Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cadeirydd wedi ei Ail-ethol i Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru 

Postiwyd

 

 

Cafodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies ei ailethol yn Gadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr Awdurdod, a gynhaliwyd yn Siambr Cyngor Conwy, ym Modlondeb yn gynharach heddiw (dydd Llun 18fed Mehefin).

Mae’r Cynghorydd Davies wedi bod yn aelod o’r Awdurdod Tân ac Achub ers 1999.

 

Ar ei etholiad i wasanaethu fel Cadeirydd yr Awdurdod am y 12 mis nesaf, diolchodd y Cynghorydd Davies i’r aelodau am eu cefnogaeth a dywedodd: “Rydw i wrth fy modd fy mod i’n cael parhau yn y rôl am flwyddyn arall. Mae penderfyniadau anodd ar y gorwel ond fel Awdurdod rwyf yn ffyddiog y gallwn gydweithio’n effeithiol i geisio dod o hyd i’r ffordd orau o wynebu’r heriau sydd i ddod ar adeg o newidiadau digynsail, yn ariannol ac o ran llywodraethu.”  

 

Cafodd y Cynghorydd Peter Lewis MBE, ei ailethol yn Is-gadeirydd.   

Fe ymunodd y Cynghorydd Lewis â’r Awdurdod Tân ac Achub yn 2012. Meddai: “Rwy’n ddiolchgar am gefnogaeth yr aelodau. Byddaf i a’r Cadeirydd yn gweithio gyda’n gilydd i barhau gyda’r trafodaethau parhaus yn yr oes o newid sydd ohoni.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen