Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân gwyllt yn Llangollen yn dal i fynd ag adnoddau prin

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn dal i erfyn ar gymunedau i fod yn hynod ofalus ac ystyried canlyniadau tanau glaswellt yn ystod y tywydd poeth eithafol presennol.

Mae criwiau’n dal i ddelio gyda’r tân eithin yn Llantysilio yn Llangollen ar  ôl cael eu galw yno dros wythnos yn ôl – sydd yn dangos faint o draul ar ein hadnoddau ydi’r tanau hyn.

Mae diffoddwyr tân wedi bod ar y safle yn ddi-baid i sicrhau ei fod dan reolaeth ac yn aros dan reolaeth - ac unwaith eto’r prynhawn yma mae’r tân wedi ailgydio oherwydd y gwynt ac mae saith injan dan wrthi’n delio gyda thân helaeth iawn.

Gan mai diffoddwyr tân rhan amser neu wrth gefn sydd yn cael eu defnyddio i daclo’r tân mae’n cael effaith ar gyflogwyr lleol sydd yn rhyddhau staff i fynd at y tân.

Meddai Kevin Roberts, Uwch Reolwr Diogelwch Tân, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

“Mae tanau fel yr un yn Llantysilio yn anodd mynd atynt ac mae cyflenwadau dwr yn brin, ac mae hyn yn rhoi pwysau mewn ar ein hadnoddau. Mae ein diffoddwyr tan wedi treulio amser maith yn ceisio dod â’r tân yma dan reolaeth.

 “Mae’n rhy gynnar i benderfynu ar union achos y tanau hyn ond rydym yn annog pawb i fod yn arbennig o ofalus pan fyddant allan yng nghefn gwlad i helpu i leihau perygl tanau – yn enwedig yn ystod y tywydd poeth a sych eithriadol hwn.

 “Dan yr amodau sych hyn, mae tanau gwair, rhedyn ac eithin yn medru datblygu’n eithriadol o gyflym, yn enwedig pan fo gwynt yn codi, ac mae’r tanau’n medru mynd allan o reolaeth yn gyflym a lledaenu i eiddo cyffiniol neu goedwigoedd, ac mae angen wedyn i ni fynd allan i’w diffodd.

“Felly, os ydych allan o gwmpas mae’n bwysicach nag erioed dan yr amodau hyn i wneud yn siŵr bod unrhyw ddeunydd ysmygu yn cael ei ddiffodd yn iawn. Os ydych yn gwersylla, unwaith eto gwnewch yn siŵr bod tanau neu ddeunydd barbeciw wedi eu diffodd yn iawn. Gorau oll, dylech osgoi tanau agored yn llwyr yn ystod y cyfnod sych hwn.

“Hoffwn ddiolch i’r cyhoedd am ymddwyn mewn modd  diogel a chyfrifol drwy’n hysbysu am danau o’r fath - ond rydym hefyd yn gofyn i bobl gadw i ffwrdd o’r ardaloedd a effeithiwyd er mwyn caniatáu i’r diffoddwyr tân ddelio gyda’r tanau, ac er mwyn eu diogelwch eu hunain hefyd.

“ A hoffem hefyd ddiolch i’n diffoddwyr tan sydd yn gweithio dan amodau heriol iawn, ac i’w cyflogwyr am eu rhyddhau o’r gwaith, ac i’n partneriaid megis Cyngor Sir Ddinbych am eu cymorth.

“Cofiwch – mae cynnau tanau yn drosedd ac rydym yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i drechu digwyddiadau bwriadol – bydd y sawl a geir yn gyfrifol yn cael eu herlyn.

“Dylai unrhyw un gyda gwybodaeth am droseddau o’r fath alw Crimestoppers ar 0800 555 111 yn ddienw.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen