Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Apêl i gymryd pwyll arbennig yn dilyn pedwar tân coginio mewn 12 awr

Postiwyd

Cafodd diffoddwyr tân eu galw at bedwar tân coginio o fewn 12 awr i’w gilydd neithiwr - ac mae uwch swyddog tân yn gofyn i’r cyhoedd wrando ar ei apêl i gymryd pwyll arbennig yn y cartref i helpu i leihau’r galw ar ddiffoddwyr tân yn y rhanbarth.

Galwyd diffoddwyr tân at ddigwyddiad yn Uxbridge Court, Bangor lle’r oedd stemiwr trydan wedi toddi ar hob am 18.30 o’r gloch, ac at ddigwyddiadau yn ymwneud â gadael bwyd yn coginio mewn eiddo yn Marine Road, Prestatyn am 21.52 o’r gloch a Lamberton Drive, Wrecsam am 22.46 o’r gloch. Cawsant hefyd eu galw at dân sosban sglodion yn Tryweryn Place, Wrecsam am 12.52 o’r gloch.

Meddai Paul Scott, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: “Ein hapêl fawr i’r cyhoedd yn ystod y cyfnod anodd hwn ydi iddynt gymryd pwyll arbennig, a chadw cyngor diogelwch tân sylfaenol mewn cof i helpu i osgoi damweiniau fel hyn i leihau’r galw ar ein diffoddwyr tân.

“Mae modd osgoi digwyddiadau fel hyn yn gyfan gwbl - y gymwynas fwyaf y gallwch chi ei gwneud â ni ar hyn o bryd ydi osgoi argyfwng.

“Yn ffodus iawn chafodd neb ei anafu yn ystod y tanau hyn ond fe allai pethau fod wedi bod yn wahanol iawn - roedd rhaid i ddiffoddwyr tân arwain y preswylwyr i fan diogel yn achos y tân yn Wrecsam.

“Ledled Cymru, mae dros 40% o’r holl danau sydd yn digwydd yn y cartref yn cychwyn yn y gegin - sydd yn dangos pa mor hawdd ydi hi i wneud cawlach o bethau wrth baratoi bwyd. Gyda mwy a mwy o bobl yn treulio mwy o amser yn coginio gartref, fe all y canran hwn gynyddu hyd yn oed yn fwy.

 “Fe all dim ond un peth bach arwain at drychineb - mae’n swnio’n amlwg ond un o brif achosion tanau yn y gegin ydi peidio â chanolbwyntio, boed hynny oherwydd bod y plant yn mynd â’n sylw neu oherwydd ein bod ni’n edrych ar ffôn symudol neu dabled.

“Dro ar ôl tro rydym ni’n cael ein galw at danau yn y cartref sydd wedi cychwyn yn y gegin - mae mor hawdd anghofio am fwyd sydd yn coginio, yn enwedig os ydych chi wedi blino, os nad ydych chi’n canolbwyntio neu os ydych chi wedi bod yn yfed. Fodd bynnag, fe all y canlyniadau fod yn drychinebus.

Dyma air i gall gan Paul ar gadw’n ddiogel yn y gegin:

  • Os oes rhaid i chi adael y gegin, tynnwch y bwyd oddi ar y gwres
  • Peidiwch â defnyddio matsis a thanwyr i danio poptai nwy. Mae dyfeisiadau tanio yn llawer mwy diogel
  • Gwnewch yn siŵr nad ydy coesau’ch sosbenni yn mynd dros ymyl y popty
  • Cadwch eich popty, pentan a gridyll yn lân – gall saim a braster sydd wedi casglu fynd ar dân yn hawdd iawn
  • Peidiwch â sychu na adael dim byd ar ben eich popty
  • Cymrwch ofal os ydych chi’n gwisgo dillad llac - gallant fynd ar dân yn hawdd iawn
  • Ar ôl i chi orffen coginio gwnewch yn siŵr bod popeth wedi ei ddiffodd
  • Diffoddwch gyfarpar trydanol pan nad ydych yn eu defnyddio
  • Peidiwch byth â defnyddio sosbenni sglodion – defnyddiwch ffrïwr saim dwfn sydd gan thermostat i reoli’r gwres
  • Gosodwch larymau mwg yn eich cartref – maent ar gael yn rhad ac am ddim a gallant achub eich bywyd.
  • Peidiwch byth â mynd yn ôl i mewn i’r eiddo, ar ôl mynd allan, arhoswch allan! Os gwnewch chi anadlu mwg mae’n annhebygol y dewch chi allan yr ail dro.
  • Dydi yfed a choginio ddim yn gyfuniad doeth. Pob blwyddyn mae cymaint o danau yn digwydd oherwydd bod pobl wedi penderfynu coginio pryd cyn mynd i’r gwely ar ôl bod yn yfed alcohol
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen