Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Nodi cyfraniad mudiadau gwirfoddol i gynllunio argyfwng

Postiwyd

Roedd digwyddiad gafodd ei gynnal gan Fforwm Gydnerth y Gogledd yn gyfle i ddathlu cyfraniad a rhannu gwybodaeth am y gwaith mae mudiadau gwirfoddol yn gallu ei gyflawni mewn ymateb i argyfwng.

 

Bwriad y digwyddiad a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o gyrff fel y Groes Goch, Achub Mynydd, y Bad Achub a llawer mwy, oedd amlinellu’r gwasanaethau mae’r sector wirfoddol yn gallu ei gynnig o ran cynllunio ac ymateb i argyfwng.

 

Roedd y digwyddiad rhanbarthol yma hefyd yn gyfle i drafod cyfraniad mae mudiadau gwirfoddol yn gallu ei wneud fel rhan o’r gwaith adfer yn dilyn argyfwng. 

 

Meddai Dirprwy Brif Gwnstabl Gareth Pritchard, sy'n Gadeirydd Fforwm Cydnerth Gogledd Cymru: “Tra bod gan sefydliadau fel y gwasanaethau brys, cynghorau sir a byrddau iechyd drefniadau yn eu lle i gynllunio a delio gydag argyfyngau, mae gan y sector wirfoddol ran bwysig i’w chwarae wrth gefnogi’r cyrff statudol yma.

 

“Mae’r sector wirfoddol yn gallu cynnig amrediad o sgiliau a gwasanaethau wrth ymateb i argyfwng, o gymorth ymarferol fel cymorth cyntaf, mynediad at offer arbenigol, i help gyda chwnsela fel yr angen.

 

“Mae ymgysylltu gyda’r sector wirfoddol wrth baratoi ar gyfer argyfyngau posib o ran cynllunio, hyfforddi a chynnal ymarferiadau o fudd o ran sut yr ydyn ni’n ymateb pan mae argyfwng yn digwydd.

 

“Roedd y digwyddiad rhanbarthol yma yn cynnig cyfle gwych i’r cyrff rheini sydd â chyfrifoldeb statudol i ddeall yn well y gwasanaethau mae’r sector wirfoddol yn gallu ei gynnig ac yn gyfle i ni adeiladu ar y berthynas dda sydd eisoes yn ei le yn lleol. Diolch i bawb oedd ynghlwm gyda’r digwyddiad.”

 

Cafodd y digwyddiad i Amlinellu Gwasanaethau gan y Sector Wirfoddol yng Ngogledd Cymru ei drefnu gan y Fforwm Cydnerth Lleol. Mae’r fforwm yn dwyn ynghyd y cyrff allweddol sydd â chyfrifoldeb statudol i ymateb i neu gydweithredu gyda chyrff eraill pe byddai yna argyfwng.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen