Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Postiwyd

Amlygu pwysigrwydd larymau mwg wedi i ddyn ddianc o dân trydanol yn ei gartref yng Nghaergybi

 

Mae pwysigrwydd gosod larymau mwg gweithredol yn y cartref yn cael ei amlygu unwaith eto wedi i ddyn yn ei 80au gael ei rybuddio am dân yn ei gartref.

 

Galwyd criwiau o Gaergybi ac Amlwch i’r eiddo yn Llanfairynghornwy am 07.45o’r gloch y bore yma (Dydd Mawrth 27ain Chwefror).

 

Tywysodd y diffoddwyr tân y preswylydd, dyn yn ei 80au, i le diogel wedi iddo ddarganfod y tân a ffonio 999.

 

Roedd larymau mwg wedi cael eu gosod yn yr eiddo y llynedd gan ddiffoddwyr tân fel rhan o archwiliad diogel ac iach.

 

Cafodd y preswylydd driniaeth yn y fan a’r lle am effeithiau anadlu mwg.

 

Credir mai trydan a achosodd y tân – fe gychwynnodd mewn cwpwrdd yn y cyntedd a oedd yn cynnwys y gyflenwad drydan ddomestig ac fe ledaenodd i ofod yr atig gan achosi difrod tân i do’r eiddo.

 

Meddai Simon Bromley o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “ Mae larymau mwg yn achub bywydau. Mae’n hanfodol bod pobl yn cael rhybudd cynnar o dân – llwyddodd y dyn yma i ffonio 999 a llwyddodd y criwiau i’w gyrraedd a’i dywys i fan diogel cyn diffodd y tân.

 

“ Mae’r tân yma’n dangos pa mor beryglus ydi tanau trydanol – gallant ddigwydd unrhyw adeg, yn unrhyw le.

 

“Mae’n bwysig defnyddio cyfarpar trydanol yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gwirio offer trydanol a lidiau rhag ofn eu bod wedi eu difrodi neu dreulio.  Prynwch hwy o siopau dibynadwy a chadwch gyfarpar sy’n cynhyrchu gwres ymhell o ddefnyddiau hylosg. 

 

“Ein cyngor yw byddwch mor barod â phosibl rhag tân, trwy wneud yn siŵr bod gennych larymau mwg gweithredol yn eich cartref a llwybrau dianc clir a all eich galluogi chi a’ch teulu i fynd allan o’ch cartref mor gyflym â phosib.”

 

“Dyma gamau syml y gallwch chi eu cymryd i helpu i atal tân trydanol yn eich cartref. maent yn cynnwys y canlynol:

 

-PEIDIWCH â gorlwytho socedi

-GWIRIWCH wifrau’n rheolaidd rhag ofn eu bod wedi gwisgo neu dreulio

-TYNNWCH blygiau cyfarpar pan nad ydych yn eu defnyddio

- CADWCH gyfarpar yn lân ac mewn cyflwr gweithredol da

- DATOGWCH geblau estyn yn llawn cyn eu defnyddio

 

Rhowch gynnig ar ein cyfrifiannell ‘ampau’ ar ein gwefan ac ar Facebook – ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk – i weld a ydych chi’n gorlwytho socedi ac i’ch cadw’n ddiogel rhag tân trydanol.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen