Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân cegin yn ysgogi rhybudd diogelwch tân

Postiwyd

Cafodd criwiau o Fae Colwyn a Llandudno eu galw at dân cegin mewn fflat yn Ffordd Llaneililan, Hen Golwyn am 9.20pm Nos Sadwrn 23ain Mehefin 2018. Achoswyd y tân gan wres o’r cwcer wedi i’r hob gael ei droi ymlaen yn lle’r popty.

Aethpwyd ag un dyn i’r ysbyty wedi iddo ddioddef llosgiadau i’w ddwylo ac anadlu mwg a chafodd dynes archwiliad rhagofalol yn y fan a’r lle oherwydd ei bod wedi anadlu mwg.

Daethpwyd â’r digwyddiad dan reolaeth erbyn 10.44pm ac fe ddefnyddiodd y pedwar criw offer anadlu a phibellau tro i ddiffodd y tân.

Meddai Kevin Jones, Rheolwr Diogelwch Cymunedol: “Dro ar ôl tro rydym yn cael ein galw at danau sydd wedi cychwyn yn y gegin - mae mor hawdd anghofio am fwyd sydd yn coginio, yn enwedig os ydych chi wedi blino, os oes rhywbeth yn mynd â’ch sylw neu os ydych wedi bod yn yfed. Fodd bynnag, fe all y canlyniadau fod yn drychinebus. Yn yr achos hwn roedd yr hob wedi cael ei droi ymlaen yn lle’r popty - peidiwch â gadael dim byd ar ben y popty hyd yn oed pan mae wedi ei ddiffodd. 

"Mae larymau mwg yn achub bywydau.  Mae’r rhybudd cynnar gan larwm mwg yn rhoi cyfle i chi fynd allan yn ddiogel.  Sicrhewch eich bod yn cynnal a chadw’ch larwm mwg drwy ei brofi unwaith yr wythnos.

Gair i gall ar ddiogelwch yn y gegin:

  • Os oes raid i chi adael yr ystafell tynnwch y bwyd oddi ar y gwres
  • Peidiwch â defnyddio matsis a thanwyr i danio poptai nwy. Mae dyfeisiadau tanio yn fwy diogel
  • Gwnewch yn siŵr bod dolenni sosbenni wedi eu troi oddi wrth ochr y cwcer
  • Cadwch y popty, hob a’r gridyll yn lân - fe all saim a braster fynd ar dân yn hawdd iawn
  • Peidiwch byth â hongian dim byd uwch ben y cwcer
  • Cymrwch bwyll os ydych yn gwisgo dillad llac gan eu bod yn gallu mynd ar dân yn hawdd iawn
  • Ar ôl gorffen coginio gwnewch yn siŵr bod popeth wedi ei ddiffodd
  • Diffoddwch gyfarpar trydan os nad ydych chi’n eu defnyddio
  • Peidiwch byth â defnyddio sosban sglodion - defnyddiwch ffrïwr saim dwfn gyda thermostat i reoli’r gwres
  • Peidiwch â choginio ar ôl bod yn yfed – prynwch tecawê
  • Gosodwch larymau mwg – maent am ddim ac fe allant achub eich bywyd.
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen