Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diweddariad – Tanau Gwyllt yng Ngogledd Cymru

Postiwyd

 

Mae criwiau yn dal i ymladd tanau gwyllt ar draws y rhanbarth ac mae swyddogion tân yn ailadrodd eu hapeliadau i gymryd gofal arbennig.

 

Mae diffoddwyr tân yn bresennol yn y tanau gwair/eithin canlynol:  

 

Mynydd Cilgwyn, Carmel ger Caernarfon  - pum criw a cherbyd oddi ar y ffordd yn bresennol.

 

Braichmelyn ger Bethesda – tri peiriant tân ac un cerbyd oddi ar y ffordd yn bresennol mewn tân coedwig.

 

Pentre Halkyn, Treffynnon – dau griw ac un cerbyd oddi ar y ffordd yn bresennol mewn tân gwair ar ôl derbyn  galwad am 15.05 o’r gloch heddiw.

 

Mynydd Bangor – dau griw yn bresennol ar ôl galwad cyntaf am 14.06 o’r gloch heddiw

 

Pwllheli – dau griw a dau gerbyd oddi ar y ffordd yn bresennol ar ôl galwad cyntaf am 08.27 o’r gloch fore heddiw

 

Talsarnau  - un criw yn bresennol ar ôl galwad cyntaf am 12.50 o’r gloch heddiw

 

Meddai Kevin Roberts, Uwch Reolwr Diogelwch Tân, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

“Ein diolch i’n diffoddwyr tân syn gweithio’n galed mewn amodau anodd a heriol i ddelio gdya thanau gwyllt yn y rhanbarth – rydym hefyd yn ddiolchgar i gyflogwyr ein staff rhan amser sydd wedi eu rhyddhau o’r gwaith i’n cynorthwyo gyda digwyddiadau.

 

“Rydym yn ddiolchgar am y cymorth rydym wedi ei gael gan ein cymunedau a gofynnwn i bobl gadw i ffwrdd o’r ardaloedd lle mae digwyddiadau – er eu diogelwch nhw ac i ganiatáu i’r diffoddwyr tân ddelio’n effeithiol gyda’r tanau. Os ydych yn byw mewn ardal sydd wedi ei heffeithio, sicrhewch bod drysau a ffenestri yn cael eu cadw ar gau.

 

“Mae’n eithriadol o boeth ac mae’n debygol y bydd y tywydd hwn yn parhau – felly mae’n bwysig bod pawb yn cymryd gofal ychwanegol pan fyddan nhw allan yng nghefn gwlad i leihau perygl tân.

 

“Dan yr amodau sych hyn, gall tanau gwair, eithin a rhedyn ddatblygu’n gyflym iawn, yn enwedig pan fo gwynt, a gall y tân fynd allan o reolaeth yn gyflym a lledaenu i eiddo cyfagos neu goedwigoedd, ac wedyn mae angen i ni fynychu i’w ddiffodd.

 

“Hoffwn felly ailadrodd ein cyngor pwysig ar osgoi tanau fel hyn – mae’n bwysicach nag erioed dan amodau o’r fath i wneud yn siŵr bod unrhyw ddeunydd ysmygu yn cael ei ddiffodd yn iawn. Os ydych yn gwersylla, gwnewch yn siŵr bod unrhyw dân neu farbeciw wedi ei ddiffodd yn llwyr. Yn well fyth, dylech osgoi tanau agored yn llwyr yn ystod y cyfnod bwn.

 

“Mae’r tanau hyn yn rhoi pwysau anferth ar ein hadnoddau, gyda diffoddwyr tân yn treulio gryn amser yn gweithio i’w cael dan reolaeth. Rydym yn rheoli gwasanaeth tân ar gyfer digwyddiadau eraill hefyd, ynghyd â’r tanau gwair ac eithin hyn. Yn aml iawn, mae tanau gwair ac eithin yn digwydd mewn ardaloedd lle mae’n anodd iawn cael mynediad a lle nad oes llawer o ddŵr.

 

“Cofiwch – mae gosod tanau yn drosedd ac rydym yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i ddelio gyda digwyddiadau bwriadol – os canfyddir pwy sy'n gyfrifol byddant yn cael eu herlyn.

 

“Cynghorir unrhyw un gyda gwybodaeth am droseddau o’r fath i ffonio Crimestoppers ar 0800 555 111, yn ddienw.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen