Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Datblygu Strategaeth Amgylcheddol hirdymor - ymgynghoriad cyhoeddus

Postiwyd


Mae Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru am wneud yn siŵr bod pobl yn cael cyfle i ddweud eu dweud ar ddatblygu Strategaeth Amgylcheddol hirdymor.

Mae’r Cynghorydd Peter Lewis, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn egluro:“ Fel Awdurdod rydym ni’n falch o’r hyn mae’r gwasanaeth tân ac achub eisoes wedi ei gyflawni o ran ein polisïau amgylcheddol, ond rydym ni’n cydnabod bod yn rhaid i ni barhau i wneud mwy.

“Os oes gennych chi ddiddordeb yn nyfodol y gwasanaeth tân ac achub, yna mae’r ymgynghoriad hwn ar eich cyfer chi - does dim rhaid i chi fod yn arbenigwr ar faterion amgylcheddol i ymateb.”

Mae’r Awdurdod eisiau barn y cyhoedd ar yr hyn y dylai ei gynnwys yn y strategaeth

Beth ddylai fod ym mlaen meddwl yr Awdurdod yn nhermau cynllunio ar gyfer yr 20 neu 30 mlynedd nesaf? Pa syniadau sydd gennych ynghylch y math o wasanaethau y gallai eu darparu yn ystod y degawdau nesaf?

O edrych yn ôl dros y 30 mlynedd diwethaf, rydym ni wedi gweld newidiadau sylweddol i’r modd y mae pobl yn byw eu bywydau a hefyd i’r hyn y mae pobl leol yn disgwyl ei gyfrannu tuag at, a’i dderbyn gan, wasanaeth cyhoeddus -beth sydd yn debygol o ddigwydd dros y 30 mlynedd nesaf yn eich barn chi?

Newid yn yr hinsawdd, cyfrifoldebau amgylcheddol, cyfrifoldebau cymdeithasol.... beth hoffech chi ei weld yng nghynlluniau’r Gwasanaeth ar gyfer y dyfodol?

Dyma rai o’r cwestiynau sy’n cael eu codi yn yr ymgynghoriad.

Fe all pobl gael gwybod mwy am sut i gymryd rhan yma, neu trwy ddilyn Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar Twitter neu Facebook.

I gael dweud eich dweud – cwblhewch yr holiadur sydd ar gael yma.

Rhaid ymateb erbyn 31ain Rhagfyr 2019.

Bydd yr Awdurdod yn ystyried ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol yng ngoleuni’r ymatebion a ddaw i law a bydd yn cyhoeddi ei Gynllun Gwella terfynol ar gyfer 2020-21 ar wefan yr Awdurdod erbyn 31ain Mawrth 2020.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen