Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ballyclare i gyflenwi cyfarpar diogelu personol newydd i Ddiffoddwyr Tân Cymru

Postiwyd

Mae'r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru wedi cyhoeddi mai Ballyclare yw cyflenwr newydd y cyfarpar diogelu personol i ddiffodd tanau mewn adeiladau.

 

Y model Xenon a gafodd ei ddewis, sy'n cael ei weithgynhyrchu gan Ballyclare, a hynny'n dilyn ymarfer caffael helaeth yng Nghymru. Cynhaliwyd yr ymarfer caffael hwn gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, a hynny wedi blwyddyn o ymgynghori â diffoddwyr tân. Bydd y cyfarpar diogelu personol newydd yn cael ei gyflwyno i ddiffoddwyr tân yn ystod haf 2020.

 

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y tri Phrif Swyddog Tân ar gyfer y Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru: “Mae'n hollbwysig ein bod yn darparu'r safonau diogelu gorau oll i'n diffoddwyr tân, ac rydym yn falch iawn o ddweud bod y cyfarpar diogelu personol newydd hwn yn cwrdd â'r meini prawf hyn.

 

Mae'r cyfarpar Ballyclare Xenon wedi cael ei brofi'n drylwyr gan ein diffoddwyr tân, a hynny ochr yn ochr â chyfarpar diogelu personol gan wneuthurwyr cystadleuol. Sgoriodd y cyfarpar hwn y marciau uchaf ymhlith ein diffoddwyr tân ac o ran gofynion llym ehangach proses gaffael Cymru Gyfan.

 

Yn ganolog i'r prosiect hwn oedd y cydweithredu llwyddiannus rhwng y tri gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru, a chyfranogiad parod ein diffoddwyr tân yn y broses bwysig hon. Rydym yn eu canmol am eu cyfraniad, a wnaed gyda phroffesiynoldeb a balchder mawr.

 

Mae caffael y cyfarpar diogelu personol hwn, sydd o'r radd flaenaf, yn gam arall eto i wireddu gweledigaeth Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru o ddod yn arweinwyr byd ym maes ymateb brys a diogelwch cymunedol.”

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen