Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân mewn adfail ym Mae Colwyn

Postiwyd

Mae diffoddwyr tân wrthi'n delio gyda thân mewn adfail ar Ffordd Coed Pellaf, Bae Colwyn. 

Mae criwiau o Fae Colwyn, Conwy, Llandudno, Abergele a'r Rhyl yn bresennol ar ôl cael eu galw yno am 21.07 o'r gloch heno (Nos Sadwrn 1af Gorffennaf).

Credir bod tân ar safle hen gartref nyrsio, ac mae'r diffoddwyr tân yn defnyddio Peiriant Cyrraedd yn Uchel, prif bibellau ac offer anadlu i daclo'r tân. 

Meddai Kevin Jones, Rheolwr Diogelwch Cymunedol, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: 

“Hoffwn apelio ar bobl i gadw ffenestri a drysau ar gau ac osgoi'r ardal os yn bosibl."

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen