Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Y Gwasanaeth yn amlygu’r gefnogaeth sydd ar gael i fusnesau

Postiwyd

 

 

 

Yn dilyn Wythnos Diogelwch Busnesau’r DU'r wythnos diwethaf, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn amlygu’r gefnogaeth sydd ar fael i fusnesau lleol gan bwysleisio pwysigrwydd edrych ar fanylion pawb sydd am ymweld â’u safleoedd i gynorthwyo gyda’r dasg o gynhyrchu asesiadau risgiau tân.

 

Meddai Paul Jenkinson, Pennaeth Diogelwch Tân i Fusnesau, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

“Os ydych chi’n berchennog busnes yna mae’r Gorchymyn Diwygio rheoleiddio (Diogelwch Tân) yn rhoi dyletswydd gyfreithiol arnoch chi i leihau’r risgiau tân ar eich safle a gwneud yn siŵr bod pobl yn gallu mynd allan yn ddiogel mewn achos o dân.

 

“I’ch helpu gyda hyn, mae’n ofynnol i chi gwblhau asesiad risgiau tân. Yma yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, gallwn gynnig cyngor i fusnesau ar y modd y dylent gynnal asesiad diogelwch tân ar eich safle – mae hyn weithiau’n golygu ymweld â’ch safle busnes.

 

“Rydym bob amser yn mynnu bod perchnogion/rheolwyr yn bresennol yn ystod ymweliad, ac rydym bob amser yn cario cerdyn adnabod. 

 

“Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynghylch y bobl sydd yn cysylltu â chi ynghylch cynhyrchu asesiad risgiau tân, cysylltwch  â’ch adran safonau masnach leol cyn gynted â phosib.”

 

Am ragor o wybodaeth ar ddioglech tân i fusnesau cliciwch yma.

 

I gael manylion cyswllt eich swyddfa safonau masnachu leol, cysylltwch â’ch cyngor lleol.  

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen