Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybudd ynghylch tanau sbwriel yn dilyn tân yn Nhrefor

Postiwyd

Mae swyddog tân yn amlygu pwysigrwydd ystyried diogelwch yn gyntaf wrth losgi gwastraff yn dilyn tân bychan yn Nhrefor, Wrecsam a ledaenodd i laswellt a theiars gerllaw. 

Anfonwyd criwiau o Langollen a Wrecsam at y digwyddiad am 08.37 o’r gloch y bore yma (Dydd Llun 3ydd Mehefin) i ddelio gyda choelcerth fechan a oedd wedi lledaenu i ddail a thua 150 o deiars a oedd yn cael eu cadw ar y safle.

Meddai Lee Williams o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

“Gyda’r haf yn nesáu, mae’n bosib y bydd nifer o drigolion yn ystyried llosgi gwastraff gardd.

 “Fodd bynnag, mae’n hawdd colli rheolaeth ar dân ac felly gofynnwn i bawb gadw diogelwch mewn cof.

“Pan fydd y tywydd yn sych mae’n hawdd iawn i danau ledaenu a mynd allan o realaeth gan beryglu cartrefi a bywydau ein diffoddwyr tân a thrigolion. Felly meddyliwch am ddiogelwch cyn llosgi gwastraff gardd yr haf hwn!”

Os ydych chi’n bwriadu llosgi dan reolaeth, yna dilynwch y cyngor isod:

  • Ffoniwch Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar 01931 522 006 i roi gwybod i ni eich bod chi’n bwriadu cynnau tân - bydd hyn yn ein helpu i osgoi anfon criwiau allan yn ddiangen.
  • Gosodwch eich coelcerth ymhell o adeiladau, ffensys, coed a strwythurau gardd.
  • Gwnewch yn siŵr bod gennych chi bibell ddŵr gerllaw rhag ofn i chi golli rheolaeth ar y tân
  • Peidiwch â chynnau tân ar ddiwrnod gwyntog, fe all losgi’n fwy ffyrnig nag yr oeddech chi wedi ei ddisgwyl.
  • Meddyliwch am eich cymdogion – os ydych chi’n bwriadu cynnau coelcerth sylweddol, rhowch wybod iddynt, ac arhoswch wrth y goelcerth i wneud yn siŵr ei bod yn ddiogel.
  • Peidiwch byth â defnyddio hylifau fflamadwy fel petrol a pharaffin i danio’ch coelcerth. 

Cyngor i ffermwyr/tirfeddianwyr:

Mae’r Cod Llosgi Grug a Glaswellt yn nodi mai dim ond rhwng y 1af o Hydref a’r 31ain o Fawrth y caniateir llosgi ar dir uchel a rhwng y 1af o Dachwedd a’r 15fed o Fawrth ym mhobman arall:

Wales.goc.uk/environmentcountryside

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen