Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwasanaethau Brys Gogledd Cymru yn Hyrwyddo Cynnwys "Blue Light Aware"

Postiwyd

Sut fyddech chi'n gwybod sut i ymateb i gerbyd o'r gwasanaethau brys sydd ar daith "golau glas"? Mae Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn helpu hyrwyddo cynnwys addysgiadol ar gyfer defnyddwyr y ffordd. 

Os oedd argyfwng lle'r oedd eich ffrind chi neu aelod o'r teulu mewn perygl, mi fuasech chi eisiau i'r gwasanaethau brys eu cyrraedd nhw cyn gynted â phosibl. Bob dydd mae'r heddlu, y gwasanaeth ambiwlans a'r gwasanaeth tân yn ymateb i alwadau brys. Maent yn defnyddio golau glas a seirenau er mwyn lleihau eu hamseroedd teithio er mwyn cyrraedd y fan a'r lle mor gyflym a diogel â phosibl.

I ymatebwyr y gwasanaethau brys, y broblem fwyaf maen nhw'n wynebu wrth ymateb i'r galwadau yma ydy modurwyr sy'n mynd i banig pan maen nhw'n gweld golau glas neu'n clywed seiren.

Mae Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn helpu hyrwyddo gwefan Blue Light Aware. Mae'n cynnwys cyngor a fideos er mwyn helpu modurwyr wybod yr hyn i'w wneud pan mae cerbyd brys yn trio eu pasio nhw.

Dyma awgrymiadau gwych gan Blue Light Aware:

  • Peidiwch cynhyrfu!
  • Chwiliwch am le diogel i symud i'r chwith a stopio.
  • Daliwch i fynd os 'da chi ar dro neu ar ben allt. Yna ewch i'r ochr pan 'da chi 'fo gwell golwg o'r hyn sydd o'ch blaen.
  • Cadwch allan o lonydd bysus.
  • Cadwch draw o ymyl palmentydd, palmentydd yn gyffredinol ac ymyl ffyrdd meddal.
  • Peidiwch â rhwystro iddyn nhw weld ynysoedd croesi neu groesfannau ar gyfer cerddwyr.
  • Peidiwch â stopio wrth ymyl ynysoedd croesi.
  • Peidiwch â thorri'r gyfraith drwy fynd drwy olau coch, er eich bod yn trio helpu.
  • Cadwch lygad allan am fwy nag un cerbyd brys a gwiriwch cyn symud i ffwrdd eto.

Mae'r wefan Blue Light Aware yn cynnwys fideos defnyddiol hefo gwybodaeth ar sut i ymateb i gerbydau brys mewn sefyllfaoedd traffig amrywiol fel traffyrdd, goleuadau traffig, llinellau gwyn di-dor, cylchfannau a chyffyrdd.

Dywedodd Dermot O'Leary, Rheolwr Ardal Dros Dro Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn siroedd Conwy a Dinbych: "Mewn argyfwng fel ataliad ar y galon, mae bob eiliad yn cyfrif. Gall dewisiadau gwael gan fodurwyr oedi'r ymateb i'r bobl hynny mewn angen.

"Mae'n hawdd mynd i banig pan mae cerbyd argyfwng yn nesáu hefo goleuadau a seirenau. Ond mae ein criwiau wedi'u hyfforddi er mwyn gallu pasio modurwyr eraill yn ddiogel.

"Gall y cyhoedd helpu drwy beidio cynhyrfu a chofio'r awgrymiadau gwych hynny, fel chwilio am rywle diogel i symud i'r chwith a stopio.

"Bydd ein hystafell reoli'n aml yn anfon llu o griwiau mewn ymateb i ddigwyddiad. Felly awgrym pwysig gyno ni ydy cadw llygad allan am fwy nag un cerbyd brys cyn symud i ffwrdd eto. Gall bod yn wyliadwrus ar y ffyrdd wneud gwahaniaeth mawr i glaf mewn angen."

Dywedodd Neil Worth, Prif Weithredwr GEM Motoring Assit a greodd y cynnwys Blue Light Aware: "Fel gyrwyr, 'da ni gyd eisiau helpu a g'neud y peth iawn pan mae cerbyd argyfwng yn nesáu. ⁠Mae'r fideos Blue Light Aware yn cynnig cyngor syml o sefyllfaoedd cyfarwydd 'da ni'n greu sy'n wybodaeth hanfodol i bob gyrrwr.     

"Os 'da ni'n deall yn well yr hyn mae gyrwyr brys eisiau i ni ei wneud – a'r hyn dydy nhw ddim eisiau i ni ei wneud - yna byddwn mewn lle gwell i ymateb yn gynnar i'w presenoldeb nhw a lleihau unrhyw oedi neu risg.

"'Da ni'n diolch i'n cydweithwyr ni'n Gogledd Cymru am eu help ac yn dymuno bob llwyddiant iddyn nhw wrth iddyn nhw weithio er mwyn rhannu eu gwybodaeth hefo defnyddwyr ffyrdd y rhanbarth, a fydd o bosib yn achub bywydau."

Drwy fod yn ymwybodol ac yn wyliadwrus, mae modurwyr hefo mwy o amser i ddisgwyl a chynllunio. Mae hyn yn lleihau risgiau i aelodau o'r cyhoedd a'r ymatebwyr cyntaf. Gall hyd yn oed helpu achub bywyd. 

Ewch ar wefan Blue Light Aware yma - UK emergency services awareness resource | Blue Light Aware

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen