Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Prentisiaid yn elwa o bartneriaeth rhwng Cartrefi Conwy a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Postiwyd

 

Meddai Jade: “Fel rhan o fy mhrofiad dysgu ehangach, mae wedi bod yn fuddiol gweld o lygaid y ffynnon sut mae Cartrefi Conwy yn cwblhau asesiadau risgiau tân i leihau’r risgiau yng nghartrefi eu tenantiaid.

“Rydw i’n mwynhau ymweld â’r Cydlynwyr Byw yn Annibynnol a dysgu am yr hyn y maent yn ei wneud i sicrhau bod eu tenantiaid yn ddiogel rhag tân. Mae nifer o’u tenantiaid yn bobl hŷn ac felly mae’r Cydlynwyr yn eu helpu i fyw bywydau mwy diogel ar eu pen eu hunain”.

Yn ystod ei lleoliad gwaith gyda Cartrefi Conwy mae Jade hefyd wedi ymweld â safleoedd gydag aseswyr risgiau o Savills i weld sut mae creu asesiadau risgiau. Meddai: “Roedd yn brofiad gwerth chweil i mi, ac oni bai fy mod ar leoliad gwaith ni fyddwn wedi cael y cyfle i weld sut mae’r aseswyr yn casglu’r wybodaeth ar gyfer eu hadroddiadau.

“Roedd hefyd yn dda gweld sut yr oedd Cartrefi Conwy’n mynd ati i ddelio gyda fy mhryderon am eitemau mewn ardaloedd cymunol yn eu fflatiau wedi i mi adrodd amdanynt.”

Fe ychwanegodd Paul Scott, Pennaeth Diogelwch Tân i Fusnesau:  "Rydw i’n falch iawn o weld bod y bartneriaeth waith ragorol yma yn cyfoethogi profiadau ein prentisiaid.

"Rydym ni’n gobeithio datblygu’r rhaglen a chynnig y profiad hwn i brentisiaid diogelwch tân i fusnesau eraill yn 2019.

"Da iawn bawb."

Yn ei rôl fel prentis Gwasanaeth Cwsmer gyda Cartrefi Conwy, gofynnwyd i Maya Waud anfon llythyr at denantiaid i drefnu Archwiliad Diogel ac Iach yn eu cartref.

Llwyddodd Maya i addasu’r llythyr cyn ei anfon ac o ganlyniad cafwyd ymholiadau dros y ffôn gan gannoedd yn fwy o denantiaid a oedd yn dymuno trefnu archwiliad. Meddai Maya: “Fe wnes i a fy nghydweithwyr ateb y galwadau a threfnu Archwiliadau Diogel ac Iach ar gyfer y Flwyddyn Newydd.

 

“Rydw i’n meddwl ei bod yn wych fy mod i’n cael cyfle i wneud gwahaniaeth yn ystod fy mhrentisiaeth gyda Cartrefi Conwy yn enwedig ynglŷn â rhywbeth mor bwysig â hyn.”

 

Ers i’r bartneriaeth ddechrau mae dros 1,000 o Archwiliadau Diogel ac Iach wedi cael eu cwblhau yn eiddo Cartrefi Conwy ledled sir Gonwy. Roedd traean o’r rhain mewn llety cysgodol sydd yn gartref i denantiaid hŷn a bregus.

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru hefyd wedi hyfforddi naw o gydweithwyr o Cartrefi Conwy i weithio fel Gweithwyr Cefnogi Diogelwch yn y Cartref i gwblhau Archwiliadau Diogel ac Iach.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen