Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tanau glaswellt ac eithin dros Ŵyl y Banc

Postiwyd

Mae diffoddwyr tân yn annog pobl i gymryd amser i feddwl am ganlyniadau tanau gwair yn dilyn nifer o ddigwyddiadau dros y penwythnos sydd wedi clymu adnoddau gwerthfawr.

Galwyd pedwar cerbyd a Llwyfan Ysgol yn yr Awyr i dân eithin mawr ger Llechwedd, Blaenau Ffestiniog. Derbyniwyd yr alwad am 8.23pm neithiwr (dydd Llun 22 Ebrill) ac mae diffoddwyr tân yn parhau i fod yn bresennol y bore yma (dydd Mawrth 23 Ebrill). Roedd rhaid gwagio tua ugain o dai dros nos ac mae rhan o’r Stryd Fawr ym Mlaenau Ffestiniog yn parhau i fod ar gau y bore yma i ganiatáu i’r gwasanaethau brys ddelio gyda’r digwyddiad.

Galwyd tri cherbyd a dau gerbyd mynediad cul i dân yn y goedwig ym Metws y Coed am 1.42pm ddydd Llun 22 Ebrill. Mae diffoddwyr tân yn parhau i fod yn bresennol yn y digwyddiad hwn y bore yma.

Ers dydd Gwener, bu tua 20 o ddigwyddiadau llai ar draws Gogledd Cymru oedd yn cynnwys glaswellt, eithin a rhedyn. Mae llawer o'r tanau hyn yn arwain at nifer o alwadau i’r ystafell reoli gan aelodau pryderus o’r cyhoedd.

Dywedodd Kevin Jones, Rheolwr Diogelwch Cymunedol:  “Er bod nifer yr achosion yn eithaf bach, mae gan bob un y potensial i glymu adnoddau a’n hatal rhag mynychu achosion eraill allai fygwth bywyd.

“Yn ystod cyfnodau sychach, gall tanau sy’n cynnwys glaswellt, rhedyn ac grug ddatblygu’n gyflym iawn, yn enwedig pan fo gwyntoedd uchel, gan arwain at danau yn mynd allan o reolaeth ac yn lledaenu i eiddo neu goedwigaeth gerllaw, gyda’r angen i alw’r gwasanaeth tân ac achub allan i’w diffodd.

"Rydym yn annog ymwelwyr i gefn gwlad i gymryd gofal ychwanegol pan fyddant yn mynd allan a lleihau'r risg o dân. Dylech wneud yn siŵr bod unrhyw ddeunyddiau ysmygu yn cael eu taflu a’u diffodd yn iawn. Os byddwch chi'n gwersylla, gwnewch yn siŵr bod gennych hawl i olau tân gwersyll a barbeciws a’ch bod yn eu diffodd yn llwyr ar ôl eu defnyddio.”

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen