Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân mewn ysgubor ger Treffynnon

Postiwyd

Mae diffoddwyr tân wrthi’n delio gyda thân mewn ysgubor ger Treffynnon ar ôl cael eu galw at y digwyddiad am 02.30 o’r gloch y bore yma, Dydd Iau 1af Chwefror, ac mae’r criwiau yn dal i fod yn y fan a’r lle.

Roedd da byw, gwair a gwrtaith yn yr ysgubor. Credir bod 5 llo wedi marw yn ystod y digwyddiad.

Roedd sawl injan dân yn bresennol o Lanelwy, Glannau Dyfrdwy, y Fflint a Threffynnon.

Mae dwy injan dân yn dal i fod yn bresennol yn tampio’r tân.

Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru yn cynnal ymchwiliad ar y cyd i achos y tân.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen