Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân mewn ysgubor yn Nhrefnant

Postiwyd

Mae criwiau wrthi’n tampio gweddillion tân mewn ysgubor yn Nhrefnant, ger Dinbych.

Galwyd diffoddwyr tân o’r Rhyl, Prestatyn, Dinbych ac Abergele at yr eiddo am 13.29 o’r gloch y prynhawn yma (Dydd Sadwrn yr 2il o Chwefror).

Credir bod y tân wedi effeithio ar tua 20 o fyrnau gwellt a gwair tunnell yr un.

Gosododd y criwiau bwmp cludadwy i daclo’r tân gan weithio gyda’r ffermwr i droi’r gwellt a gafodd ei effeithio gan y tân yn yr ysgubor.

Mae ymchwiliad i achos y tân ar y gweill.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen