Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Apêl gan uwch swyddog tân i gymryd pwyll arbennig a phrofi larymau mwg yn dilyn nifer o danau mewn cartrefi ledled y rhanbarth

Postiwyd

Mae uwch swyddog tân yn apelio ar bawb i gadw’n ddiogel a chymryd pwyll arbennig i helpu i osgoi tanau yn dilyn nifer o danau difrifol ledled y rhanbarth dros yr wythnos diwethaf.

Mae’r digwyddiadau yn cynnwys:

9.35 o’r gloch y bore yma (13/07) – Digwyddiad yn Stanley Avenue, y Fali, Caergybi lle’r oedd cartref modur wedi mynd ar dân a lledaenu i’r garej a’r tŷ. Credir ei fod wedi ei achosi gan wresogydd trydanol.

 

02.04 o’r gloch y bore yma (13/07) – Tân yn ymwneud ag oergell mewn cegin mewn eiddo yn Gower Road, Mochdre. Llwyddodd y trigolion i ddianc yn ddianaf ar ôl cael eu rhybuddio gan eu larymau mwg.

 

Oriau mân fore dydd Sul 12fed Gorffennaf – Cafodd dynes 104 mlwydd oed driniaeth ragofalol gan staff ambiwlans a bu’n rhaid i griwiau awyru ei chartref yn dilyn tân coginio. Cawsom ein rhybuddion gan larwm awtomatig Careline.

Nos Wener 10fed Gorffennaf - aeth diffoddwyr tân at adroddiadau o fwg wedi i declyn rheoli o bell gadel ei adael mewn meicrodon mewn fflat yn Stryd Fawr, Bethesda.

Oriau mân fore dydd Gwener 10fed Gorffennaf - Llwyddodd dyn yn ei 80au i ddianc yn ddianaf o dân difrifol yn ei cartref yn Victoria Road, Prestatyn. Roedd y preswylydd i lawr y grisiau pan glywodd y larwm mwg yn seinio. Credir bod y tân wedi ei achosi gan nam trydanol.

Nos Fawrth 7fed Gorffennaf - Tân mewn eiddo yng Ngarndolbenmaen –Cychwynnodd yn ddamweiniol.

Nos Lun 6ed Gorffennaf - Tân a achoswyd gan fatri newydd mewn gliniadur. Galwyd criwiau at liniadur ar dân yn Nhan yr Eglwys, Rhuddlan. Achosodd y tân ddifrod i’r gliniadur, bwrdd y gegin lle’r oedd y gliniaur yn gwefru a duo’r wal.

Meddai Paul Scott, Uwch Reolwr Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Rydym am i bobl gadw mor ddiogel â phosibl yn eu cartrefi - ond mae’n rhaid i bawb weithio gyda ni a gwrando ar gyngor sylfaenol i helpu i osgoi tân yn y cartref.

“Yn ffodus iawn chafodd neb ei anafu’n ddifrifol - ac yn achos y rhan fwyaf o’r digwyddiadau hyn roedd y preswylwyr wedi llwyddo i ddianc yn ddiogel ar ôl clywed eu larymau mwg yn canu.  “Mae larymau mwg yn achub bywydau - ac mae’n bwysig bod gennych larymau mwg gweithredol yn eich cartref a’ch bod chi’n eu profi’n rheolaidd er mwyn eich cadw chi a’ch teulu’n ddiogel. Fe wnaeth y larwm Careline seinio yn ystod y digwyddiadau yn yr Wyddgrug ac mae systemau tebyg yn helpu trigolion hŷn sydd yn fwy agored i niwed - mae’n bwysig ein bod ni’n goflau am ein gilydd ac rwyf yn annog pawb i wneud yn siŵr bod eu ffrindiau a pherthnasau wedi eu diogelu yn y ffordd orau bosibl.  

“Mae nifer ohonom wedi addasu yn ystod cyfyngiadau’r cyfnod clo un ai trwy orfod gweithio neu ddysgu o’r cartref, ac oherwydd ein bod ni’n gorfod gwneud sawl peth ar unwaith mae’r risg o dân yn uwch.

“Yn ddiweddar rydym wedi lansio’r ymgyrch #DimOnd1 sydd yn canolbwyntio ar y modd y gall dim ond un peth bach fynd â’n sylw ac arwain at dân coginio. Mae ein bywydau mor brysur o ddydd i ddydd felly dyma gyngor isod ar sut i gadw mor ddiogel â phosibl.”

12 cyngor diogelwch tân Paul:

  1. Gosodwch larymau mwg ar bob llawr yn eich cartref. Cadwch nhw’n lân rhag llwch a phrofwch nhw unwaith yr wythnos.
  2. Gwnewch gynllun dianc o dân fel bod pawb yn gwybod beth i’w wneud mewn achos o dân.
  3. Cadwch allanfeydd yn glir fel y gall pobl ddianc. Gwnewch yn siŵr bod pawb yn gwybod lle mae agoriadau drysau a ffenestri’n cael eu cadw.
  4. Cymrwch bwyll arbennig yn y gegin - mae damweiniau wrth goginio yn gyfrifol am dros hanner y tanau sydd yn digwydd yn y cartref. Peidiwch byth â gadael plant bach ar eu pen eu hunain yn y gegin.
  5. Cymrwch bwyll arbennig wrth goginio gydag olew poeth. Ystyriwch brynu ffriwr saim dwfn sydd gan thermostat i reoli’r gwres (os nad oes gennych chi un yn barod).
  6. Peidiwch byth â thanio canhwyllau os nad oes neb yno i gadw llygaid arnynt neu mewn ystafelloedd lle mae plant yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain. Gwnewch yn siŵr bod canhwyllau yn cael eu rhoi mewn daliwr canhwyllau pwrpasol ac ar arwynebedd sydd ddim yn llosgi’n hawdd ac ymhell o ddefnyddiau fflamadwy.
  7. Gwnewch yn siŵr bod sigaréts yn cael eu diffodd yn iawn a’ch bod yn cael gwared arnynt yn ddiogel, a pheidiwch ag ysmygu yn y gwely.
  8. Ewch i’r arfer o gau drysau gyda’r nos. Os ydych am gadw drws plentyn ar agor, caewch ddrws y lolfa a’r gegin. Fe all hyn achub eu bywyd mewn achos o dân.
  9. Peidiwch â gorlwytho socedi trydan. Cofiwch - un plwg, un soced.
  10. Cadwch fatsis a thanwyr ymhell o olwg ac o gyrraedd plant.
  11. Cymrwch bwyll arbennig os ydych chi wedi blino neu wedi bod yn yfed.
  12. Peidiwch â gadael eich teledu neu gyfarpar trydanol eraill yn y modd segur rhag ofn iddynt achosi tân. Diffoddwch nhw ar ôl gorffen eu defnyddio, yn enwedig gyda’r nos.
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen