Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ymgyrch Dawns Glaw

Postiwyd

Mae'r Gwasanaethau Tân ledled Cymru wedi wynebu cynnydd yn nifer y tanau glaswellt bwriadol ym mis Ebrill, a hynny oherwydd cyfuniad o ymddygiad gwrthgymdeithasol, deiliaid tai yn llosgi gwastraff sbwriel a nifer o

ffermwyr a pherchnogion tir yn llosgi glaswelltir y tu allan i'r dyddiadau llosgi a ganiateir yn ystod y gaeaf.

Mae Ymgyrch Dawns Glaw yn dasglu amlasiantaeth ar gyfer Cymru gyfan, a gefnogir gan amrywiaeth o bartneriaid sydd â'r nod o leihau dinistr amgylcheddol heb reolaeth a'r bygythiad posibl i fywydau ac eiddo sy'n deillio o danau glaswellt bwriadol.

Dywedodd Mydrian Harries, Pennaeth Atal ac Amddiffyn Corfforaethol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ac Arweinydd y Tasglu ar gyfer Ymgyrch Dawns Glaw, Mae wedi dod yn amlwg iawn ir Tasglu dros yr ychydig wythnosau diwethaf bod lleiafrif bach iawn o blant, pobl ifanc ac oedolion yn benderfynol o roi tir ar dân yn ein Cymunedau gan roi pawb mewn perygl. Mae ein Gwasanaethau Brys wedi gweithio'n galed iawn i ymateb i'r tanau hyn a'u diffodd cyn gynted â phosibl yn ystod y sefyllfa bresennol o gyfyngiadau symud. Mae hyn yn ddefnydd cwbl ddiangen o'n gwasanaethau brys yn ystod yr amser anodd hwn.

Er efallai fod y cyhoedd yn cymryd bod y tanau bwriadol hyn i gyd yn cael eu hachosi gan blant a phobl ifanc, bydd rhai wedi cael eu hachosi gan oedolion. Mae nifer o danau hefyd wedi digwydd ar dir fferm, gan ddinistrio cynefinoedd ar gyfer adar sy'n nythu ar y ddaear a bywyd gwyllt arall. Ychwanegodd Mr Harries, Maen annerbyniol i leiafrif bach o dirfeddianwyr a rheolwyr tir barhau i gynnau tanau glaswellt yn fwriadol y tu allan ir dyddiadau cyfreithiol ac yn groes i'r holl gyngor a ddarperir iddynt. Mae gwaith y Tasglu yn cynnwys cofnodi'r holl leoliadau lle mae'r tanau glaswellt bwriadol hyn yn digwydd, a rhoi gwybod i Adran Drawsgydymffurfio Llywodraeth Cymru a'r Heddlu amdanynt.

Dywedodd Robin Whittle, Adran Drawsgydymffurfio Llywodraeth Cymru, Mae'r dyddiad cau ar gyfer llosgi, sef 31 Mawrth 2020, yno am reswm, a hynny yw amddiffyn a diogelu ein hamgylchedd naturiol. Mae llosgi y tu allan i'r dyddiad hwn heb drwydded yn mynd yn groes i Drawsgydymffurfiaeth, a gallai arwain at daliadau, gan gynnwys y Cynllun Taliadau Sylfaenol neu gynlluniau Datblygu Gwledig (e.e. Glastir) yn cael eu lleihau, eu had-dalu neu eu dal yn ôl. Byddaf yn gweithion agos gydar Tasglu a byddwn yn annog y gymuned ffermio i barchur gofyniad hwn a gwneud ei rhan i gadw ein Cymunedau'n ddiogel.

Wrth sôn am ddarganfod achosion tanau bwriadol, dywedodd Mr Harries Fel Tasglu, hoffem ddiolch i'r cyhoedd am gyflenwi manylion i'r Heddlu, y Gwasanaeth Tân a Crimestoppers, sy'n ein helpu i ddod o hyd i'r rheiny sy'n cynnau'r tanau glaswellt bwriadol hyn. Rydym yn cydnabod bod yr wybodaeth hon yn debygol o fod yn hysbys o fewn cymunedau, a byddwn yn gofyn i bawb drosglwyddo pa bynnag wybodaeth sydd ganddynt i ni, ni waeth pa mor fach. Os gwelwch unrhyw beth amheus, ffoniwch yr Heddlu neu Crimestoppers, gallai wneud byd o wahaniaeth.

Dywedodd Ella Rabaiotti, Rheolwr Cenedlaethol Crimestoppers yng Nghymru: Helpwch i gadw ein cymunedau'n ddiogel. Os oes gennych unrhyw wybodaeth am bwy sy'n gyfrifol am danau bwriadol, gallwch roi gwybodaeth i'r elusen annibynnol, Crimestoppers, yn gwbl ddienw ar 0800 555 111 neu trwy ein ffurflen ar-lein ddienw yn Crimestoppers-uk.org. Dim ond yn yr hyn yr ydych yn ei wybod y mae gennym ddiddordeb nid pwy ydych chi. Rydym hefyd yn cynnig gwobrau ariannol o hyd at £1000 os yw'r wybodaeth a roddwch i ni yn arwain at arestio a chyhuddo'r unigolyn neu'r bobl sy'n gyfrifol. Siaradwch â ni ac arhoswch yn ddiogel.

Mae cynnau tanau glaswellt anghyfreithlon yn drosedd ddifrifol, a gallai arwain at Gofnod Troseddol. Os byddwch yn gweld unrhyw un yn cynnau tân, ffoniwch yr Heddlu ar 101, neu cysylltwch â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen