Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybuddio am declynnau gwefru ffonau symudol yn dilyn tân yn y Rhyl

Postiwyd

Mae Swyddogion Tân yn rhybuddio trigolion am beryglon tanau trydanol yn dilyn tân yn gysylltiedig â gwefrwr ffôn yn y Rhyl neithiwr.

Cafodd ddiffoddwyr tân o’r Rhyl eu galw at dân yn yr ystafell fyw mewn eiddo ar Ffordd Cligant, Y Rhyl am 11.52pm nos Fercher, 15 Awst.

Cafodd y tân ei achosi gan wefrwr ffôn wedi gorboethi. Arweiniodd hyn at 20% o ddifrod tân i’r ystafell fyw, yn ogystal â difrod mwg i’r gegin a’r ystafell fyw.

Dywedodd Kevin Jones, Rheolwr Diogelwch Cymunedol Conwy a Sir Ddinbych: “Mae’r digwyddiad hwn yn tynnu sylw at beryglon tanau trydanol – maent yn gallu digwydd unrhyw bryd, yn unrhyw le.

“Mae gwefrwyr ffonau symudol yn gallu mynd yn boeth iawn – peidiwch byth â gadael eitemau’n gwefru, neu heb neb yn cadw golwg arnynt, am gyfnod maith, a gwnewch yn siŵr fod plwg y gwefrwr wedi diffodd hyd yn oed os nad yw wedi’i gysylltu â’ch ffôn neu eich eitem drydanol.

“Peidiwch byth â chyfnewid gwefrwyr neu ddefnyddio gwefrwyr a brynwyd yn ddiweddarach – dylech chi ddefnyddio’r gwefrwr a ddaeth gyda’r ffôn.

“Dilynwch gyfarwyddiadau a chanllawiau’r gwneuthurwyr bob amser pan fyddwch chi’n defnyddio eitemau trydanol, a diffoddwch nhw a thynnu’r plwg allan cyn i chi fynd i’r gwely.

“Rydym yn eich cynghori i fod mor barod â phosibl rhag ofn y bydd tân. Gwnewch yn siŵr fod gennych larymau mwg gweithredol yn eich cartref a bod gennych lwybrau dianc clir er mwyn i chi a’ch teulu allu mynd allan o’ch cartref mor gyflym â phosibl.

"Dyma rai camau syml i’w cymryd er mwyn ceisio atal tân trydanol yn eich cartref:

  • PEIDIWCH â gorlwytho socedi
  • GWIRIWCH a oes gwifrau wedi gwisgo neu dreulio
  • TYNNWCH blwg yr eitemau allan os nad ydych yn eu defnyddio
  • CADWCH yr eitemau’n lân ac mewn cyflwr da
  • DADWEINDIWCH y ceblau ymestyn cyn eu defnyddio.
  •  “Rhowch gynnig ar ein cyfrifiannell ‘ampiau’ ar ein gwefan a’n tudalen facebook – ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk  - mae’n dweud wrthych os ydych chi’n gorlwytho eich socedi ac mae’n eich helpu i fod yn ddiogel gyda thrydan."
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen