Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Achub dynes o eiddo yn Mancot

Postiwyd

Cafodd dynes 80 oed ei hachub o’i chartref ym Mancot neithiwr gan ddiffoddwyr tân wedi i’w system monitro rybuddio Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am y tân.

Cafodd criwiau o Lannau Dyfrdwy a Bwlce eu galw i’r eiddo yn Prince William Gardens am 8.46pm ddydd Gwener 15fed Tachwedd.

Cafodd y ddynes ei chludo i’r ysbyty mewn ambiwlans yn dioddef o losgiadau.

Mae ymchwiliad i achos y tân nawr ar y gweill.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen