Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Staff y Gwasanaeth Tân ac Achub yn ymweld â Cherrigydrudion

Postiwyd

Bydd staff diogelwch cymunedol o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ynghyd â chydweithwyr o Gartrefi Conwy yn mynd draw i ardal Cerrigydrudion ddydd Mercher yr 2il o Fai i roi cyngor i drigolion ar sut i gadw’n ddiogel yn y cartref.

Bydd yr aelodau staff, a fydd yn gwisgo lifrai ac yn cario cerdyn adnabod, yn ymweld â chartrefi yn ardal cod post LL21 i gwblhau archwiliadau ‘diogel ac iach’.

Fel rhan o’r gwasanaeth hwn, sydd yn rhad ac am ddim, bydd staff yn dod i’ch cartref i gwblhau asesiad diogelwch, ac os oes angen byddant yn gosod larymau mwg newydd yn rhad ac am ddim.

Meddai Kevin Jones, Rheolwr Diogelwch Cymunedol Conwy a Sir Ddinbych: “Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth gyda staff o Gartrefi Conwy i gwblhau archwiliadau diogel ac iach yn yr ardal. Os nad ydych adref ar yr 2il o Fai a’ch bod yn byw yn ardal LL21 gallwch gofrestru am archwiliad diogel ac iach rhad ac am ddim drwy ffonio 01745 352 777.”

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen