Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Apêl tanau bwriadol - helpwch i leihau’r galw ar ddiffoddwyr tân

Postiwyd

Mae uwch swyddog tân yn gofyn i bobl feddwl am ganlyniadau eu gweithredoedd ar ôl i griwiau gael eu galw at saith o danau bwriadol dros nos - pedwar yn Llangefni.

Cafodd diffoddwyr tân o Gaergybi eu galw at danau a oedd wedi eu cynnau’n fwriadol yn yr awyr agored, tri ohonynt yn Nant y Pandy am 17.56 o’r gloch, 18.38 o’r gloch a 19.17 o’r gloch. Galwyd diffoddwyr tân o Wrecsam i Blas Madoc, Wrecsam am 18.41 o’r gloch i ddelio gyda thân sbwriel a oedd wedi ei gynnau’n fwriadol. Galwyd diffoddwyr tân o’r Wyddgrug at dân sbwriel ar yr A494 yn yr Wyddgrug am 23.40 o’r gloch a chafodd diffoddwyr tân o Gaernarfon eu galw at dân glaswellt yn Nhalysarn am 15:50 o’r gloch.

Meddai Tîm Owen, Rheolwr Lleihau Llosgi Bwriadol: “Mae’r ymddygiad hwn yn gwbl annerbyniol. Cafodd tri o’r tanau hyn eu cynnau yn Nant y Pandy, Llangefni - ardal sydd ar gau i’r cyhoedd. Ni ddylai’r rhai a gychwynnodd y tanau hyn fod wedi bod yn yr ardal o gwbl, heb sôn am gynnau tanau bwriadol a rhoi pwysau ychwanegol ar adnoddau’r gwasanaethau brys sydd yn brin ar hyn o bryd. Rydym ni am i drigolion ein helpu ni i leihau’r galw ar ein diffoddwyr tân.

“Mae tanau bwriadol yn rhoi pwysau sylweddol ar ein hadnoddau, ac mae’n cymryd amser maith i griwiau ddod â’r tanau hyn dan reolaeth - sydd yn eu hatal rhag mynd at argyfyngau gwirioneddol.

“Dydi ymddygiad o’r math hwn ddim yn ein helpu ni i gadw’r gymuned yn ddiogel.

“Hoffwn fanteisio ar y cyfle i apelio ar rieni i ddweud wrth eu plant aros gartref a phwysleisio’r neges bod tanau bwriadol yn peryglu bywydau.

“Cofiwch - mae cynnau tanau bwriadol yn drosedd ac rydym yn gweithio ochr yn ochr â Heddlu Gogledd Cymru i fynd i’r afael ag achosion bwriadol.

“Os oes gennych chi wybodaeth am droseddau o’r fath cysylltwch â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 neu Heddlu Gogledd Cymru ar 101.

“Dilynwch gyngor y Llywodraeth a’r Awdurdod Lleol ynghylch cadw pellter cymdeithasol - rydym yn aros yma i chi, felly arhoswch chi gartref i ni.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen