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a’r RNLI wedi dod at ei gilydd i apelio ar bawb i fod yn ofalus wrth ymyl y dŵr tra dan ddylanwad.

Fel rhan o ymgyrch genedlaethol Peidiwch ag Yfed a Boddi, sy’n cael ei rhedeg gan Y Gymdeithas Achub Bywydau Frenhinol (RLSS UK), mae trigolion gogledd Cymru yn cael eu hannog i wneud dewisiadau da, gofalu am ei gilydd a gwneud yn siŵr eu bod yn mynd adref ar ôl noson allan ar hyd llwybrau sydd ymhell o’r dŵr.

Mae ystadegau’n dangos bod 73 o bobl ar gyfartaledd yn colli eu bywydau bob blwyddyn oherwydd boddi sy’n gysylltiedig â sylweddau, sef bron i chwarter (29%) o farwolaethau trwy foddi damweiniol blynyddol y DU, a dynion ifanc yw un o’r grwpiau risg uchaf.

Dywedodd Gwyn Roberts, Rheolwr Gwylfa Diogelwch Tân ac arweinydd diogelwch dŵr Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

 “Yn drist iawn mae pobl yn marw bob blwyddyn oherwydd eu bod wedi mynd i mewn i'r dŵr dan ddylanwad, weithiau'n fwriadol neu'n amlach, yn hollol ddamweiniol. Gall alcohol a chyffuriau amharu'n ddifrifol ar eich gallu i oroesi mewn dŵr. Os ydych chi wedi cael diod, cadwch yn ddigon pell o'r dŵr.

 “Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n boddi o dan ddylanwad wedi gwneud hynny drwy syrthio i mewn wrth gerdded ar eu pennau eu hunain wrth ymyl y dŵr. Eleni, mae mwy o bobl yn debygol o fod yn yfed gartref ac felly rydyn ni’n annog pobl i ystyried eu gweithredoedd wrth fynd tuag adref.

“Rydyn ni’n gwybod bod pawb yn edrych ymlaen at fwynhau nosweithiau allan yr adeg yma o’r flwyddyn, ac rydyn ni’n gofyn i chi fod yn ‘angylion gwarcheidiol’; os oes rhywun yn gadael eich tŷ dan ddylanwad, gwnewch yn siŵr bod ganddo/ganddi lwybr diogel adref - #ByddYnFfrind.”

Lansiwyd Peidiwch ag Yfed a Boddi yn 2014 yn dilyn cyfres o achosion trasig o foddi ymhlith pobl ifanc. Mae gan yr ymgyrch ddau gyfnod o amser wedi’u targedu pan ddangoswyd bod achosion o foddi sy’n gysylltiedig ag alcohol yn arbennig o uchel. Y rhain yw mis Medi (ar ddechrau tymor newydd y prifysgolion) a Rhagfyr (yn ystod cyfnod yr ŵyl), sydd wedi’u hymestyn eleni i gynnwys Cwpan y Byd, gyda’r ymgyrch yn rhedeg o 11 – 17 Rhagfyr.

Eleni, nod RLSS UK yw parhau i ostwng cyfradd y marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol mewn digwyddiadau trasig y gellir eu hosgoi’n llwyr fel arfer.

Mae'r Elusen yn hybu eu neges #ByddYnFfrind drwy annog pobl i:

  1. Fod yn ddiogel
  2. Cynllunio llwybr diogel oddi wrth ddŵr
  3. Gofalu am ei gilydd

 

I gael rhagor o wybodaeth ac adnoddau digidol ymgyrch Peidiwch ag Yfed a Boddi RLSS UK am ddim, ewch i www.rlss.org.uk.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen