Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân ar Ystâd Ddiwydiannol Llai ger Wrecsam

Postiwyd

 

Mae'r gwasanaethau brys wrthi'n delio â thân mewn uned diwydiannol yn Llai, ger Wrecsam.

 

Fe wnaeth Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru anfon injanau tân i'r digwyddiad ar Ystâd Ddiwydiannol Llai ar Aerial Road am 22.51 o'r gloch nos Lun 20fed Awst.

Mae tair injan dân o Wrecsam, dwy o Lannau Dyfrdwy ac un o Johnstown, ynghyd â pheiriant ALP o Wrecsam yno.

Pan gyrhaeddodd y diffoddwyr tân, gwelsant adeilad un llawr ar dân, ac maen nhw'n defnyddio pedwar set o offer anadlu a dwy brif bibell i ddelio â'r tân.

 

Mae'r ffordd agosaf at Ystâd Ddiwydiannol Llai wedi'i chau - gofynnir i'r cyhoedd osgoi'r ardal.

 

Cynghorir trigolion yr ardal i gau pob ffenestr a drws tra mae'r diffoddwyr tân yn delio â'r digwyddiad.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen