Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybuddio am beryglon canhwyllau yn dilyn tân yn y Rhyl

Postiwyd

Mae Swyddog Tân yn apelio ar drigolion i gymryd pwyll gyda chanhwyllau a fflamau agored yn dilyn tân yn y Rhyl neithiwr (Nos Lun 24ain Awst).

Aeth criwiau o Abergele a’r Rhyl at y digwyddiad yn West Parade, y Rhyl am 6.40pm neithiwr.

Credir bod y tân wedi ei achosi gan ganhwyllau a oedd wedi cael eu gadael yn llosgi ar fath heb neb i gadw llygaid arnynt. O ganlyniad achoswyd difrod tân i’r cyntedd.

Meddai Simon Bromley, Rheolwr Diogelwch Cymunedol: “Mae’r digwyddiad yn amlygu peryglon gadael canhwyllau’n llosgi heb neb i gadw llygaid arnynt a pha mor hawdd y gall tanau ddigwydd.   

“Roedd y preswylwyr yn ffodus iawn i ddianc o’r tân. Cafodd dau o bobl eu hebrwng allan i fan diogel gan ddiffoddwyr tân. Fe all canhwyllau achosi tân yn hawdd iawn a phob blwyddyn rydym ni’n mynd at lu o danau sydd wedi eu hachosi gan fflamau agored heb eu goruchwylio ac maent yn gallu achosi llawer o ddifrod.

“Rydym yn cynghori pobl i ddefnyddio canhwyllau batri, sydd ar gael i’w prynu’n rhad yn hytrach na defnyddio fflamau agored. Mae’r canhwyllau barti hyn yr un mor effeithiol ac yn creu’r un awyrgylch â chanhwyllau traddodiadol ond maent yn llawer iawn mwy diogel.

Cynghorir trigolion sydd yn defnyddio canhwyllau i ddilyn y cyngor diogelwch isod:

  • Gwnewch yn siŵr bod canhwyllau yn cael eu rhoi mewn daliwr pwrpasol, a’u gosod ar arwynebedd cadarn, ymhell o ddefnyddiau a all fynd ar dân - megis llenni
  • Ni ddylech fyth adael plant neu anifeiliaid anwes ar eu pen eu hunain gyda chanhwyllau wedi tanio
  • Peidiwch byth â gadael canhwyllau wedi eu tanio heb neb i gadw llygaid arnynt
  • Diffoddwch ganhwyllau cyn gadael yr ystafell, a gwnewch yn siŵr eu bod wedi eu diffodd yn llwyr cyn mynd i’r gwely
  • Cadwch y cwyr yn glir o wiciau wedi torri, matsis a gweddillion
  • Llosgwch ganhwyllau mewn ystafelloedd wedi eu hawyru’n dda, ond rhaid osgoi drafftiau, fentiau a cheryntau aer - bydd hyn yn helpu i atal y gannwyll rhag llosgi’n rhy gyflym neu’n anwastad, pardduo a diferu gormodol
  • Trimiwch y wic i ¼ modfedd cyn tanio’r gannwyll. Fe all wic hir neu gam achosi’r gannwyll losgi’n anwastad, dripio neu fflerio
  • Peidiwch â symud canhwyllau ar ôl eu tanio
  • Dilynwch gyfarwyddiadau’r gwneuthurwyr ynghylch amser llosgi a defnydd priodol
  • Rhowch ganhwyllau persawr mewn daliwr canhwyllau a all wrthsefyll gwres, gan fod y math yma o ganhwyllau yn troi’n hylif ar ôl eu tanio i greu mwy o arogl
  • Llosgwch ganhwyllau ar fat a all wrthsefyll gwres bob amser
  • Peidiwch â llosgi nifer o ganhwyllau yn agos at ei gilydd rhag ofn iddynt achosi i’r fflam i fflerio
  • Defnyddiwch haearn canhwyllau neu lwy i ddiffodd canhwyllau. Mae’n fwy diogel na’u chwythu sydd yn gallu achosi gwreichion.

Ychwanegodd Simon: “Hyd yn oed gyda’r rhagofalon hyn, mae’n hanfodol eich bod wedi paratoi rhag y gwaethaf.  Fe all larwm mwg gweithredol roi cyfle i chi fynd allan, aros allan a galw 999. Cadwch eich hun a’ch anwyliaid yn ddiogel trwy brofi’ch larwm mwg yn rheolaidd a chynllunio ac ymarfer eich cynllun dianc.”

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen