Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Amlygu pwysigrwydd gosod larymau mwg ar bob llawr yn y cartref yn dilyn tân ym Mae Penrhyn

Postiwyd

Mae uwch swyddog tân yn amlygu pwysigrwydd gosod larymau mwg ar bob llawr yn y cartref yn dilyn tân ym mae Penrhyn y prynhawn yma.

Galwyd criwiau o Landudno a Bae Colwyn i’r eiddo ym Mhenrhyn Madoc, Bae Penrhyn am 12.03 o’r gloch heddiw (Dydd Iau) i ddelio gydag adroddiadau o dân mewn cwpwrdd crasu dillad.

Credir ei fod yn dân trydanol.

Meddai Kevin Jones, Rheolwr Diogelwch Cymunedol Conwy a Sir Ddinbych, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Dim ond un larwm mwg gweithredol oedd gan y preswylydd a hynny ar y llawr daear. Cychwynnodd y tân i fyny’r grisiau, ac felly ni  chafodd y preswylydd rybudd digon cynnar gan y larwm.

“Gyda diolch, ni chafodd y preswylydd ei anafu, ond mae’r digwyddiad yma’n dangos pa mor bwysig ydi cael larymau mwg gweithredol ar bob llawr yn eich cartref.

“Yn ogystal â larymau mwg gweithredol, sicrhewch bod gennych lwybrau dianc i’ch galluogi chi a’ch teulu i ddianc o’ch cartref yn gyflym os bydd tân.”

“Fe all tanau trydanol digwydd unrhyw byd, yn unrhyw le o - dyma gamau syml y gallwch chi eu cymryd i helpu i atal tân trydanol yn eich cartref. maent yn cynnwys y canlynol:

  • PEIDIWCH â gorlwytho socedi
  • GWIRIWCH wifrau’n rheolaidd rhag ofn eu bod wedi gwisgo neu dreulio
  • TYNNWCH blygiau cyfarpar pan nad ydych yn eu defnyddio
  • CADWCH gyfarpar yn lân ac mewn cyflwr gweithredol da
  • DATOGWCH geblau estyn yn llawn cyn eu defnyddio

“Ewch i’n gwefan am ragor o wybodaeth ar ddiogelwch trydanol - www.gwastan-gogcymru.org.uk.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen