Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân eithin yn Rhewl ger Llangollen – y diweddaraf 2.6.21 9.30am

Postiwyd

Mae un peiriant ac un uned tanau awyr agored yn dal wrth y tân mynydd yn Rhewl bore heddiw. Mae diffoddwyr tân wrthi’n huddo mannau problemus ar y mynydd.

Daeth galwad i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am 1.13pm ddoe (dydd Mawrth 1af Mehefin) i roi gwybod am y tân.

Bu criwiau tân yn gweithio â chydweithwyr o Gyfoeth Naturiol Cymru, Wardeiniaid Sir Ddinbych o Gyngor Sir Ddinbych, Heddlu Gogledd Cymru a’r grŵp gwirfoddolwyr 4 x 4 i ddod â’r digwyddiad dan reolaeth.

Aeth hofrennydd yno a gollwng dŵr ar y digwyddiad i helpu i ddiffodd y tân. Roedd y tân dan reolaeth tua 9pm neithiwr.

Roedd tua 1km sgwâr o eithin, tandyfiant a choedwigaeth wedi cael eu heffeithio, a chredir bod y tân wedi cynnau’n ddamweiniol.

Dywedodd Paul Jenkinson, Uwch Reolwr Gweithrediadau: “Dylech barhau i osgoi’r ardal tra mae’r criwiau’n delio â’r digwyddiad. Bydd gennym nifer o gerbydau yn yr ardal eto heddiw, a gofynnwn i’r cyhoedd ein helpu drwy gadw draw o’r ardal nes bydd y digwyddiad drosodd.

“Mae’r digwyddiad hwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth â’n cydweithwyr o’r asiantaethau eraill i ddod â’r digwyddiad dan reolaeth yn gyflym a diogel. Mae ein criwiau wedi gweithio’n galed ar y mynydd ddoe mewn amgylchiadau poeth iawn, a hoffwn ddiolch i bawb a fu’n helpu gyda’r digwyddiad.”

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen