Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân yn y Friog yn amlygu pwysigrwydd larymau mwg a diogelwch trydanol

Postiwyd

Mae Swyddogion Tân yn atgoffa trigolion ynglŷn â phwysigrwydd larymau mwg a pheryglon tanau trydanol wedi i gwpl gael rhybudd o dân yn eu cartref yn y Friog yn gynnar y bore yma (Dydd Mercher Chwefror 14eg).

Cafodd criwiau o Ddolgellau, Aberdyfi ac Abermaw eu galw i dŷ pâr yn y Friog, Gwynedd am 06.06o’r gloch.

Fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân brif bibell a dwy bibell dro, dau set o offer anadlu a chamera delweddu thermol i ddiffodd y tân.

Roedd y preswylwyr yn cysgu pan gychwynnodd y tân a chawsant eu deffro gan y larwm mwg.

Cychwynnodd y tân mewn ystafell wely yn yr eiddo ac achosodd ddifrod tân sylweddol i hanner yr eiddo.

Credir bod y tân trydanol wedi ei achosi gan fat gwres trydan.

Meddai Mike Owen o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

“Mae’r digwyddiad yn amlygu pwysigrwydd larymau mwg gweithredol – oni bai bod y larwm wedi eu deffro, fe allai’r canlyniadau fod wedi bod yn rhai difrodol iawn.

"Mae’n bwysig defnyddio cyfarpar yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwyr a gwirio eitemau trydanol a gwifrau rhag olion traul a difrod. Prynwch gyfarpar o siopau dibynadwy a chadwch eitemau trydanol ymhell o ddefnyddiau hylosg.

“Mae’r tân yma’n dangos pa mor beryglus ydi tanau trydanol – fe allant ddigwydd unrhyw bryd, yn unrhyw le. Ein cyngor yw byddwch mor barod â phosibl rhag tân, trwy wneud yn siŵr bod gynnych larymau mwg gweithredol yn eich cartref yn ogystal â llwybrau dianc clir er mwyn i chi a’ch teulu gael mynd allan mor gyflym â phosibl.   

"Mae rhai camau syml y gallwch chi eu cymryd i helpu i atal tân trydanol yn eich cartref. Maent yn cynnwys:

- PEIDIWCH â gorlwytho socedi

- GWIRIWCH wifrau rhag arwyddion traul

- TYNNWCH blygiau cyfarpar pan nad ydych yn eu defnyddio

- CADWCH gyfarpar yn lân ac mewn cyflwr gweithredol da

- DATODWCH geblau Estyn yn llawn cyn eu defnyddio.

“Rhowch gynnig ar ein cyfrifiannell ‘ampau’ ar ein gwefan a’n tudalen Facebook – ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk – cewch wybod os ydych yn gorlwytho socedi a bydd yn eich helpu i gadw’n ddiogel rhag tân trydanol."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen