Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Mae #DimOnd1 peth bach yn ddigon i wneud cawlach o bethau yn y gegin - rhybudd wrth i ddiffoddwyr tân fynd at fwy o danau coginio yn ystod y cyfnod clo

Postiwyd

Mae gwasanaethau tân ac achub ledled Cymru yn annog y cyhoedd i gymryd pwyll arbennig wrth iddynt dreulio mwy o amser yn coginio yn y cartref wrth i fwytai, caffis a thafarndai barhau i fod ar gau am y tro.

Mae llawer ohonom wedi addasu yn ystod y cyfnod clo naill ai'n gweithio gartref neu’n addysgu plant gartref, a gyda chynnydd mewn amldasgio mae’r risg o dân mewn cegin yn uwch - mae gadael i ddim ond un peth bach fynd â’ch sylw yn ddigon i wneud cawlach o bethau yn y gegin.

Y neges gan ddiffoddwyr tân ydi bod rhaid i bawb chwarae ei ran i leihau’r galw ar wasanaethau, wrth i’r gwasanaeth tân ac achub lansio’r ymgyrch #DimOnd1 i godi ymwybyddiaeth am beryglon tanau yn y gegin.

Ledled Cymru yn gyffredinol, mae dros 40% o’r holl danau yn y cartref yn cychwyn yn y gegin – sydd yn dangos bod paratoi bwyd yn gallu arwain at drychineb yn hawdd iawn.

Ond yn ystod y cyfnod clo diweddar, mae’r ffigwr hwn wedi cynyddu gan fod pobl wedi bod yn treulio mwy o amser nag arfer yn y gegin.

Er mwyn eich helpu chi i atal tân yn eich cartref, rydym yn eich annog i GYMRYD PWYLL ac osgoi gadael yr ystafell wrth goginio. Os ydych chi’n gadael yr ystafell, diffoddwch y stôf a chadwch ardal y stôf yn glir.

Mae Paul Scott, Uwch Reolwr Diogelwch Tân yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn egluro:

“Gan fod pawb yn gaeth i’w cartrefi yn ystod y cyfnod clo, mae nifer ohonom wedi bod yn greadigol ac wedi pasio’r amser trwy goginio mwy, rhannu ryseitiau a phostio lluniau o’n campweithiau ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Mae hyn yn ffordd dda iawn o gadw mewn cysylltiad gyda theulu a ffrindiau - ond rydym ni wedi sylwi ar gynnydd mewn tanau cegin o ganlyniad.

“Yn anffodus, rydym ni’n gwybod yn iawn fod gadael i ddim ond un peth bach fynd â’ch sylw wrth goginio yn gallu arwain at drychineb  - mae’n swnio’n amlwg ond  mae diffyg canolbwyntio ymhlith un o brif achosion tanau yn y gegin, boed hynny oherwydd y plant neu o ganlyniad i ddefnyddio ffôn symudol neu dabled.

“Mae’n frawychus bod 40% o’r holl danau y cawsom ein galw atynt wedi cychwyn yn y gegin - ond yn fwy brawychus fyth fe allai nifer helaeth o’r rhain fod wedi cael eu hatal trwy gymryd camau syml iawn. 

“Mae hyn yn golygu lleihau’r tebygolrwydd o achosi anaf i chi’n hun neu’ch teulu, neu o orfod gwario ar brynu cegin newydd sbon.” 

Mae’r gwasanaethau tân ac achub wedi dadansoddi tanau coginio ledled Cymru. O’r rhai a edrychwyd arnynt, roedd y rhan fwyaf wedi cychwyn yn y gegin. Diffyg canolbwyntio oedd y prif ffactor dynol dros y tanau hyn, gyda syrthio i gysgu yn dod yn ail agos iawn. Mae hyn yn golygu gadael bwyd yn coginio – sydd yn gallu achosi ceginau llawn mwg, difrod i offer neu waeth byth, difrod difrifol, anaf neu niwed. 

Roedd yr achosion eraill yn cynnwys gadel pethau ar yr hob neu’n rhy agos i’r popty, poptai budr neu sosbenni sglodion wedi gorboethi.

Mae diffoddwyr tân felly’n amlygu y cyngor allweddol hyn fel rhan o’r ymgyrch #DimOnd1:

  • Peidiwch byth â throi eich cefn ar fwyd sydd yn coginio
  • Cadwch eich popty yn lân a pheidiwch â gadael dim byd a all fynd ar dân wrth y popty
  • Profwch eich larymau mwg yn rheolaidd
  • Os bydd tân yn eich cegin, ewch allan, arhoswch allan a ffoniwch 999.

Mae mwy o wybodaeth ar gael fan hyn.

Fel rhan o’r ymgyrch, mae cystadleuaeth diogelwch coginio wedi cael ei lansio gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru gyda chyfle i ennill taleb Amazon gwerth cyfanswm o £150. Mae’n cymryd ychydig funudau i gymryd rhan - dilynwch #DimOnd1 i gael gwybod mwy.

Fe ychwanegodd Paul: “Y gymwynas fwyaf y gallwch chi fel aelodau’r cyhoedd ei gwneud i ni fel diffoddwyr tân ar yr adeg hon ydi cymryd pwyll arbennig, i leihau’r galw ar ein gwasanaethau.

“O brofiad, gwyddwn fod pobl mewn perygl cynyddol o dân pan fyddant yn treulio mwy o amser yn y cartref.

“Felly, rwyf yn erfyn ar bawb i gymryd pwyll arbennig i’n helpu ni i atal damweiniau rhag digwydd yn y lle cyntaf.

“Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae yn ystod argyfwng y coronafeirws.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen