Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Staff Ystafell Reoli Tân yn canmol ap darganfod lleoliad newydd

Postiwyd

Mae staff yn ystafell reoli Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog trigolion ac ymwelwyr i’r ardal i lawr lwytho’r ap What3Words sy'n helpu i ddod o hyd i union leoliad unigolion

 

Dechreuodd Diffoddwyr Tân yn ein Hystafell Reoli yn y Ganolfan Gyfathrebiadau ar y Cyd yn Llanelwy ddefnyddio’r ap ym mis Awst, ac mae’r dechnoleg newydd eisoes wedi helpu i ddod o hyd i bobl mewn lleoliadau gwledig.

 

Mae Peter Davis, Pennaeth yr Ystafell Reoli, yn egluro mwy: “ Mae Lluoedd yr Heddlu wedi bod yn hyrwyddo'r ap hwn yn ddiweddar ac yn annog y cyhoedd i'w lawrlwytho ar eu ffonau clyfar.

 

“Diben yr ap yw nodi lleoliadau unigryw i lawr i sgwâr 3m x 3m.

 

“Bydd defnyddiwr y ffôn clyfar yn nodi o'r ap pa dri gair yw'r nodwr unigryw ar gyfer y lleoliad maen nhw ynddo ac yna mae'n bosibl i eraill nodi eu hunion leoliad unwaith mae'r geiriau hyn yn cael eu cyfleu.

 

“Mae hwn yn ddefnyddiol iawn ar gyfer mannau lle nad oes cyfeiriad cydnabyddedig neu ar gyfer oedolion sydd ar goll neu'n ansicr o'u lleoliad.

 

“Yn syml, mae'r galwr yn dweud wrth y gweithredwr rheoli beth yw'r lleoliad tri gair ac mae hyn yn cael ei lwytho i wefan sy'n dangos gyda manwl gywirdeb uchel iawn beth yw eu lleoliad.

 

“Mae gweithredwyr rheoli nawr yn gallu arwain y rhai hynny sydd ar goll neu'n ansicr lle maen nhw i lawrlwytho'r ap a'u cynorthwyo i'w ddefnyddio er mwyn helpu eu lleoli. Er na fydd hyn yn disodli ein defnydd cyfredol o fynegai daearyddol a mapio gallai helpu i gynorthwyo'r rhai hynny mewn achosion lle maen nhw wedi rhoi cynnig ar bob dull arall o ganfod lleoliad.

 

“Mae'r ap eisoes wedi bod yn llwyddiannus wrth nodi lleoliad aelodau o'r cyhoedd sydd wedi mynd i drafferthion. Defnyddio Heddlu De Swydd Efrog yr ap i ddod o hyd i ddyn 65 mlwydd oed oedd wedi mynd yn sownd ar ôl syrthio i lawr arglawdd rheilffordd yn Sheffield. Fe wnaeth Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Swydd Efrog ddod o hyd i ddynes oedd wedi cael damwain car ond nid oedd hi'n sicr lle'r oedd hi ac fe wnaeth Heddlu Humberside lwyddo i ddatrys sefyllfa gwystlon yn gyflym gan i'r dioddef allu dweud wrth swyddogion ble'n union yr oedd hi'n cael ei dal.

 

“Yma yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru cafodd yr ap ei ddefnyddio dim ond ar ôl ychydig wythnosau o gael ei lansio i ddod o hyd i gyfeirnod map yn ystod tân yng nghoedwig Gwydr, gan sicrhau ein bod ni’n anfon y peiriant cywir i ddelio gyda’r digwyddiad cyn gyflymed â phosibl.

 

“Nid mewn achosion brys yn unig mae'r ap yn cael ei ddefnyddio ond mae'n gymorth defnyddiol i unrhyw un sydd angen gwell dealltwriaeth o'u lleoliad.

 

“Mae’n braf gweld technoleg newydd yn cael ei datblygu sydd ar gael i’r rhan fwyaf ohonom ac sydd yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i bobl mewn cyfyngder.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen