Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Penderfyniad yr Awdurdod Tân – Cam nesaf Cynllun Gwella a Llesiant 2019/20

Postiwyd

 

Yng nghyfarfod Awdurdod Tân Gogledd Cymru heddiw, cyflwynodd y Cynghorydd Peter Lewis, sydd newydd gael ei ail-ethol yn Ddirprwy Gadeirydd, argymhellion diweddar y Panel Gweithredol am y cam nesaf o’r gwaith o  ddatblygu Cynllun Gwella a Llesiant yr Awdurdod 2019/20.

Aeth yr Aelodau ymlaen i gytuno i ymgynghori â’r cyhoedd dros haf 2018 ar strategaeth ariannol yn seiliedig ar naill ai:

  1. a) gynyddu cyfanswm y cyfraniad cyfunol gan yr awdurdodau

lleol rhyw £1,893,000 yn 2019/20 ac felly gadw lefelau cyfredol y

gwasanaethau tân ac achub;

 

NEU

 

  1. b) gynyddu cyfanswm y cyfraniad cyfunol gan yr awdurdodau

lleol fymryn llai na £1,893,000 yn 2019/20 ac felly gadw’r prif

wasanaethau tân ac achub yng Ngogledd Cymru ond bod

angen gwneud rhai arbedion.

Gwrthododd yr Aelodau drydydd opsiwn i leihau gwasanaethau tân ac achub yn sylweddol, fel ac y nodwyd ym mharagraff 13 yn yr adroddiad (Atodiad 8).

Fodd bynnag roedd yr aelodau yn credu ei bod hi’n bwysig bod yr ymgynghoriad yn cynnwys gwybodaeth fanwl ynghylch trefniadau llywodraethu’r Awdurdod Tân ac hefyd yn rhesymau dros hepgor gostyngiadau mawr i wasanaethau. 

Bydd gwybodaeth am yr ymgynghoriad cyhoeddus ar gael ar wefan y Gwasanaeth Tân ac Achub maes o law.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen