Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cyhoeddi rhybudd diogelwch trydanol  yn dilyn tân mewn cartref preswyl

Postiwyd

Credir bod y tân a ddigwyddodd mewn cartref nyrsio preswyl ym Mhandy Tudur, ger Llanrwst yn ystod oriau mân y bore yma wedi ei achosi gan nam trydanol.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ei alw at y tân am 00.00 heddiw (18fed Ionawr).

Anfonwyd dau griw o Lanrwst, un criw o Abergele, un criw o Landudno, dau griw o Fae Colwyn, un criw o’r Rhyl a’r Uned Rheoli Digwyddiadau a’r Peiriant Cyrraedd yn Uchel o’r Rhyl at y digwyddiad.

Llwyddwyd i gael yr holl breswylwyr allan o’r adeilad yn ddiogel, a chafodd saith eu hachub gan ddiffoddwyr tân.

Cafodd chwech o breswylwyr eu cludo i’r ysbyty am archwiliad rhagofalus.

Fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân bibellau tro ac offer anadlu i ddelio gyda’r tân.

Mae archwiliad ar y cyd rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru yn awgrymu bod y tân wedi ei achosi gan nam trydanol mewn storfa ar y llawr cyntaf.

Meddai Tony Jones, Pennaeth Ymateb o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Rydym yn ffodus iawn na chafodd unrhyw un ei anafu’n ddifrifol yn y tân.

 "Fe weithiodd ein diffoddwyr tân dan amgylchiadau heriol oherwydd y tywydd garw i achub preswylwyr a delio gyda’r tân cymhleth hwn.

 “Fe achosodd y tân ddifrod sylweddol i’r eiddo a pheryglu bywydau’r preswylwyr – mae hyn yn amlygu pwysigrwydd diogelwch tân a gosod larymau mwg gweithredol.

 “Fe all tanau trydanol ddigwydd unrhyw bryd, yn unrhyw le.

 “Peidiwch byth â gadael eitemau’n gwefru neu heb neb i gadw llygaid arnynt am gyfnod hir – a gwnewch yn siŵr eich bod wedi diffodd plwg y gwefrydd hyd yn oed pan nad ydi o wedi ei gysylltu i’r e-sigarét/eitem drydanol.  Peidiwch byth â defnyddio gwefrydd ar wahân i’r un a ddaeth gyda’r cyfarpar.  

“Dilynwch gyfarwyddiadau’r gwneuthurwr bob amser wrth ddefnyddio eitemau trydanol a thynnwch y plwg cyn i chi fynd i’r gwely. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwefru eitemau ar arwynebedd caled megis bwrdd neu gabinet.

“Ein cyngor yw byddwch yn barod rhag tân, drwy wneud yn siŵr bod gennych larymau mwg gweithredol yn eich cartref a llwybrau dianc i’ch galluogi chi a’ch teulu i fynd allan cyn gynted â phosib. 

"Dyma gamau syml y gallwch chi eu cymryd i helpu i atal tân trydanol yn eich cartref. Maent yn cynnwys y canlynol:

  • PEIDIWCH Â gorlwytho socedi gyda phlygiau
  • ARCHWILIWCH wifrau’n rheolaidd rhag ofn eu bod wedi treulio
  • TYNNWCH blygiau cyfarpar pan nad ydych yn eu defnyddio
  • CADWCH gyfarpar yn lân ac mewn cyflwr gweithredol da
  • DATODWCH geblau estyn yn llawn cyn eu defnyddio

 “Rhowch gynnig ar ein cyfrifiannell ‘ampau’ ar ein gwefan a’n tudalen Facebook – ewch i www.gwastan-gogcymru.org.ukk – cewch wybod os ydych yn gorlwytho socedi a bydd yn eich helpu i gadw’n ddiogel rhag tân trydanol."

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen