Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân bwriadol yn Nhrefor, Llangollen

Postiwyd

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gofyn i bobl feddwl am ganlyniadau eu gweithredoedd wedi i griwiau gael eu galw at dân bwriadol ar fynydd ger Llangollen yn ystod oriau mân y bore yma (Dydd Sul 26ain Ebrill).

Galwyd diffoddwyr tân o Langollen, Johnstown a’r Waun at dân yn yr awyr agored yn Nhrefor am 4:20am heddiw.

Meddai Tim Owen, Rheolwr Gorsaf ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Darganfuwyd tri tharddiad i’r tân sydd yn awgrymu ei fod wedi ei gynnau’n fwriadol.


“Mae’r criwiau yn dal i ddampio’r safle fodd bynnag mae’r tân yn llosgi’n ddwfn ac felly byddwn yn bresennol am beth amser.


“Mae’r ymddygiad yma’n gwbl annerbyniol. Mae’r unigolyn(ion) wnaeth gynnau’r tanau wedi rhoi pwysau ychwanegol ar adnoddau’r gwasanaethau brys sydd eisoes yn brin ar y funud.


“Mae tanau bwriadol yn rhoi pwysau sylweddol ar ein hadnoddau, ac mae criwiau’n treulio amser maith yn dod â hwy dan realaeth - sydd yn ein hatal ni rhag mynd at argyfyngau gwirioneddol. Dydi ymddygiad fel hyn ddim yn ein helpu ni i gadw’r gymuned yn ddiogel.

“Cofiwch - mae cynnau tanau yn drosedd ac rydym yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i fynd i’r afael ag achosion or fath. Rydym yn annog unrhyw un gyda gwybodaeth am droseddau o’r fath i gysylltu gyda Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 neu Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu’r cyfleuster sgwrsio byw. Mewn argyfwng ffoniwch 999 bob amser.”

Mae criwiau tân yn dal i ddelio gyda thân eithin yn Rhiwabon sydd hefyd wedi ei gynnau’n fwriadol yn ôl pob tebyg.

Am 17:01 neithiwr (Nos Sadwrn 25ain Ebrill) galwyd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru at dân eithin a oedd yn llosgi ar hyd ardal a oedd yn 5000 milltir sgwâr..

Fe aeth criwiau o Johnstown a’r peiriant mynediad cul o Langollen at y digwyddiad ac mae dau griw o Wrecsam yn dal i fod yn bresennol heddiw.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen