Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Apêl i gadw'n ddiogel ar ôl i ddynes yn ei 80au fynd i’r ysbyty yn dilyn tân blanced drydan ar Ynys Môn

Postiwyd

Mae Pennaeth Atal Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn apelio ar y gymuned i gadw eu hunain, teulu, ffrindiau a chymdogion yn ddiogel ar ôl i larwm mwg rybuddio diffoddwyr tân am dân oedd yn cynnwys blanced drydan mewn byngalo yng Ngwalchmai, Ynys Môn neithiwr.

Daeth criwiau o Gaergybi a Rhosneigr i'r byngalo ar ôl i'r ystafell reoli gael ei rhybuddio drwy'r system larwm mwg 'Galw Gofal' am 19:00 o'r gloch ddydd Sul, Rhagfyr 3ydd.

Aeth diffoddwyr tân yno a chario'r ddynes i le diogel, cyn rhoi cymorth cyntaf iddi. Cafodd ei chludo i'r ysbyty yn ddiweddarach am driniaeth ar ôl iddi anadlu mwg.

Dywedodd Kevin Jones, Pennaeth Atal Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae hon yn enghraifft bwysig o sut y gall larymau mwg achub bywydau. Tynnodd system Galw Gofal sylw at ein hystafell reoli, ac anfonwyd criwiau'n syth i gartref y ddynes.

"Gweithiodd ein diffoddwyr tân yn gyflym ac yn effeithiol i gyrraedd y ddynes a'i chludo i ddiogelwch, cyn taclo'r tân yn ymwneud â blanced drydan yn yr ystafell wely.

"Fis diwethaf, lansiwyd ein hymgyrch 'Gofalwch am ein gilydd y Nadolig hwn' - gan ofyn i bawb wneud yn siŵr bod gan eu teulu, ffrindiau neu gymdogion a allai fod yn agored i niwed, larymau mwg sy’n gweithio yn ogystal â gofalu am eu lles. Gallwch ddarllen mwy yma.

"Mae'r digwyddiad hwn yn cynnwys blanced drydan - mae mor bwysig bod trydanwr cymwys yn edrych ar a phrofi eitemau trydanol fel blancedi trydan yn rheolaidd. Gallwch weld mwy o gyngor ar ddefnydd diogel o flancedi trydan yma.

"Gyda mwy a mwy o eitemau trydanol yn cael eu defnyddio yn y cartref, gwelwn fod nifer sylweddol o'r tanau rydym yn eu mynychu bellach yn cynnwys eitemau trydanol. Heddiw gwelwyd diogelwch trydanol yn lansio eu hwythnos Diogelwch Tân Trydanol am y tro cyntaf, sy'n rhoi cyngor ar ddefnyddio eitemau trydanol yn ddiogel dros gyfnod y Nadolig - gallwch ddarllen mwy yma https://www.electricalsafetyfirst.org.uk/christmas."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen