Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Sbarc

Postiwyd

Hoffai Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru gyflwyno ei ffrind newydd, sef Sbarc!

Bydd Sbarc yn helpu i rannu negeseuon â phlant ifanc am y peryglon o chwarae â thân a sut y mae cadw'n ddiogel yn eich cartref ac yn eich cymuned.

Yn ystod haf 2019, daeth y tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru ynghyd i gynllunio cymeriad a fyddai’n helpu i rannu'r negeseuon o ran Diogelwch Cymunedol y Gwasanaethau Tân ac Achub. Y nod oedd datblygu cymeriad a fyddai'n dal dychymyg plant ac aelodau o'r cyhoedd, ac yn eu haddysgu am negeseuon allweddol yn ymwneud ag Atal, Canfod a Dianc, a Lleihau Tanau Bwriadol.

Enwyd y cymeriad trwy ymgynghori â'r cyhoedd mewn amryw o ddigwyddiadau cyhoeddus yn ystod 2019, lle gofynnwyd i dros 250 o blant ddewis o blith yr enwau canlynol, sef Fflach, Fflam neu Sbarc. Roedd “Sbarc” yn ffefryn amlwg gyda dros 142 o bleidleisiau.

Dywedodd Paul Scott, Uwch Reolwr Dioglewch Tân: “Bydd Sbarc yn ymddangos ledled ein deunydd addysg a marchnata a bydd i'w weld mewn amryw o ddigwyddiadau ac ymgyrchoedd gan ddarparu cyngor ar ddiogelwch. Rydym yn gobeithio y bydd Sbarc yn helpu plant a'u rhieni trwy ein cynorthwyo i hyrwyddo'r Cod Tân Gwyllt, Diogelwch yn y Cartref, Diogelwch ar y Ffyrdd, Diogelwch Dŵr, a llawer mwy.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen