Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Arhoswch yn ddiogel wrth fwynhau pencampwriaeth yr Ewros

Postiwyd

Mae Pencampwriaeth UEFA Ewrop 2020 ar fin dechrau ddydd Gwener, ac mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn apelio ar y cyhoedd i gofio am ddiogelwch wrth fwynhau’r gemau.

 

Dywedodd Kevin Jones, Pennaeth Diogelwch Cymunedol: "Rydym eisiau i’n cymuned leol gael pencampwriaeth fythgofiadwy am y rhesymau iawn, a byddem yn annog pobl i roi ystyriaeth i ddiogelwch wrth fwynhau’r twrnamaint cyffrous.

 

"Eitemau coginio yw’r prif bethau sy’n achosi tanau damweiniol yn y cartref – ac mae canran fawr o’r tanau coginio yn cael eu hachosi gan breswylwyr sydd dan ddylanwad alcohol.

 

"Mae alcohol yn amharu ar allu ac ar benderfyniadau, felly dyma apelio ar gefnogwyr pêl-droed i osgoi coginio ar ôl cael diod ac i feddwl am y gwahanol  bethau a allai darfu arnynt ac arwain at dân, marwolaeth neu anaf yn y cartref neu at wrthdrawiad ar y ffordd."

Mae Kevin yn rhoi’r cyngor canlynol:

  • Peidiwch ag yfed a choginio – cefnogwch eich tecawê lleol, trefnwch i gael bwyd wedi’i ddanfon i’ch cartref neu gofynnwch i rywun wneud bwyd ar eich cyfer.
  • Gwnewch yn siŵr nad yw pethau i gofio’r Ewros yn eich cartref, fel baneri ac eitemau i’w chwythu, yn cael eu gosod wrth ffynhonnell gwres.
  • Peidiwch ag yfed a gyrru – cerddwch, trefnwch i gael lifft neu dacsi.
  • Gwnewch yn siŵr nad yw baneri ar gerbydau’n cael eu gosod yn rhywle lle byddent yn debygol o dynnu sylw neu guddio pethau rhag y gyrrwr neu unrhyw yrrwr arall ar y ffordd.
  • Wrth wylio’r gemau gartref neu yn y dafarn – dilynwch ganllawiau Covid y llywodraeth ac arhoswch yn ddiogel.

 

Mae mwy o wybodaeth am dân a diogelwch ar y ffyrdd ar gael yn www.nwales-fireservice.org.uk/ keeping you Safe

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen