Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Dangoswch barch y tro hwn ar Noson Tân Gwyllt

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ymuno gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a Heddlu Gogledd Cymru mewn apêl i helpu i gadw pobl yn ddiogel yn ystod y tymor tân gwyllt.

 

Gan fod arddangosfeydd tân gwyllt cymunedol wedi cael eu canslo, bydd nifer o bobl yn cael eu temtio i gynnau tân gwyllt a choelcerthi yn yr ardd - ac felly mae pryder y gall hyn arwain at noson brysur i wasanaethau brys ledled y rhanbarth.

 

Meddai Justin Evans, Pennaeth Atal ac Amddiffyn Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae nifer y digwyddiadau yn gysylltiedig â thân gwyllt a choelcerthi y cawn ein galw atynt wedi gostwng yn sylweddol ers i bobl wrando arnom a mynd i arddangosfeydd cymunedol yn hytrach na thanio tân gwyllt eu hunain.

 

“Ond, oherwydd bod arddangosfeydd tân gwyllt cymunedol wedi cael eu canslo eleni rydym yn poeni y gall hyn arwain at gynnydd mewn arddangosfeydd yn y cartref ac o bosibl anafiadau ac felly rydym yn erfyn ar bobl i feddwl ddwywaith cyn tanio tân gwyllt eu hunain.

 

“Os ydych chi’n penderfynu tanio tân gwyllt neu drefnu coelcerth, rydym yn erfyn arnoch i ddangos PARCH trwy ddilyn y cyngor isod.”

 

 

Parchwch dân gwyllt

 

Cofiwch mai ffrwydron ydi tân gwyllt, ac felly dylid eu parchu a’u defnyddio yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a’r Cod Tân Gwyllt.

Cadwch yn ddiogel a dilynwch y Cod Tân Gwyllt.

 

Dyma’n cyngor:

  • Cynlluniwch eich arddangosfa fel ei bod yn ddiogel a phleserus, a gwnewch yn siŵr eich bod wedi gorffen cyn 11pm
  • Prynwch dân gwyllt gyda marc CE arnynt, cadwch nhw mewn bocs caeedig a thaniwch nhw un ar y tro
  • Darllenwch a dilynwch y cyfarwyddiau ar gyfer pob tân gwyllt unigol gan ddefnyddio tortsh os oes angen
  • Taniwch dân gwyllt hyd braich gyda thapr a safwch ddigon pell yn ôl
  • Cadwch fflamau noeth, yn cynnwys sigaréts, ymhell o dân gwyllt
  • Peidiwch byth â dychwelyd at dân gwyllt ar ôl ei danio
  • Peidiwch â rhoi tân gwyllt yn eich poced na’u taflu
  • Cyfeiriwch rocedi ddigon pell oddi wrth y bobl sy’n gwylio’r arddangosfa
  • Peidiwch byth â rhoi paraffin na phetrol ar goelcerth
  • Gwnewch yn siŵr bod y tân wedi ei ddiffodd a bod yr ardal o amgylch y goelcerth yn ddiogel cyn gadael.

Parchwch y gwasanaethau brys

 

Rydym ynghanol pandemig ar hyn o bryd ac felly gofynnwn i bobl beidio’i mentro hi, na rhoi pwysau ychwanegol ar ein gwasanaethau brys.

 

Meddai Jonathan Sweet, Rheolwr Gweithrediadau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Ar noson sydd fel arfer yn rhoi’r gwasanaethau brys dan bwysau aruthrol, rydyn yn erfyn ar y cyhoedd i helpu i ddiogelu eu hunain, eu teulu, eu cymdogaeth a’u ffrindiau trwy gadw’n ddiogel a pheidio’i mentro hi.

 

“Mae’n rhaid i ni gadw adnoddau’r gwasanaeth ambiwlans yn rhydd ar gyfer y galwadau mwyaf difrifol, lle mae bywydau yn y fantol, yn enwedig a ninnau ynghanol y pandemig Covid-19.

 

“Mae modd osgoi llosgiadau trwy ddilyn y Rheolau Tân Gwyllt.

 

“Yn achos llosg, gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn yr isod:

  • Symudwch yr unigolyn oddi wrth y ffynhonnell gwres
  • Oerwch y llosg gyda dŵr claear neu oer am 20 munud
  • Tynnwch ddillad neu emwaith sydd wrth y llosg
  • Gwnewch yn siŵr bod yr unigolyn yn cadw’n gynnes
  • Rhowch haen lynu (cling flim) neu fag plastig glân dros y llosg
  • Defnyddiwch gyffuriau lleddfu poen megis paracetamol neu ibuprofen
  • Am gymorth meddygol ffoniwch 111, eich gwasanaeth Meddyg Teulu tu allan i oriau neu ewch i’r Adran Ddamweiniau ac Ashosion Brys os oes raid

 

 

Parchwch eich cymdogion

 

Mae tân gwyllt yn gallu dychryn pobl ac anifeiliaid. Mae’r henoed a phlant yn aml iawn ofn ac yn cael eu dychryn gan dwrw tân gwyllt. Wedi’r cyfan, ffrwydron ydi tân gwyllt. Rhowch wybod i’ch cymdogion os ydych chi’n bwriadu tanio tân gwyllt ac osgowch brynu rhai swnllyd. Byddwch yn ystyriol wrth drefnu parti tân gwyllt a gwnewch yn siŵr bod y sŵn wedi gorffen erbyn 11pm. 

 

Chewch chi ddim tanio tân gwyllt rhwng 11pm a 7am, ac eithrio ar:

  • Noson Tân Gwyllt, pan mai hanner nos ydi’r terfyn
  • Nos Galan, Diwali a’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd, pan mai 1am ydi’r terfyn

 

Meddai’r Uwcharolygydd Helen Corcoran, Pennaeth Diogelwch Cymunedol Heddlu Gogledd Cymru:

 

“Rydym ni am atgoffa pobl bod rhaid iddynt fod dros 18 oed i brynu tân gwyllt a’i bod hi’n anghyfreithlon tanio neu daflu tân gwyllt (yn cynnwys ffyn gwreichion) yn y stryd neu mewn unrhyw fannau cyhoeddus.

 

“Gallwch gael dirwy o hyd at £5,000 a charchar o hyd at 6 mis am werthu neu ddefnyddio tân gwyllt yn anghyfreithlon. Gallwch hefyd wynebu dirwy o £90 yn y fan a’r lle.

“Eleni wrth blismona byddwn yn canolbwyntio ar daclo ymddygiad gwrthgymdeithasol a chadw pobl yn ddiogel, mae ein neges ychydig bach yn wahanol na’r arfer oherwydd y coronafeirws. Yn ffodus iawn, dydi’r rhan fwyaf o gymunedau yr ydym ni’n eu plismona ddim yn gweld cynnydd mawr mewn troseddau ar yr adeg yma o’r flwyddyn , ond mae wastad un neu ddau sydd yn sbwylio pethau i bawb arall. Dydyn ni ddim eisiau i bobol fynd dros ben llestri wrth ddathlu ac achosi trallod neu niwed i eraill.

“Cofiwch barchu, amddiffyn a mwynhau.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen